“Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic…” Gan Richard Wyn Jones

06/03/2013

Categori: Barn, Iaith

Wrth ymateb i’r hyn a ddatgelodd y Cyfrifiad am sefyllfa’r iaith Gymraeg mae Athro Gwleidyddiaeth Cymru a Chyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, yn tynnu cymhariaeth annisgwyl rhwng gweithredoedd yn Llyn a Belffast.


Mae’n cychwyn efo llinell o farddoniaeth gyfoes, llinell y bydd yn ychwanegu
ati ar derfyn ei ysgrif.



“Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic…”



Mae pellter byd o’r Short Strand i Spar Pwllheli. Eto, er gwaetha’r gagendor sy’n gwahanu’r ddau le, a’r gwahaniaethau amlwg a sylfaenol rhwng y digwyddiadau sydd wedi sicrhau lle iddynt yn y penawdau newyddion ers y flwyddyn newydd, rwyf am fentro awgrymu bod dolen gyswllt rhyngddynt. Wrth wneud hynny rwy’n ymwybodol y gallaf fod yn sathru ar gyrn canran go uchel o ddarllenwyr Barn. Sut yn y byd, meddech chi, y gellir cysylltu’r trais nihilistaidd a welwyd ar strydoedd Belffast wrth i labystiaid unoliaethol ymladd â’r heddlu a cheisio ymosod ar eu cymdogion o genedlaetholwyr, ar y naill law, gydag ymdrech i sicrhau gwasanaeth trwy’r Gymraeg mewn siop yn Llyn ar y llaw arall? Beth mewn difrif sy’n gyffredin rhwng Jamie Bryson a’i gyd-aelodau o’r Ulster People’s Forum a’r cyn-Archdderwydd Robyn Lèwis? Onid dyma’r math o nonsens a arferwyd ei gysylltu hefo colofnau Ivor Wynne Jones yn y Daily Post ers talwm?



Eto i gyd, mae mwy i’r terfysgoedd ar strydoedd dwyrain a gogledd Belffast na dicter ynglyn â sawl diwrnod yn union y flwyddyn y dylid caniatáu i faner Jac yr Undeb gyhwfan uwchben Neuadd y Ddinas. Mwy hyd yn oed nag awydd yr UVF i ddangos ei bod yn parhau’n rym yn y tir wrth iddynt ddisgwyl achos llys mawr yn erbyn carfan yr honnir eu bod yn aelodau blaenllaw o’r mudiad terfysgol. Na, fel y nododd sawl newyddiadurwr, gwraidd yr holl fater yw angst Unoliaethol ynglyn â’r cyfrifiad. Ar ôl degawdau, os nad canrifoedd, o’i lordio hi fel y gymuned fwyafrifol, cafwyd cadarnhad fod mwy bellach o Gatholigion yn trigo ym mhrifddinas gogledd Iwerddon nag sydd o Brotestaniaid. O’r herwydd daethpwyd i ystyried gostwng Jac yr Undeb fel arwydd fod grym a goruchafiaeth wleidyddol yr Unoliaethwyr ar drai. Adwaith i’r teimlad hwnnw’n anad dim yw’r terfysgoedd presennol.



Peth peryglus yw ceisio adeiladu damcaniaethau mawr ar weithredoedd un gwr ar un ennyd benodol. Ni allaf ddweud i ba raddau yr oedd canlyniadau’r Cyfrifiad yn ddylanwad isymwybodol wrth y cownter yn Spar, ond mae’n demtasiwn credu ei fod. Ac yn sicr ddigon, bu’r Cyfrifiad yn gefnlen i’r ymateb mwy cyffredinol a gafwyd i’r hyn a ddigwyddodd yno. Yn wir, trwy gydol yr wythnosau diwethaf bu’r Cyfrifiad yn taflu ei gysgod tywyll dros bawb a phopeth, bron, yn y Gymru Gymraeg. Oblegid dyma dderbyn cadarnhad o’r hyn a oedd eisoes yn amlwg i unrhyw un efo llygaid i weld a chlustiau i glywed, sef bod yr iaith yn colli tir yn frawychus o gyflym yn yr hyn a arferid eu galw’n gadarnleoedd. A gyda’n hiaith yn llithro rhwng ein bysedd, ni ddylem synnu os ydyw’r anobaith a’r rhwystredigaeth a ddaw yn sgil hynny’n brigo i’r wyneb mewn gwahanol ffyrdd ac amgylchiadau. Byddai’n sefyllfa ryfedd ar y naw pe na bai hynny’n digwydd.



