Canlyniadau Chwilio yn categori Celfyddydau
Wedi darganfod 955 cofnodion | Tudalen 91 o 96
Diwrnod y Llyfr 2013
27/02/2013
Categori: Addysg, Celfyddydau, Newyddion
Cynhelir Diwrnod y Llyfr 2013 ddydd Iau , 07 Mawrth.
Cefnogaeth Enwogion
Aled Sion Davies, enillydd dwy fedal yn y Gêmau Paralympaidd, a’r nofwraig Olympaidd Georgia Davies, yw wynebau newydd Diwrnod y Llyfr 2013 yng Nghymru.
Yn dilyn eu llwyddiant anhygoel yn eu gwahanol gampau yn 2012, mae’r ddau wedi cytuno i roi cyhoeddusrwydd i’r ymgyrch ddarllen flynyddol bwysig hon yng Nghymru.
Bydd dros 10,000 o bosteri Diwrnod y Llyfr yn dangos delweddau o’r athletwyr yn cael eu dosbarthu trwy Gymru benbaladr yn y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod y Llyfr ar 7 Mawrth.
Mwy yma
Yr heddlu am holi dyn yn dilyn mosodi...
25/02/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio wedi i actor gael ei anafu'n ddifrifol wedi rhyddhau llun o ddyn maen nhw'n awyddus i siarad â fo.
Mae Rhys ap William, 37 oed, yn gwella ar ôl ymosodiad y tu allan i dafarn yng Nghaerdydd yn ystod oriau man bore Sul.
Yn ôl yr heddlu, fe gafodd yr actor ei ddarganfod gydag anafiadau difrifol i'w ben y tu allan i dafarn yr Admiral Napier ar Heol Ddwyreiniol Y Bont-faen yn Nhreganna, tua 0.19am.Llun CCTV Mae'r heddlu'n awyddus i siarad gyda'r dyn yma a welwyd ger y dafarn
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i adroddiadau am y digwyddiad ac yn apelio am dystion.
Maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yng ng ...
S4C yn gwahodd syniadau o ran sefydlu...
07/02/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Fel rhan o astudiaeth i'r posibilrwydd o adleoli rhannau o S4C, mae'r darlledwr wedi gwahodd ymateb gan gyrff neu sefydliadau fyddai â diddordeb mewn gweithio gyda S4C i chwilio am leoliadau newydd.Mae modd i unrhyw gorff, sefydliad neu gwmni gyfrannu syniadau sut y gallen nhw gydweithio ag S4C ac eraill i roi cartre’ newydd i rannau o waith y Sianel mewn unrhyw ran o Gymru.Yn ôl Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis, fe fydd natur yr ymateb yn helpu S4C i i wneud penderfyniadau pwysig ynglyn â’i dyhead i symud rhannau o’r gwaith i rannau eraill o Gymru.Dywedodd Garffild:“Mae’r gwahoddiad yma yn un agored ...
Dysgwr Cymraeg o Lundain yn canu'r an...
02/02/2013
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth
Mae Simon Howard sy’n enedigol o Newcastle wedi bod yn byw yn Llundain am y 13 blynedd diwethaf ac wedi bod yn dysgu Cymraeg yn raddol bach.
Mae ganddo chwaer sydd wedi priodi a Chymro ac o ganlyniad i hyn mae wedi dysgu ambell air Cymraeg a nawr yn galw eu hun yn Gymro.
Dyma fe yn chwarae’r Ukulele ac yn canu’r anthem genedlaethol Cymru.
Invertigo, Saer Doliau
31/01/2013
Categori: Celfyddydau
Sion Alun Davies a Louise Best ar gyfer Invertigo Theatre Company mewn cydberthynas â Neil McPherson ar gyfer y Finborough Theatre yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf yn Lloegr:
SAER DOLIAU gan Gwenlyn Parry Cyfarwyddwyd gan Aled Pedrick.
“Pam na cha’ i lonydd gynnoch chi? Wnes i ddim byd i haeddu cael fy nhrin fel hyn.”
Bydd y perfformiad cyntaf erioed yn Lloegr o glasur Gwenlyn Parry, ‘Saer Doliau’ - wedi ei berfformio yn y Gymraeg - yn agor yn y Finborough Theatre yn Llundain am gyfnod cyfyngedig o naw perfformiad Nos Sul a Llun a Matinee dydd Mawrth o Ddydd Sul y 3ydd Chwefror 2013 (Noson y wasg: Dydd Llun, 4 Chwefror 20 ...
