Canlyniadau Chwilio yn categori Iaith

Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 1314 cofnodion | Tudalen 123 o 132

Teyrngedau i Gerallt Lloyd Owen

16/07/2014
Categori: Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Fe fu farw Gerallt Lloyd Owen ddoe yn 69 oed. Fe gadarnhaodd ei deulu'r newyddion, gan ddweud ei fod wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn salwch byr. Un o feirdd mwya’r Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif.
 
Yn un o feirdd enwocaf Cymru roedd Gerallt Lloyd Owen yn un o’r cynganeddwyr gorau erioed, yn ysbrydoli'r genedl gyda’i gerddi gwladgarol.
 
Fe’i ganwyd yn Y Sarnau, Sir Feirionnydd yn 1944 a gyhoeddodd ei gyfrol gyntaf, Ugain Oed a’i Ganiadau yn ifanc iawn. Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1975 a 1983.
 
Ers y newyddion trist mae nifer o bobl wedi rhoi teyrnged i’r bardd. Darllenwch ymlaen i ddarllen rhai o’r teyrngedau ar ...

darllenwch mwy

S4C yn talu teyrnged i Gerallt Lloyd ...

16/07/2014
Categori: Celfyddydau, Iaith, Llenyddiaeth

S4C yn talu teyrnged i Gerallt Lloyd Owen


Gerallt Lloyd Owen

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd nifer o raglenni arbennig yn cael eu hamserlennu dros y dyddiau nesaf er cof am Gerallt Lloyd Owen - un o feirdd mwyaf yr ugeinfed ganrif yng Nghymru, a fu farw ddoe.
 
Heddiw ar Prynhawn Da bydd y Prifardd Robat Powell yn cofio am Gerallt Lloyd Owen.
 
Mewn rhaglen arbennig o Heno (heddiw, 16 Gorffennaf) bydd; Ceri Wyn Jones, Eurig Salisbury, Dafydd Iwan, Mererid Hopwood a Tudur Dylan yn rhoi teyrngedau.
 
Nos Sadwrn, 19 Gorffennaf am 9.30 bydd y ffilm ddogfen Gerallt yn cael ei dangos eto, gyda chyfle arall i’w gwylio nos Lun (21 Gorffennaf), am 10.00pm gydag is-deitlau agored. Enillodd wobrau am ddogfen orau 2013 Bafta Cymru, ac yn y ...

darllenwch mwy

Gerallt Lloyd Owen wedi marw

15/07/2014
Categori: Celfyddydau, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Gerallt Lloyd Owen wedi marw


Gerallt Lloyd Owen

Mae'r Prifardd Gerallt Lloyd Owen wedi marw yn 69 oed.
 
Fe gadarnhaodd ei deulu'r newyddion, gan ddweud ei fod wedi marw yn yr ysbyty am 3.30pm yn dilyn salwch byr.
 
Roedd yn Feuryn ar y rhaglen farddoniaeth boblogaidd Talwrn y Beirdd ar BBC Radio Cymru am 32 mlynedd.
 
Fe'i ganwyd yn Y Sarnau, Sir Feirionnydd, ym mis Tachwedd 1944 a'i addysgu yn Ysgol Y Sarnau; Ysgol Tytandomen, Y Bala a'r Coleg Normal, Bangor.
 
Bu'n athro yn Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd; Ysgol Glyndwr, Pen-y-Bont ar Ogwr ac Ysgol Gymraeg Y Betws cyn mynd ati i sefydlu Gwasg Gwynedd yn 1972.
 
Bu'n gyfrifol am ddylunio a chyhoeddi'r comics Cymraeg, Yr Hebog a Llinos yn ogystal â ...

darllenwch mwy

Cwmni Cymen o Gaernarfon yn camu i dd...

