Canlyniadau Chwilio yn categori Iaith
Wedi darganfod 1384 cofnodion | Tudalen 1 o 139
Ail-ddatblygu canolfan Gymraeg yng Ng...
19/01/2021
Categori: Addysg, Celfyddydau, Gwleidyddiaeth, Hamdden, Iaith, Newyddion
Caiff cynlluniau i ail-ddatblygu canolfan Gymraeg hanesyddol yng Nghaerdydd eu trafod mewn cyfarfod cyhoeddus yr wythnos hon. Fe roddwyd Tŷ’r Cymry, sydd wedi ei leoli yn ardal y Rhath yn y brifddinas, i Gymry Cymraeg Caerdydd ym 1936 er mwyn hyrwyddo’r iaith a statws cyfansoddiadol i Gymru.
S4C yn rhyddhau 80 awr o raglenni ar ...
18/01/2021
Categori: Addysg, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith, Iechyd, Newyddion
Gydag ysgolion ar gau a rhieni yn addysgu plant o adref, mae S4C a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd 80 awr o raglenni yn cael eu darparu ar borth addysg Hwb, Llywodraeth Cymru, a bydd pecynnau BBC Bitesize yn cael ei darlledu ar S4C ar hyd yr wythnos.
Cyfle i ddweud eich dweud ar dreth cy...
18/01/2021
Categori: Amgylchedd, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion
Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio ar gynnig i gynyddu’r Premiwm Treth Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor i hyd at 100% ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.
Cyngor Gwynedd yn gorfod newid cyfnod...
14/01/2021
Categori: Addysg, Iaith, Newyddion
Mae Cyngor Sir Gwynedd wedi newid y cyfnod ymgynghori ar gynnig i gau Ysgol Gynradd Abersoch yn dilyn cŵyn gan y Gymdeithas yr Iaith nad oedd yn deg cynnal ymgynghoriad tra bo’r ysgol ar gau.
Y mis uchaf erioed i S4C ar Facebook
12/01/2021
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Hamdden, Iaith, Newyddion
Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw mai mis Rhagfyr oedd y mis uchaf erioed o ran sesiynau gwylio ar brif dudalen Facebook y sianel.
Wythnos dywyll i'r Gymraeg yn Sir Gâr...
11/01/2021
Categori: Addysg, Iaith, Newyddion
Heddiw mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cychwyn ymgynghoriad statudol chwe wythnos ar gynnig i gau Ysgol gyfrwng Cymraeg Mynydd-y-Garreg ger Cydweli tra bo'r ysgol ei hun ar gau oherwydd pandemig.
Cyfle i ennill teledu wrth rannu barn...
11/01/2021
Categori: Celfyddydau, Hamdden, Iaith, Newyddion
Mae S4C wedi lansio holiadur newydd i gasglu barn y cyhoedd am y sianel fel rhan o'i strategaeth newydd.
Mudiad iaith yn cyhuddo Cyngor Gwyned...
07/01/2021
Categori: Addysg, Iaith, Newyddion
Mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu penderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd i gyhoeddi ymgynghoriad gyhoeddus i gau Ysgol Abersoch heb rybudd digonol a thrwy hyn dorri’r Côd Trefniadaeth Ysgolion.
Cyhoeddi fideo i helpu rhieni di-Gymr...
06/01/2021
Categori: Addysg, Hamdden, Iaith, Newyddion
Mae Menter Iaith Môn ar y cyd ag Ysgol Parc y Bont, un o ysgolion cynradd Cyngor Ynys Môn, wedi cynhyrchu fideo i roi arweiniad i rieni plant cynradd ar sut i gefnogi’r addysg Gymraeg yn y cartref.
Mudiadau Cymraeg yn gosod her i Gymre...
04/01/2021
Categori: Addysg, Ar-lein, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith, Newyddion
Mae mudiadau Cymraeg wedi gosod her i'w hunain i gyfrannu clipiau llais ar gyfer gwefan Common Voice Cymraeg sy'n anelu i greu cronfa ddata ar gyfer dyfeisiadau technoleg clyfar.