Label Recordiau Sain ar werth
20/12/2012
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion
Mae label Recordiau Sain - a sefydlwyd yn 1969 - yn cael ei roi ar werth.
Dywedodd cyfarwyddwyr y cwmni fod yr amser i werthu wedi dod gan eu bod yn heneiddio.
Nid yw'r cwmni, sy'n cyflogi 24 o bobl - wedi cyhoeddi'r pris gwerthu, ond credir fod ôl-gatalog y cwmni yn werth swm sylweddol iawn.
Y nod yw ei werthu fel busnes hyfyw fel y gall y busnes barhau i fasnachu.
Sefydlwyd Sain yng Nghaerdydd cyn symud i Benygroes ac yna Llandwrog ger Caernarfon yn y 1970au.
Record gynta'r cwmni oedd un gan un o'r cyfarwyddwyr gwreiddiol, Huw Jones, sef 'Dŵr'.
Ers hynny maen nhw wedi recordio cannoedd o artistiaid o bob math o gerddoriaeth, gan gynnwys Bryn Terfel, Catatonia, Gerai ...
Gruff Rhys a'r Niwl yn canu Ni Yw y B...
12/12/2012
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth
Gruff Rhys a'r Niwl yn canu Ni Yw y Byd yng Ngwyl Hanner Cant.
*Hosan Santa* - Gwobr rhif 17: Print acrylic Gruff Rhys yn canu Ni Yw y Byd yng Ngwyl Hanner Cant. Rhoddir gan Celfcalon - yma
Cyfle i ennill hyd at £1,000
06/12/2012
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Mae 'Sion a Siân' yn chwilio am gyplau i ymddangos yn y gyfres newydd ar S4C!
Cyfle i ennill hyd at £1,000!
Does dim rhaid i chi fod yn briod, a gallwch fod yn gwpl o'r un rhyw.
Dyddiadau ffilmio - Chwefror 23 a 24 a Mawrth 23 a 24, 2013
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni nawr: events@mrproducer.co.uk 029 2091 6667
Tedi bêr Cymraeg cyntaf erioed!
05/12/2012
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Mae’r tedi bêr Cymraeg cyntaf erioed sy’n siarad gyda llais plentyn wedi cyrraedd y siopau.
Cwmni tegannau addysgiadol BabogBaby o Galway yng ngweriniaeth Iwerddon sydd wedi datblygu’r tegan wedi iddyn nhw lunio tedis Gaeleg a Gwyddeleg eu hiaith.
Mae’r arth yn costio £25.00 ac ar gael yn siop Inc. Mae’n siarad gyda llasi Mali Thomas o’r Bont-faen ac mae wedi’i dargedu at blant ifanc rhwng chwe mis a phum mlwydd oed.
Fel ei gefndryd Gaeleg a Gwyddeleg gall yr arth Gymraeg gyfri i 10 ac enwi siapiau a lliwiau. Mae ganddo eirfa eang - 33 gair i fod yn fanwl gywir!
Mae’r tedi Gwyddeleg, a lansiwyd di ...
Ffotomarathon Aberystwyth
21/11/2012
Categori: Celfyddydau
Cynhaliwyd ail ffotomarathon Aberystwyth ar ddydd Sadwrn, 27 Hydref 2012. Nod y diwrnod oedd tynnu chwe llun ar chwe thema mewn chwe awr.
Cafwyd cryn ddiddordeb gyda dros 60 o bobl yn cymryd rhan. Rhoddwyd gwobrau ar gyfer y set orau gan gamera a lensys cyfnewidiol a lensys parhaol, set orau ar gyfer 16 oed ac iau a'r set orau o luniau wedi eu cymryd gan ffôn symudol. Gwobrwywyd hefyd y llun unigol gorau ymhob thema.
Anna Irving enillodd y wobr am set a chamera gyda lensys cyfnewidiol ac Andrew Currie yn ennill am y set orau gyda chamera a lensys parhaol. Yr enillydd ifanc (16 oed ac iau) oedd Steffan Nicolas ac enillodd Mark Davies am ei gyfres o chwe llun wedi eu t ...