Galw am ail ystyried cynlluniau iaith y Llywodraeth

02/05/2018

Categori: Iaith, Iechyd, Newyddion

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi canfod trwy gais rhyddid gwybodaeth fod Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan wedi gofyn i swyddogion am syniadau sut i "werthu" rheoliadau iechyd newydd, a fyddai'n atal pobl fregus rhag derbyn gwasanaeth iechyd wyneb-yn-wyneb yn Gymraeg, wedi arwain at alwadau i ail-ystyried cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer deddfwriaeth iaith.

Ymysg papurau a ryddhawyd i Gymdeithas yr Iaith, yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth am drafodaeth am y Safonau Iechyd – rheoliadau sy'n creu hawliau i'r Gymraeg wrth ymwneud â'r gwasanaeth iechyd – mae dogfen a luniwyd gan y Gweinidog Eluned Morgan AC. Yn y papur o fis Rhagfyr y llynedd, mae hi'n gofyn am gyngor gweision sifil ynghylch sut i gyfiawnhau tynnu allan hawl i dderbyn ymgynghoriadau clinigol yn Gymraeg, ac yn gofyn yn Saesneg. Mae’n cyfeirio at enghraifft "o hen wraig 90 oed o Wynedd sy’n siarad Saesneg pytiog ac ar fin cael llawdriniaeth gymhleth, fe fyddai’n methu gofyn yn gyfreithiol am i rywun i egluro iddi yn Gymraeg  am y llaw driniaeth .. dwi’n meddwl fod hyn yn anodd ei werthu, unrhyw syniadau?" 

 

Cafodd y rheoliadau eu pasio gan Aelodau Cynulliad ym mis Mawrth eleni heb hawl gyfyngedig i dderbyn gwasanaethau iechyd wyneb-yn-wyneb yn Gymraeg roedd y Llywodraeth wedi ymgynghori arni, ac er gwaethaf adroddiad pwyllgor trawsbleidiol oedd yn argymell ei chynnwys. 

 

 

Ar hyn o bryd, mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth i newid Mesur y Gymraeg 2011 – papur gwyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel ymdrech i wanhau y ddeddfwriaeth iaith bresennol. 

 

 

Codi braw

 

Dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae'n debyg y bydd y papurau yma'n codi braw ar lawer o bobl sydd o dan yr argraff bod Llywodraeth Cymru o blaid y Gymraeg. I ni, mae'n llai o syndod oherwydd rydyn ni'n gwybod mai agenda'r gwasanaeth sifil yw gwanhau hawliau iaith pobl. Yr hyn rydyn ni'n ei weld yw Gweinidog gwan, sydd, yn lle herio cyfeiriad niweidiol y gwasanaeth sifil a mynnu gwell, yn gofyn i'r gwasanaeth sifil ei helpu i gyfiawnhau camau fydd yn amddifadu'r bobl fwyaf bregus o'u hawliau dynol. Dyna sydd wedi digwydd gyda'r Safonau Iechyd a dyna'u bwriad gyda Bil y Gymraeg. Mae'r Gweinidog yn gweithredu fel llais y sefydliad sydd am wanhau hawliau pobl gyffredin, yn hytrach na llais y bobl sydd am weld amddiffyn ac ehangu eu hawliau iaith. Dyna sy'n arwain at y sylwadau brawychus yma am hawliau hen wraig i ofal iechyd yn Gymraeg." 

 

 

"Bydd hyn yn codi cwestiynau am addasrwydd Eluned Morgan a'r tîm o swyddogion sydd ganddi i fod yn gyfrifol am y maes yma o gwbl. Mae'r papurau yma'n dangos bod y Gweinidog a'i gweision sifil yn gwybod beth oedden nhw'n ei wneud – amddifadu'r bobl fwyaf bregus o'u hawliau dynol. Yn sgil y wybodaeth newydd yma, mae dyletswydd nawr ar y Llywodraeth i ail-edrych ar y Safonau Iechyd a'u cynlluniau i wanhau Mesur y Gymraeg. Yn lle dilyn cyngor gweision sifil yn ddigwestiwn, fe ddylai'r Gweinidog wrando ar bobl sy'n meddwl am fuddiannau'r Gymraeg, nid sefydliadau a chwmnïau pwerus."