15/07/2014
Categori: Arian a Busnes, Iaith, Newyddion

Mae Cymen – cwmni cyfieithu o Gaernarfon – wedi cyhoeddi ei fod yn symud ei bencadlys i adeilad sydd newydd ei adnewyddu, sef Hen Orsaf Heddlu Caernarfon.
 
Wrth i’r galw am wasanaethau iaith Gymraeg gynyddu'n gyflym yn y blynyddoedd diwethaf, mae Cymen – un o asiantaethau cyfieithu iaith Gymraeg mwyaf Gogledd Cymru - wedi bod yn cynyddu ei staff a’i wasanaethau ac wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn symud i adeilad mwy a gwell.
 
Yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth iaith Gymraeg o gyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd i leoleiddio meddalwedd a gwefannau a gwasanaethau eraill, mae Cymen wedi tyfu’n rhy fawr i’w swyddfa bresennol yn Nhw ...

darllenwch mwy

Cwmni yn edrych am siaradwyr Cymraeg

14/07/2014
Categori: Ar-lein, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith

Mae cwmni newydd yn chwilio am siaradwyr Cymraeg i brofi ap y mae wedi ei ddatblygu. Mae Cwmni Digidol a sefydlwyd gan y cyn-weinidog Addysg Leighton Andrews a chyn Gyfarwyddwr Technegol Box UK, Stuart Arthur, wedi datblygu ap o’r enw Cwtsh (neu Cwtch yn Saesneg) y bwriedir ei gyhoeddi yn hwyrach eleni. Bydd yr ap ar gael yn Gymraeg a Saesneg mewn fersiynau iOS ac Android.
 
Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn trafod lawnsio’r ap gydag S4C.
 
Dywed Leighton Andrew,’Rydym yn gobeithio y bydd hwn yn ap arloesol ar gyfer yr iaith Gymraeg. Rydym wedi buddsoddi yn breifat yn y datblygu a chynllunio er mwyn sicrhau profiad esmwyth ar gyfer y defnyddydd’.
  ...

darllenwch mwy

Cerddwn Ymlaen - 8 diwrnod, 200 milltir

14/07/2014
Categori: Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Ar ddydd Sadwrn y 12fed o Orffennaf yn Ffair Tafwyl, Caerdydd fe wnaeth Rhys Meirion a criw o 15 o gerddwyr gorffen taith fythgofiadwy ar draws Cymru. Yn y trydedd flwyddyn mae Cerddwn Ymlaen yn codi arian gwerthfawr i’r Ambiwlans Awyr Cymru.
 
Eleni cychwynnodd y daith ym Mae Colwyn ar y 5ed o Orffennaf a gorffen 200 o filltiroedd yn hwyrach yng Nghaerdydd. Yn ogystal â 16 o gerddwyr craidd yn cynnwys, Tudur Owen, Sioned Terry, Gerallt Pennant, Lucie Jones, Iolo Williams a Robin Mcbryde fe wnaeth nifer o bobl arall ymuno ar daith bob diwrnod i gefnogi yr achos.
 
Yn sialens a hanner mae’r ymgyrch yn codi arian hanfodol i un o elusennau mwyaf amlwg Cymru.  ...

darllenwch mwy

Y Gwyll yn y Gymraeg yng Ngwlad Belg

14/07/2014
Categori: Celfyddydau, Iaith, Newyddion

Y Gwyll yn y Gymraeg yng Ngwlad Belg


Y Gwyll/Hinterland

Gwylwyr yng Ngwlad Belg fydd y cyntaf y tu allan i’r Deyrnas Unedig i weld cyfres dditectif fawr S4C, Y Gwyll/Hinterland, yn yr iaith Gymraeg.
 
Ar nos Lun 14 Gorffennaf, bydd y bennod gyntaf yn cael ei dangos ar sianel Canvas, rhan o rwydwaith y darlledwr VRT, i ddechrau wythnos arbennig o ddramâu trosedd ar y sianel. Bydd y gyfres gyfan yn cael ei darlledu gan Canvas yn hwyrach yn y flwyddyn.
 
