Canlyniadau Chwilio yn categori Newyddion

Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 3749 cofnodion | Tudalen 354 o 375

Ar y Ffordd i Llanelli.....Eisteddfod...

30/07/2014
Categori: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Iaith, Newyddion

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn agor y drysau i’r cyhoedd yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin wythnos nesa ond mae safle'r maes wedi bod yn prysuro ers amser nawr. Mae’n dasg anferth i gael y safle yn barod pob blwyddyn ac mae’r maes fel arfer tua 35 acer mewn maint ac yn gartref i’r pafiliwn pinc a hyd at 300 o stondinau. 
 
Dros y diwrnodau diwethaf mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn llawn negeseuon wrth y rhai sydd yn paratoi ar gyfer yr wythnos, pawb yn brysur yn cyrraedd Llanelli. 

Dros yr Eisteddfod fyddwn yn casglu'r newyddion diweddara o’r cyfryngau cymdeithasol felly dewch 'nôl yn ystod yr wythnos. 

Dar ...

darllenwch mwy

Llyfr ofnadwy o ddifyr, bywiog a darl...

30/07/2014
Categori: Adolygiadau Llyfrau, Iaith, Newyddion

Newydd ei chyhoeddi y mae'r gyfrol hon sy’n edrych ar waith un o feirdd pwysicaf Cymru, y diweddar Iwan Llwyd. Gyda chyfraniadau gan feirdd a beirniaid llenyddol amlwg mae Awen Iwan yn cynnig astudiaeth fanwl o waith y bardd fu farw yn 2010. Dyma’r gyfrol gyntaf i gynnig trafodaeth gynhwysfawr o’i waith.
 
Bydd y gyfrol yn cael ei lansio yn swyddogol mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanelli yr wythnos nesaf. Ar fore Iau 7 Awst ceir lansiad yn y Lolfa Lên yng nghwmni’r golygydd, Twm Morys, a hefyd Myrddin ap Dafydd a Guto Dafydd, a bydd Geraint Lovgreen a’r Enw Da yno i ganu rhai o ganeuon Iwan. Cyfranwyr eraill y gyfrol y ...

darllenwch mwy

Cytundeb Pro 12 i BBC Cymru a S4C

30/07/2014
Categori: Chwaraeon, Newyddion

Mae BBC Cymru ac S4C wedi cyhoeddi eu bod wedi arwyddo cytundeb i rannu gemau Pro12 dros y pedair blynedd nesaf.

Mi fydd y gemau nos Wener i'w gweld ar Scrum V Live ar BBC 2 a gemau prynhawn Sul ar y Clwb Rygbi ar S4C. Fe gafodd cystadleuaeth Ewropeaidd newydd ei chyhoeddi yn ddiweddar ac mi fydd y brwydro yn chwyrn ar gyfer sicrhau lle yn honno ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Saith tîm o'r Pro12 fydd yn cael chwarae yn y Cwpan y Pencampwyr Rygbi Ewropeaidd - y tîm uchaf o bob gwlad a'r tri tim arall sy'n gorffen uchaf yn y tabl.
Yn ôl y cytundeb mi fydd yr hawliau ar gyfer y gemau cynderfynol a'r rownd derfynol yn cael eu rhannu rhwng y darlledwyr os yw un neu fwy o r ...

darllenwch mwy

Dewch gyda ni ar daith ddigidol Gwefa...

28/07/2014
Categori: Newyddion

Hwre! Mae Lleol.net wedi dod o hyd i Fan a Threlar newydd sbon ac yn fuan iawn fe fyddwn yn dechrau ar ein taith ddigidol ar hyd a lled Cymru.
 
Yn ystod y daith fe fyddwn yn ymweld â phob sir yn eu tro. Fe fydd y daith yn gyfle arbennig i bobol Cymru dangos ei balchder tuag at ei hardaloedd Lleol ac hefyd yn ffordd i bobol eraill cael cyfle i wybod am ardaloedd gwahanol yng Nghymru.
 
Ym mhob sir fe fyddwn yn cwrdd ag yn cyfweld gyda phobol leol, enwogion lleol, edrych ar luniau lleol, hanes lleol, ystadegau lleol ymysg nifer o weithgareddau eraill. Yn ystod y daith fe fydd modd i chi ennill gwobrau hefyd.
 
Felly, dewch gyda ni i grwydro Cymru ac i weld be sydd g ...

darllenwch mwy

Anelu'n Uwch - Ysgol Haf

28/07/2014
Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn falch iawn o gyhoeddi manylion digwyddiad newydd a chyffrous: Anelu’n Uwch. Ysgol haf cyfrwng Cymraeg fydd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor yn ystod wythnos 18-22 Awst 2014 ydy Anelu’n Uwch. Anelir yr ysgol at ddysgwyr sy’n bwriadu mynd i Brifysgol, a heb wneud eu ceisiadau eto.
 
Bwriad Anelu’n Uwch ydy rhoi blas o Addysg Uwch i bobl ifanc sy’n ystyried symud ymlaen o Addysg Bellach i Addysg Uwch. Dywed Awen Schiavone, Prif Swyddog y Prosiect: ‘Rydym yn hynod gyffrous am allu cynnig y cyfle hwn i bobl ifanc gael profiadau fydd yn eu paratoi nhw at addysg uwch, a hynny ar safle prifysgol. Bydd y mynychwyr yn datb ...

darllenwch mwy

Gemau'r Gymanwlad - Cymru yn yr 8fed ...