+ + +



Yr hyn oedd yn ddiddorol am yr ymateb i weithred Robyn Lèwis yw cymaint o garedigion yr iaith a oedd fel petaent yn teimlo rhyw fesur o embaras neu gywilydd hyn yn oed, yn wyneb yr hyn a wnaeth wrth fynnu fod y person y tu ôl i’r cownter yn cyfathrebu’n Gymraeg. Dichon mai rhan o’r eglurhad dros ymateb o’r fath oedd anesmwythyd ynglyn ag union natur yr hyn a ddigwyddodd. Onid profiad y rhan fwyaf ohonom yw ei bod yn llawer iawn haws mynnu triniaeth deg i’r iaith a’i siaradwyr trwy gyfrwng llythyr neu hyd yn oed alwad ffôn at berson anhysbys na thrwy wneud hynny mewn sgwrs wyneb yn wyneb ag unigolyn o gig a gwaed? Ar yr adegau prin pan ddigwydd hynny, mae tuedd ynom i gydymdeimlo hefo’r ‘truan’ sy’n cael ei roi neu ei rhoi mewn ‘sefyllfa anodd’. Yn enwedig felly os ydi o neu hi’n cael dipyn o sgeg yn sgil y profiad. Mewn byr eiriau, mae gwrthdaro personol dros y pethau hyn yn ein gwneud yn anghysurus.



Ond mae mwy iddi na hynny hefyd. Mae’n fy nharo i fod yr hyn a ddigwyddodd ym Mhwllheli hefyd yn creu anesmwythyd oherwydd ei fod yn tynnu’n groes i un o gredoau canolog caredigion y Gymraeg, sef nad yw cywirdeb ieithyddol yn fater o dragwyddol bwys.



Nid oeddwn yn bresennol ar faes Pwllheli felly ni allaf ac ni ddylwn drafod union fanylion yr ymgom a gafwyd yno. Felly gadewch i ni osod Spar o’r neilltu ac yn hytrach ddychmygu ein bod ni ein hunain yn mynychu siop neu gaffi mewn tre neu ddinas gyfagos, a bod y person sydd y tu ôl i’r cownter neu’n gweini yn ein cyfarch yn Gymraeg. Dychmygwch wedyn ei fod o neu hi’n mynd ati i ofyn am daliad trwy gyfrwng y Saesneg cyn, efallai, derfynu’r sgwrs trwy ganu’n iach yn y Gymraeg eto. Rwy’n tybio mai ymateb y rhan fwyaf ohonom mewn sefyllfa o’r fath fyddai ymfalchïo – ac efallai synnu – fod rhywfaint o gyfathrachu Cymraeg wedi bod o gwbl, yn hytrach na phoeni’n ormodol fod rhan o’r sgwrs wedi ei chynnal yn yr iaith fain.



Ar lawer ystyr, dyma’r unig ymateb rhesymol a chall. Yn awr ein hangen ni ellir fforddio dieithrio unrhyw un. Yn hytrach, rhaid ceisio hudo pawb i’r gorlan. A’u cadw yno! A phwy a wyr, o arfer – o fagu hyder – onid oes gobaith y bydd mwy o’r sgwrs yn y Gymraeg y tro nesaf y dychwelwn i’r fangre ddychmygol hon? A mwy eto’r tro wedyn? Ac efallai y bydd rhywun arall wrth ein hymyl nad ydynt wedi arfer gwneud hynny’n troi at y Gymraeg hefyd? Ac efallai aelod arall o’r staff yn rhoi cynnig arni...? Ac yn y blaen ac yn y blaen yn un gaseg eira gadarnhaol. Dwn i ddim amdanoch chi, ond weithiau fe fydda i’n teimlo fel rhyw fath o genhadwr wrth i mi fentro i siopau a chaffis Caerdydd. Ond yn hytrach nag efengylu ar ran yr Hen Gorff fel y gwnaeth rhai o’m cyndeidiau, chwifio baner yr Hen Iaith fydda i.