I nodi'r darllediad Cymraeg tramor cyntaf, mae noson première arbennig yn cael ei chynnal yng Nghartref Swyddogol Llysgennad y DU ym Mrwsel.
 
Mae'r première wedi ei threfnu gan y darlledwyr VRT yng Ngwlad Belg, mewn cydweithrediad ag S4C, Llywodraeth C ...

darllenwch mwy

Arriva yn ymddiheuro i'r Prif Weinidog

14/07/2014
Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae Trenau Arriva Cymru wedi ymddiheuro ddoe i Carwyn Jones ar ôl i aelod o staff ymateb i’r Prif Weinidog ynglŷn â chŵyn am yr iaith Gymraeg. Ar ddydd Sadwrn fe wnaeth y Prif Weinidog Trydar Trenau Arriva Cymru yn cwyno am ddiffyg yr iaith Gymraeg yn y cyhoeddiadau yn Orsaf trên Caerdydd.
 
 
Roedd yr ymateb y derbyniodd o aelod o’r staff yn ‘amhroffesiynol’ yn ôl y Prif Weinidog a ymatebodd ar Trydar yn synnu nad oedd Arriva wedi medru ymateb yn briodol. Ar ôl ychydig o amser ymatebodd Arriva eto gydag ymddiheuriad swyddogol.
 
 
Darllenwch ymlaen i weld yr ymddiheuriad wrth Arriva ac i weld yr ymateb ar tryda ...

darllenwch mwy

Dechreuad da i Wythnos Tafwyl

14/07/2014
Categori: Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Dechreuad da i Wythnos Tafwyl


Ffair Tafwyl 2014

Yn Gastell Caerdydd ar ddydd Sadwrn croesawodd y brifddinas Tafwyl eleni eto gydag un o’r uchafbwyntiau'r wythnos, Ffair Tafwyl. Gyda cherddoriaeth, chwaraeon, celf, coginio, stondinau, cynnyrch lleol, sesiynau llenyddol a llawer mwy roedd yna rywbeth i’r teulu oll i fwynhau a fe ddaeth dros 16,500 o bobl allan i gefnogi y digwyddiad. 
 
Mae’r wythnos yn parhau gyda gweithgareddau ar draws y ddinas yn cynnwys Clonc yn y Cwtsh gyda Heather Jones, Bore Coffi i ddysgwyr, Noson Gomedi, Helfa Drysor a Chystadleuaeth Golff. Felly manteisiwch ar y cyfle i fwynhau llu o weithgareddau. 
 
Darllenwch ymlaen i weld rhai o luniau, fideos a negeseuon y diwrnod ma ...

darllenwch mwy

Ap Sioe Frenhinol Cymru wedi’i uwchra...

14/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Ar-lein, Iaith, Newyddion

Ap Sioe Frenhinol Cymru wedi’i uwchraddio


Ap Sioe Frenhinol Cymru

Mapiau, atyniadau, cystadlaethau a chanlyniadau… mae fersiwn eleni o Ap Sioe Frenhinol Cymru ar gael yn awr.
 
Ar gefn llwyddiant arbennig ap newydd Sioe Frenhinol Cymru y llynedd, mae’r gymdeithas ar y cyd ag S4C a Moilin Cyf, wedi cynhyrchu fersiwn uwchraddedig newydd ar gyfer sioe eleni i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl gyffro o faes y sioe.
 
Bydd ymwelwyr â’r sioe yn gallu uwchraddio ap y llynedd, neu lawrlwytho fersiwn eleni cyn y sioe am ddim.
 
Mae’r erfyn dwyieithog defnyddiol yma’n cynnwys map rhyngweithiol o faes y sioe sy’n ei gwneud hi’n hawdd lleoli’r holl atyniadau yn y sioe, amserlen lawn o&rsq ...

darllenwch mwy