28/07/2014
Categori: Chwaraeon, Newyddion

Gyda Gemau’r Gymanwlad yn y 5ed diwrnod mae Tîm Cymru wedi cael sawl llwyddiant dros y penwythnos ac yn eistedd yn yr 8fed safle yn y tabl medalau. Mae’r tîm wedi ennill 18 medal hyd yn hyn yn cynnwys  2 Aur, 8 Arian a 8 Efydd.

Y gymnastwraig rhythmig Frankie Jones enillodd y fedal aur cyntaf wedi iddi ennill tair arian ar yr un diwrnod. Fe ddaeth yr ail fedal aur trwy Natalie Powell yn y categori dan 78kg yn y Judo. Daeth Powell i’r gemau fel un o’r ffefrynnau a fe ddaeth i’r brig. 

Dros y diwrnodau nesaf byddwn yn gweld Aled Davies yn ceisio am fedal yn y discws a Jazz Carlin yn nofio yn y 800m dull rhydd. Pob lwc i bawb sydd yn cys ...

darllenwch mwy

Gwobr arall i Sgiliaith

25/07/2014
Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Gwobr arall i Sgiliaith


Liz Saville, Angharad Roberts ac Awen Schiavone

Mae Sgiliaith yn falch iawn o gyhoeddi ennill gwobr am adnodd digidol mewn gwobrau cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Gwobr Cynnwys Digidol Gwreiddiol mewn Addysg Bellach yw teitl y wobr, ac fe’i cyflwynwyd mewn seremoni wobrwyo yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Roedd Digwyddiad a Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2014 yn rhedeg am yr ail dro eleni, gydag wyth o wobrau amrywiol am ddefnydd arloesol o dechnoleg ddigidol mewn addysg.

Ym mis Medi 2013 gofynnodd Hunaniaith (Menter Iaith, Cyngor Gwynedd) i Sgiliaith (sy’n adran o fewn Grŵp Llandrillo Menai) greu adnodd i’w gyflwyno i bobl ifainc fyddai’n codi eu hymwyby ...

darllenwch mwy

"Bu’n sioe a hanner, ond nid ydym am ...

25/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Arian a Busnes, Bwyd, Celfyddydau, Cystadlaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hamdden, Iaith, Newyddion

"Bu’n sioe a hanner, ond nid ydym am laesu dwylo"


Y Sioe Fawr 2014

Roedd Sioe Frenhinol Cymru eleni yn achlysur a hanner fel yr oedd pawb wedi’i ragweld.
 
Gyda mwy o bobl sy’n talu’n dod drwy’r giatiau, mwy o aelodau i’r gymdeithas, mwy o geir yn defnyddio’r meysydd parcio am ddim, mwy nag erioed o dda byw’n cystadlu, cynnydd yn nifer y stondinau masnach a rhaglen gystadlaethau hynod o lwyddiannus, mae sioe’r wythnos hon wedi rhagori ar bob disgwyl.
 
Yn siarad ar ddiwrnod olaf y sioe, dywedodd Mr David Lewis, Cadeirydd Cyngor CAFC nad oedd yn 40 mlynedd ei gysylltiad â’r gymdeithas erioed wedi gweld y fath gasgliad o dda byw eithriadol â’r rheini a oedd yn cael eu dangos ...

darllenwch mwy

Ymgyrch Cefnogwch eich Stryd Fawr

24/07/2014
Categori: Arian a Busnes, Newyddion

Beth sy’n gwneud eich stryd fawr chi yn lle mor wych? Yr hydref hwn, bydd Llywodraeth Cymru’n lansio ymgyrch ‘Cefnogwch eich Stryd Fawr’.
 
Mae’r ymgyrch yn elfen bwysig o’r Fframwaith ‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’, a’i nod yw annog pobl a’u cymunedau i ddefnyddio eu stryd fawr leol.
 
Bydd wythnos yr ymgyrch yn dechrau ar 20 Medi ac rydym yn cydweithio â phartneriaid ar draws Cymru i ddatblygu digwyddiadau a gweithgareddau.
 
Bydd cymunedau lleol yn hanfodol i lwyddiant yr ymgyrch.  Fel rhan o hyn, rydym yn cynnal cystadleuaeth i blant rhwng 8 ac 11 oed (blynyddoedd 3-6) yr ysgolion lleol i&rsq ...

darllenwch mwy

S4C yn arwyddo cytundeb hanesyddol gy...

23/07/2014
Categori: Arian a Busnes, Iaith, Newyddion

Mae S4C wedi arwyddo Cytundeb o Fwriad i gydweithio ar amrywiaeth o gynyrchiadau gyda sianel JTV yn Ne Corea.
 
Dyma’r tro cyntaf i’r darlledwr S4C a’r cwmni cynhyrchu o Gaernarfon, Awen Media a Rondo Media, gydweithio mewn partneriaeth gyda darlledwr o Dde Corea.
 
Bydd y cynhyrchwyr o Gymru yn dechrau ffilmio tair rhaglen ddogfen yn Ne Corea ym mis Medi.
 
Mae’r cydweithio wedi dod yn bosibl drwy gydweithrediad a thrafodaethau gyda’r cwmni The Bridge, cwmni annibynnol ac arloesol sy’n pontio cynhyrchwyr ym Mhrydain gyda chwmnïau yn Asia.
 
Bydd un rhaglen ddogfen yn olrhain hanes y cenhadwr Robert Jermain Thomas yn ne Cor ...

darllenwch mwy