Canlyniadau Chwilio yn categori Papurau Bro
Wedi darganfod 10 cofnodion | Tudalen 1 o 1
Actorion yn recordio cân er mwyn codi...
05/05/2020
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Hamdden, Iaith, Newyddion, Papurau Bro
Mae aelodau cast gwreiddiol y sioe gerdd eiconig ‘Deffro’r Gwanwyn’ wedi ail-greu’r gân hudolus ‘Hâf ein Hiraeth’ er mwyn codi arian i Tarian Cymru.
Lansio pecyn darganfod i blant mewn d...
18/10/2017
Categori: Amgylchedd, Hamdden, Papurau Bro
Mae ymwelwyr ifanc a fydd yn ymweld â dwy o ganolfannau ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael cynnig help llaw i archwilio’r awyr agored bendigedig yr hydref hwn.
Cogyddion amatur yn brwydro i goginio...
14/02/2017
Categori: Bwyd, Newyddion, Papurau Bro
Fe fydd nifer o gogyddion amatur yn mynd ben-ben nos Wener yma yng Nghaernarfon i goginio cyri'r gorau er mwyn codi arian tuag at yr ŵyl fwyd a fydd yn cael ei chynnal ar Fai 13eg eleni.
Galw am ymchwiliad brys i ddatblygu y...
08/02/2017
Categori: Addysg, Iaith, Papurau Bro
Mae Dyfodol i’r Iaith wedi galw ar Weinidog y Gymraeg i ymchwilio ar fyrder i ddiffyg ymrwymiad rhai awdurdodau lleol i wella a datblygu ysgolion Cymraeg o fewn eu siroedd.
Hybu Cig Cymru yn cyfarfod cynrychiol...
01/02/2017
Categori: Amaethyddiaeth, Bwyd, Gwleidyddiaeth, Newyddion, Papurau Bro
Bydd y corff Hybu Cig Cymru yn croesawu cynrychiolwyr cig eidion a chig oen o Seland Newydd am gyfres o gyfarfodydd yr wythnos hon.
Holi Ifan Morgan Jones am ei gynlluni...
11/01/2017
Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Iechyd, Papurau Bro
Mae darlithydd yn y cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor wedi lansio cronfa newydd trwy nawdd torfol i sefydlu gwefan newyddion genedlaethol trwy gyfrwng y Saesneg, ac mae Lleol.cymru wedi holi Ifan Morgan Jones ymhellach am ei gynlluniau.
Cyfnod newydd i ddau bapur lleol
12/10/2016
Categori: Newyddion, Papurau Bro
Mae perchennog dau bapur newydd wythnosol yn ardal Y Bala a Corwen, Y Cyfnod a’r Corwen Times yn chwilio am brynwr newydd i’r busnes.
Lansio deiseb i achub swyddfa'r Caern...
01/04/2015
Categori: Arian a Busnes, Newyddion, Papurau Bro
Yn dilyn y cyhoeddiad gan gwmni Trinity Mirror yr wythnos diwethaf eu bod yn cau swyddfa un o bapurau hynaf Cymru, y Caernarfon and Denbigh Herald yng Nghaernarfon, mae deiseb wedi'i lansio a phrotest wedi'i threfnu yn galw ar y cwmni i ail-ystyried y penderfyniad.
Bydd cau'r swyddfa'r papur lleol yn dod a diwedd i 180 o flynyddoedd o hanes newyddiaduraeth brint yn y dref. Roedd Caernarfon yn cael ei ystyried yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif fel prif ddinas inc Cymru, gyda thros 17 o bapurau newydd yn y dref ar un cyfnod.
Mae'r ddeiseb ar y we wedi'i lansio gan Undeb y Newyddiadurwyr, yn "beirniadu’n hallt gynnig Trinity Mir ...
Pen-blwydd cyntaf Y Cyfnod a Corwen T...
29/05/2014
Categori: Newyddion, Papurau Bro
Heddiw (Mai 29, 2014) mae papur newydd lleol y Bala, Y Cyfnod a’i chwaer bapur, Corwen Times, yn dathlu blwyddyn ers cael eu prynu gan y perchennog a golygydd newydd, Mari Williams.
Daeth y ddau bapur i ben pan ddaeth Gwasg y Sir yn y Bala i ben fis Mai diwethaf. Prynwyd y teitlau gan Mari Williams, 42, o Lanuwchllyn, sy’n rhedeg ei chwmni cyhoeddusrwydd ei hun, Mari Williams PR, ac yn awdur.
Yr wythnos ddiwethaf gwelwyd rhifyn lliw am y tro cyntaf erioed, gyda thudalennau ychwanegol I ddathlu Eisteddfod yr Urdd yn y Bala. Meddai Mari, sy’n fam i ddau o blant, Efan, 7, a Cadi, 5:
“Mewn un agwedd mae’r flwyddyn ddiwethaf yma wedi ...
Y Cyfnod i barhau
21/05/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion, Papurau Bro
Mae papur newydd Y Cyfnod wedi cael ei brynu, gan sicrhau dyfodol i'r wythnosolyn dwyieithog.
Y perchennog a golygydd newydd yw Mari Williams, awdur sy'n rhedeg cwmni gwasanaeth cyfathrebu Mari Williams PR. Bu Mari Williams, sy'n 41 oed, yn gweithio fel newyddiadurwr ac awdur copi i gwmni Golwg yn Llanbedr Pont Steffan, yn golofnydd ac awdur nodwedd llawrydd i'r Western Mail, Golwg a chyhoeddiadau eraill a Rheolwr Cyfathrebu BBC Cymru Wales. Mae'n byw yn Llanuwchllyn gyda'i gwr Brendon, sy'n newyddiadurwr, a'u dau o blant.
"Rydw i wrth fy modd o gael cymryd yr awenau," meddai Mari. "Mae'r Cyfnod a'i gyd-bapur y Corwen Times yn ganolog i fywyd yr ardal, yn ffynhonnell n ...