Gwyddonwyr yn rhybuddio pobl i beidio â tharfu ar y piod môr wrth eu cwsg

29/06/2020

Categori: Addysg, Amgylchedd, Iechyd, Newyddion

Mae sŵolegwyr o Brifysgol Bangor wedi dangos sut all gweithgareddau dynol fod yn tarfu ar biod môr, aderyn Prydeinig sydd yn agos i fod at fygythiad.

Bu’r ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi yn y Journal of Zoology yn astudio i ba raddau y mae cwsg yr adar yn cael ei aflonyddu gan gerddwyr a phobol yn cerdded eu cŵn, a gan gychod ar y môr yn y pellter, a pha effaith gall y rhain gael ar eu hangen am gwsg a’u bywiogrwydd i unrhyw fygythiad.
 
Mae cwsg yn ymddygiad hanfodol sydd yn galluogi anifeiliaid i gadw egni, ond nid oes digon o ymchwil i’r pwnc ymysg poblogaethau anifeiliaid yn y gwyllt.
 
Fel yr esbonia Meaghan McBlain, a gwnaeth yr ymchwil fel rhan o’i gradd MZoo: “Bum yn recordio symudiadau llygaid oddeutu 300 o adar tra yr oeddent yn cysgu, ar sawl achlysur dros gyfnod o bedair mis. Mae’r adar wedi esblygu strategaeth a elwir yn ‘sbecian’, sef y gallu i agor un llygad am gyfnod byr iawn pob hyn a hyn, tra’n cysgu, i fonitro eu hamgylchedd am unrhyw fygythiadau posib.”
 
Wrth asesu’r amlder y ‘specian’ a hyd yr edrychiad tra’n cysgu o dan amgylchiadau gwahanol, canfu’r ymchwilwyr bod presenoldeb pobl â chŵn yn arwain at lai o gwsg ar y cyfan, gan bod yr adar yn cynyddu’r amlder ac amser agor y llygad.
 
Wrth glywed cychod yn mynd heibio, roedd yr adar yn ‘sbecian’ yn amlach ond am lai o hyd.
 
Roedd yr adar hefyd yn monitro’u cymdogion cyfagos ac yn cysgu llai os oedd eu cymdogion yn effro. Ar y cyfan, roedd y piod môr yn cysgu mwy pan yng nghanol haid fawr o adar gan fod unigolion yn rhannu’r dasg o fonitro’r amgylchfyd am fygythiadau posib.
 
Esboniodd cyd-awdur y papur, Dr Graeme Shannon, sy’n ddarlithydd mewn ymddygiad anifeiliaid: “Mae cwsg yn swyddogaeth o bwys, a dros amser, gall aflonyddu effeithio ar ffitrwydd, yn enwedig pan fo adnoddau yn brin yn y gaeaf, pan fo’r galw ar adnoddau ynni yn uchel.”
 
Ychwanegodd: “Mae’n bosib bod llai o darfu yn ystod y cyfyngiadau symud, sydd wedi cyd-ddigwydd â’r tymor bridio, wedi bod o fudd, ond mae’n rhy fuan i ddweud os y bydd hyn yn cael ei drosglwyddo i gynnydd yn y boblogaeth, yn enwedig o ystyried bod y lleihad mewn niferoedd yr ydym yn ei gweld wedi digwydd dros degawdau.”

 

Deall ymddygiad anifeiliaid gwyllt

 

Ychwanegodd Dr Katherine Jones, darlithydd Sŵoleg sydd hefyd yn gydawdur: “Mae’r ymchwil hwn gan Brifysgol Bangor yn chwarae rôl bwysig o fewn ein deall o ymddygiad mewn anifeiliaid gwyllt, yn enwedig y rhai hynny sydd  a’u niferoedd yn dirywio, fel y bioden fôr.”

 
Bu Meaghan yn cynnal yr arolwg ym Morfa Madryn ger Llanfairfechan ac ym Miwmares. Cafodd ei harolygu gan Dr Graeme Shannon a Dr Katherine Jones yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol a gorffennodd y gwaith fel rhan o’i gradd Meistr mewn Sŵoleg yn 2017.
 
Meddai: “Des i wybod am Fangor yn gyntaf am ei henw da am ymchwil yn y gwyddorau naturiol. Unwaith y gwelais pa mor hardd oedd yr ardal yn ystod Diwrnod Agored a chlywed am yr ymdeimlad o gymuned, roeddwn wedi fy mherswadio! 
Drwy astudio’r cwrs cefais dealltwriaeth dwfn o’r byd biolegol, sgiliau ymarferol diri ac, yn bwysicach, ffrindiau oes.”
 
Wedi graddio, ymunodd Meaghan a thîm o geidwaid ar Ynysoedd Farne, yn monitro adar môr ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Wedi dau dymor yn gweithio efo rhywogaethau eiconig fel pâl a môr wennoliaid yr Arctig, symudodd ymlaen at ymgynghoriaeth ecolegol lle ddwysaodd ei dealltwriaeth o ffawna a fflora Prydeinig.
 
Ar hyn o bryd mae Meaghan yn gweithio o fewn addysg ac yn gobeithio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr.