Canlyniadau Chwilio yn categori Newyddion

Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 3798 cofnodion | Tudalen 379 o 380

Golwg yn ôl ar 2011 drwy gyfrwng fideo

28/12/2011
Categori: Ar-lein, Chwaraeon, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

EDRYCH YN ÔL AR 2011 - Golwg yn ôl ar 2011 drwy gyfrwng fideo
 
Rhai o'r digwyddiadau pwysig neu ddiddorol gafodd eu hadrodd yn ystod 2011 ar wefan BBC Cymru drwy gyfrwng fideo.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
IONAWR
Aeth Craig Duggan i Feirionnydd i glywed mwy
Parhau yn fregus mae rhagolygon economaidd ac felly cynyddu mae pris aur ar farchnadoedd y byd.
Yng Nghymru mae panio am aur wedi bod yn digwydd ers canrifoedd mewn rhai ardaloedd.
Ond ar hyn o bryd nid yw panio yn cael ei ganiatáu yn un o'n ardaloedd aur enwoca' - ardal Dolgellau - oherwydd pryder am yr effaith ar yr amgylchedd.
 
 
 
 
...

darllenwch mwy

'Carreg filltir' i gyhoeddwyr

27/12/2011
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion

Am y tro cyntaf mae modd darllen detholiad o lyfrau Cymraeg ar declyn y Kindle.

Mae'r Lolfa wedi cyhoeddi naw o nofelau poblogaidd Cymraeg yn e-lyfrau ar wefan Amazon.
 
Yn gynharach yn y flwyddyn dywedodd y cyhoeddwyr eu bod yn rhwystredig am nad oedd Amazon yn "gallu cyhoeddi llyfrau Cymraeg" ar y Kindle.
 
Roedd y wasg wedi gofyn am gyhoeddi llyfrau yn y dull hwn ers 2010 ond mae gwaith technegol yn golygu y gall Amazon gyhoeddi e-lyfrau Cymraeg. '
 
Yn bell'
 
"Yn sgil galw nifer o gwsmeriaid dros y flwyddyn rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o'n nofelau poblogaidd ar y Kindle eleni," meddai Garmon Gruffudd o'r Lolfa.
 
"Gobeithio y bydd hyn yn gyfle i ...

darllenwch mwy

Tybed os mai yn fan hyn y mae Sion Co...

22/12/2011
Categori: Newyddion

Tybed os mai yn fan hyn y mae Sion Corn yn byw? Dyma dy Gareth Edwards sydd yn drydanwr yn ardal y Bala. Os ydych chi yn y cyffunia rhywbryd, mae werth ei weld, ac mae hefyd yn hel tuag at elusenau gwahannol.
 
 

Rhaglenni dros y Nadolig ar S4C

21/12/2011
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Rhagflas rhai o raglenni'r Dolig ar S4C, gan gynnwys Noson Lawen Ieuenctid, Pobol y Cwm, Sioe Dolig Tudur Owen, Dim Byd, Cariad@Iaith:Love4Language, Dudley: Pryd o Ser, Jonathan, Seren Nadolig Rhos, Mel a Nia, Rhydian, Only Men Aloud a mwy.
 
 
 
 
 


 
Gwefan S4C

Dim.Cymru

19/12/2011
Categori: Ar-lein, Newyddion

Neges gan Maredudd ap Gwyndaf Cyfarwyddwr, dotCYM

Gyda thristwch cysylltaf â chi heddiw i’ch hysbysu y bydd dotCYM Cyf. mwy na thebyg ddim yn gallu ceisio am barth lefel-uchaf (PLU) .cymru ar gyfer Cymru. Yn hytrach na gweithio gyda dotCYM i greu cais cryf am barth lefel-uchaf i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd cwmni o Rydychen sy’n rhedeg parth .uk, Nominet, i ddod i Gymru i gystadlu yn erbyn dotCYM am gefnogaeth y Llywodraeth, gan adael iddo ladd y gystadleuaeth leol a gwarchod ei monopoli o’r farchnad parthau yn y DU. Ers 9fed Rhagfyr mae gwahoddiad cyhoeddus i unrhyw gwmni i gystadlu am berchnogaeth a rheolaeth dros yr enw Cymreig ar-lein (http://sell ...

darllenwch mwy

Fideo - Cyfweliad gyda Sian Summers a...

16/12/2011
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Fideo - Cyfweliad gyda Sian Summers am y sioe Y Coblynnod a’r Cryddion

Mae Sherman Cymru’n dod yn ôl i’r Stiwdio dros y  Nadolig gyda’u cynhyrchiad olaf cyn iddyn nhw ail agor eu drysau ddechrau 2012 ar ôl 18 mis o waith ailddatblygu.