A minnau’n ei rhannu, nid wyf am feirniadu’r meddylfryd ‘mae rhywbeth yn well da dim’. Yn wir, dengys ffigyrau’r Cyfrifiad ei bod yn fwy allweddol nag erioed ein bod yn canfod ffyrdd o annog defnydd o’r Gymraeg ymysg y rheini sydd, am ba reswm bynnag, yn gyndyn o’i defnyddio neu nad ydynt yn cael cyfle beunyddiol i wneud hynny. Eto fyth, nid yw dadlau fod yn rhaid annog yn gadarnhaol pob defnydd posibl o’r Gymraeg yn gyfystyr â chredu nad ydyw cywirdeb ieithyddol yn bwysig chwaith. Gellir – ac i’m tyb i, mae’n rhaid – cyfuno agwedd gadarnhaol a chynhwysol wrth annog defnydd o’r iaith â chonsyrn ynglyn â safon yr iaith a siaredir. A dagrau pethau yw fod gormod yn ein plith fel petaem wedi dod i hafalu consyrn â safon hefo rhyw fath o buryddiaeth ddi-fudd neu hyd yn oed snobyddiaeth ieithyddol.



+ + +



Nid yn unig colli tir mae’r Gymraeg yn ei chyn-gadarnleoedd. Mae’r iaith ei hun yn breuo wrth i eirfa a chystrawen y rheini sy’n parhau i’w siarad Seisnigo. Efallai na ellir mesur y broses honno yn yr yn modd ag y mae’r Cyfrifiad yn mesur edwino cymunedau Cymraeg. Serch hynny, rwy’n gwbl sicr fod pob un ohonom yn profi hynny yn ein bywydau beunyddiol. Yn safon y Gymraeg a siaradwn ein hunain, hyd yn oed. Ac fel y gwyr pob ieithegwr, mae’r ddwy broses hon – colli tir a breuo – yn rhyng-gysylltiedig. Pan fo ieithoedd dan warchae, mae’r iaith sydd dan bwysau yn syrthio’n gynyddol dan ddylanwad yr iaith sydd ar-i-fyny. Prin fod llawer o synnwyr, felly, mewn poeni am golli tir gan wfftio pryderon y rheini sy’n sôn am ansawdd yr iaith a siaredir. Dwy ochr o’r un geiniog ydi’r rhain. Os am sicrhau dyfodol i’r Gymraeg, rhaid ’morol am y naill a’r llall fel ei gilydd.



Y cwestiwn, wrth gwrs, yw sut mae gwneud hynny?



Y cam cyntaf, rwy’n tybio, yw ein bod yn cydnabod nad yw ymboeni am safon yr iaith ynddo’i hun yn fater o snobyddiaeth neu o fod yn uchel-ael neu beth bynnag arall. Yn hytrach ni ellir gwahanu mater graen yr iaith a siaredir oddi wrth y frwydr i’w hamddiffyn a’i hadfer. Ond mae gofyn hefyd fod y rheini sy’n ymboeni am safon yn canfod ffyrdd newydd o fynegi eu pryderon. Y ffaith amdani yw fod sefyllfa’r Gymraeg mor fregus fel bod dwrdio neu geryddu’n annhebygol iawn, iawn o gael effaith gadarnhaol ar y sefyllfa. I’r gwrthwyneb, yn wir. Os oes gobaith yna fe’i ceir drwy rym anogaeth, esiampl a hiwmor.



Yn un o’i gerddi dychanol gwych fe fathodd y bardd Ifor ap Glyn linell sy’n crisialu’r meddylfryd angenrheidiol hwnnw ‘fod rhywbeth neu rywfaint yn well na dim’:
Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic!, meddai’r bardd. Amen i hynny ddyweda’i. Ar yr amod ein bod yn cael ychwanegu un llinell arall ati:


Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic
Ond Cymraeg rhywiog sy’n rhywiol!


Ffynhonnell Barn