Gwyddonwyr yn helpu i wella ansawdd dŵr ymdrochi ar un o draethau Môn

Mae ansawdd dŵr ymdrochi ar draeth poblogaidd yng ngogledd Cymru wedi cael ei raddio’n ‘dda’ yn sgil rhoi ar waith fodel arloesol a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cafodd ansawdd dŵr ymdrochi Bae Cemaes ar Ynys Môn ei raddio’n ‘wael’ yn 2016 a 2017, oedd yn golygu nad oedd yn addas ar gyfer nofio, ac yn ‘ddigonol’ yn 2018 a 2019.

 

Ym mis Tachwedd 2020, fodd bynnag, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod Bae Cemaes wedi cyrraedd safon ‘da’ yn y canlyniadau Ansawdd Dŵr Ymdrochi blynyddol.

 

Credir fod y gwelliant i’w briodoli i raddau helaeth i waith Grŵp Tasg Dŵr Ymdrochi Bae Cemaes a sefydlwyd yn 2016 ac sy’n dwyn at ei gilydd Cyngor Sir Ynys Môn, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), y gymuned leol ac eraill yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth.

Yn 2018, mabwysiadodd Cyngor Sir Ynys Môn fodel dŵr ymdrochi arloesol a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer y bae tawel, caeëdig a chysgodol yng Nghemaes gan dîm o ymchwilwyr yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth sy’n arbenigo ar ansawdd dwr ymdrochi a rhagfynegiadau.

 

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad am statws newydd dŵr ymdrochi Bae Cemaes, dywedodd yr Athro Dave Kay sy’n arwain y tîm yn Aberystwyth: “Rydyn ni gyd wrth ein bodd bod Bae Cemaes wedi cyrraedd safon ‘DA’ yr UE. Mae wedi bod yn fraint cael gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Cymuned Llanbadrig a Chyfoeth Naturiol Cymru i helpu gyda’r gwaith o fodelu rhagfynegol yn y dŵr ymdrochi yma ac rydym yn ddiolchgar i raglen Interreg Iwerddon-Cymru am ariannu’r gwaith yma yn ogystal â gwaith cynharach ym Mae Abertawe.” 

 

Ariannwyd y gwaith fel rhan o brosiect ymchwil Acclimatize Interreg, dan arweiniad Coleg Prifysgol Dulyn, a chredir iddo chwarae rhan allweddol wrth wella’r sefyllfa yng Nghemaes.

 

Meddai Annwen Morgan, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn a Chadeirydd Grŵp Tasg Cemaes: “Mae newidiadau i lefelau’r afon sy’n llifo i Fae Cemaes o ganlyniad i law wedi cael effaith ar ansawdd dŵr ymdrochi yn y gorffennol. Mae model dŵr ymdrochi Cemaes yn werthfawr am ei fod yn ein galluogi i wella’r modd y rhoddir gwybod i ddefnyddwyr dŵr ymdrochi a’u diogelu ar ôl glaw.
“Mae ein swyddogion yn rhedeg y model 3 gwaith y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a dwywaith y dydd ar benwythnosau a gwyliau banc. Mae cyngor am ansawdd y dŵr ymdrochi wedyn yn cael ei roi i’r cyhoedd trwy ein cyfrif Twitter - @traethcemaes – ac arwyddion yn cael eu rhoi ar y traeth.
“Rydyn ni’n falch iawn o weld fod y gwaith modelu hwn, ynghyd ag ymdrechion y bartneriaeth, yn llwyddiannus ac yn dod â buddion i’r gymuned leol yn ogystal ag ymwelwyr.”

 

Mae Derek Owen, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanbadrig, wedi bod yn ymwneud yn agos â gwaith y Grŵp Tasg ac fe groesawodd y cyhoeddiad: “Mae’r gwelliant hwn o ran ansawdd dŵr ymdrochi yn newyddion da i’r economi lleol yn ogystal â sicrhau budd o ran iechyd y cyhoedd.
“Mae cymunedau arfordirol fel ein un ni yn dibynnu’n helaeth ar dwristiaeth, ac mae pobl yn dod yma i fwynhau traethau glân a dŵr ymdrochi da. Felly bydd busnesau lleol a thrigolion yr ardal yn falch iawn o glywed fod y safon wedi gwella yn 2020.”
Ychwanegodd: “Yn amlwg, roedden ni’n bryderus iawn pan ostyngodd y safon i wael yn 2016. Ond rhaid i mi ddweud ein bod wedi gweld ymdrechion positif iawn gan yr holl bartneriaid ers i’r Grŵp Tasg gael ei sefydlu. Mae wedi bod yn galonogol gweld y cyrff cyhoeddus yn gweithio mor agos gyda ni yn y gymuned, a dwi’n arbennig o falch fod y gwaith hwn yn dwyn ffrwyth.”

 

Ymchwil dŵr ymdrochi

 

Mae ymchwil gan yr Athro Kay a’i dîm yn y Ganolfan Ymchwil Amgylcheddol ac Iechyd (CREH) ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 1999 wedi ei ddefnyddio i lunio canllawiau dŵr ymdrochi Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a’r Undeb Ewropeaidd (UE).
Mae eu gwaith wedi arwain at gyflwyno safonau ansawdd dyfroedd ymdrochi seiliedig ar dystiolaeth iechyd newydd ledled yr UE sy’n effeithio mwy na 24,000 o ddyfroedd ymdrochi, gan helpu i gynnal safonau diogelu iechyd yn ogystal â chyfraniad economaidd traethau.
Ar hyn o bryd, mae’r Athro Kay a’i dîm yn gweithio ar brosiectau i brofi a gwella ansawdd dŵr ymdrochi yng ngogledd Penfro a de Ceredigion, gyda’r gwaith hwn hefyd yn cael ei gyllido gan raglen Iwerddon-Cymru Interreg mewn partneriaeth â Choleg Prifysgol Dulyn.