Gwledd o weithgareddau i gyhoeddi Eisteddfod 2020

Mae’r bwrlwm ynghlwm â’r paratoadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2020 yn amlwg ers misoedd ar hyd a lled Ceredigion, ac fe fydd amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnal dros gyfnod o bythefnos gan gynwys gŵyl gerdd newydd, cymanfa swyddogol y cyhoeddi, ocsiwn arbennig a chinio dydd Sul Cymdeithasol.

Cynhelir y seremoni Cyhoeddi ei hun yn Aberteifi ar Ddydd Sadwrn, 29 Mehefin, tref sydd â chysylltiadau hanesyddol gyda’r Eisteddfod ac mae’n amserol fod y cyhoeddi yn cyd-fynd ag un o’n gwyliau diwylliannol amlycaf sef Gŵyl Fawr Aberteifi.

 

Yn unol â thraddodiad, cynhelir gorymdaith ganol y bore, gan gynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau a chymdeithasau lleol a disygbion ysgolion y Sir ynghyd â Gorsedd y Beirdd, i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal, a chyflwyno’r ardal i’r Eisteddfod. Wedi gorymdaith liwgar drwy’r dref cynhelir pinacl y bore sef Seremoni’r Cyhoeddi ei hun am 11.00 ar gaeau chwarae Ysgol Uwchradd Aberteifi, gan roi cyfle i drigolion ac ymwelwyr weld un o seremonïau lliwgar yr Orsedd.

 

Yn hanesyddol, mae’n rhaid cyhoeddi bwriad Eisteddfod i ymweld ag ardal o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn cychwyn y Brifwyl.  Yn ogystal, dyma pryd y cyhoeddir y Rhestr Testunau, sef y rhestr o gystadlaethau a gwybodaeth i unrhyw un sy’n dymuno mynd ati i gystadlu'r flwyddyn nesaf.

 

Yr Archdderwydd newydd, Myrddin ap Dafydd, a orseddir ar ddechrau’r Seremoni hon fydd yn arwain, gyda Chadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol, Elin Jones, yn cyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau iddo.  Unwaith y mae’r copi wedi’i rannu, mae’r wybodaeth yn gyhoeddus a’r gyfrol yn mynd ar werth mewn siopau ar hyd a lled Cymru.

 

Bydd amryw o weithgareddau’n cael eu cynnal dros gyfnod o bythefnos er mwyn codi ymwybyddiaeth pellach am ymweliad yr Eisteddfod â Cheredigion, y tro cyntaf iddi ymweld ers bron i dair degawd.

 

Cymanfa

 

Yng nghapel Soar, Llanbedr Pont Steffan cynhelir cymanfa’r cyhoeddi ar nos Iau, 27 Mehefin ac mewn digwyddiadau yng Nghiliau Aeron a Phontrhydfendigaid  bydd dau o’n cerddorion amlycaf, Meic Stevens a Tecwyn Ifan yn diddanu’r torfeydd tra bydd gwyl gerddorol newydd yn gweld golau dydd yn Aberystwyth gyda Candelas a Gwilym ymysg yr artistiaid.  Mae manylion llawn yr holl weithgaeddau cymunedol ar wefan yr Eisteddfod.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Elin Jones, “Ers y cyfarfod cyhoeddus yn Aberaeron mae’r brwdfrydedd wedi bod yn heintus ar draws y Sir gyda’r pwyllgorau apêl yn awchu i gyrraedd y targed ariannol o dros £300,000 ac ryn ni eisoes wedi croesi’r £100,000. Bydd cyfnod y cyhoeddi yn gyfle pellach i godi ymwybyddiaeth am y brifwyl o’r hyn sydd i ddod flwyddyn nesaf a rhoi blas i weddill Cymru o’r croeso byrlymus fydd yn eu disgwyl yng Ngheredigion.” 

 

Braint

 

Ychwanegodd y Cyng. Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “Mae cael croesawu’r Eisteddfod i Geredigion yn fraint ac yn bleser. Bydd yn bwysig i ni nid yn unig o safbwynt yr economi, fel nifer o ddigwyddiadau a gynhelir yma, ond mae hefyd yn hollbwysig o safbwynt diwylliant, addysg a’r iaith Gymraeg.  Rwy’n edrych ymlaen i ymuno â thrigolion y Sir a chymryd y cyfle i fod yn rhan o’r digwyddiad cenedlaethol pwysig hwn.”

 

Yn ôl Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, mae’r cyhoeddi yn gyfle i roi hwb pellach i’r ymdrechion lleol, “Does dim ddwywaith fod yna edrych ymlaen enfawr at ymweliad yr Eisteddfod â Cheredigion yn 2020 ac mae’r llu gweithgareddau sydd wedi eu cynnal eisoes ar draws y Sir yn dystiolaeth amlwg o hynny. Ein gobaith gyda gweithgareddau’r cyhoeddi yw y bydd yn gymorth ac yn hwb i’r bobl leol i barhau i weithio â’r un angerdd a’r brwdfrydedd am y deuddeg mis nesaf – a does gen i ddim amheuaeth na wnaiff y Cardis hynny!”