Mae Nadolig yr hen wneuthurwyr esgidiau yn mynd i fod yn hir ac yn oer.  ‘Does dim bara yn y tŷ, dim pren i’w roi ar y tân a dim arian i brynu  anrhegion. Ond mae dau o’r corachod bychain yn cael syniad - ac mae un  darn o ledr ar ôl i wneud un pâr arall o esgidiau. Gyda phinsiad o hud  arbennig mae’r rhod ar droi - er gwell. Mae dawn Sherman Cymru o a ...

darllenwch mwy

Cyfle i ennill 4 tocyn i weld Y Cobly...

12/12/2011
Categori: Cystadlaethau, Newyddion

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig cyfle i deulu ennill 4 tocyn i weld Y Coblynnod a’r Cryddion ar 20 Rhagfur.
 
Fel anrheg Nadolig cynnar gan y Ganolfan, mae’n gyfle i’r teulu mwynhau clasur o ddrama tylwyth teg dros yr ŵyl.  Gyda cherddoriaeth fyw a phypedau, bydd sioe newydd Sherman Cymru Y Coblynnod a’r Cryddion yn sicr o blesio’ch rhai bach - ac rydyn ni wedi clywed bod ambell riant wedi mwynhau hefyd. 
 
Caiff yr enillydd ei gyhoeddi ar 16 Rhagfur.
 
 
 

 
 
I gystadlu, rhowch eich enw, e-bost a'ch rhif ffôn yn y blychau islaw.

Cerddorion i fynd ar 'streic'

06/12/2011
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Mae corff sy'n cynrychioli rhai o gerddorion Cymru'n dweud y byddan nhw'n mynd ar streic am dridiau'n ddiweddarach y mis hwn.Dywedodd Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd Cymru fod yr aelodau'n anfodlon iawn â'r taliadau sy'n cael eu rhoi iddyn nhw am chwarae eu gwaith ar Radio Cymru.Cafodd streic undydd ei chynnal Ddydd Gŵyl Dewi eleni.Dywedodd Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd Cymru: "Er mwyn dangos ein hanfodlonrwydd â'r sefyllfa rydym am atal ein cerddoriaeth am dri diwrnod sef y 19eg, yr 20fed a'r 21ain o Ragfyr, 2011."Mynnwn newid y drefn, a chael taliad teg i gyfansoddwyr Cymru am eu gwaith."Ers tair blynedd bellach, mae llawer o gerddorion wedi gadael y byd ...

darllenwch mwy

Croesawu Meri’n Gomisiynydd Ond Anegl...

29/11/2011
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Wrth benodi Meri Huws i swydd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru yn dilyn un o’r ffasiynau rhyngwladol diweddaraf ym maes polisi iaith. Mae Iwerddon bellach wedi ailbenodi ei An Coimisináir Teanga am ail dymor o chwe mlynedd, cymaint fu llwyddiant Sean O’Cuirreáin yn ei dymor cyntaf. Mae’n ymddangos fod Canada hithau yn fodlon â Graham Fraser, cyn-newyddiadurwr rhadlon yr olwg sydd wedi bod yn Gomisiynydd Ieithoedd Swyddogol y wlad am bum mlynedd bellach. Ef yw’r chweched i gael ei benodi i’r swydd, sydd wedi bod yn rhan annatod o gymdeithas sifig Canada er 1970.
 
Yn wir, pe bai Ms Huws yn dymuno efelychu rhywun yn ei ...

darllenwch mwy

S4C yn cyhoeddi Adroddiad Richie Turner

29/11/2011
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion

Mae Awdurdod S4C wedi cyhoeddi Adroddiad Richie Turner am effeithlonrwydd ac arloesedd y sianel.
Mae'r adroddiad yn cynnwys sawl beirniadaeth o reolaeth y sianel, ac yn cynnig nifer o argymhellion i wella rheolaeth, diwylliant a chyfathrebu mewnol S4C.
Dywedodd yr awdurdod eu bod yn derbyn yr argymhellion a'u bod eisoes wedi gweithredu cynnwys yr adroddiad.
Cafodd Adroddiad Turner ei gomisiynu gan Awdurdod S4C ac fe gyhoeddwyd rhai o'r canfyddiadau mewn papur newydd ym mis Gorffennaf - fisoedd cyn i'r adroddiad gael ei gyhoeddi'n swyddogol.
Roedd Mr Turner o Academi Fyd-eang Prifysgol Cymru.
Wedi hyn fe wnaeth y brifysgol gychwyn ymchwiliad ac fe gafodd aelod o staff - nid awdur yr adro ...

darllenwch mwy