Gwyl Fwyd Caernarfon yn chwilio am gogyddion amatur lleol i Gystadleuaeth Pryd Powlen

Mae pwyllgor gwaith Gwyl Fwyd Caernarfon wedi cyhoeddi amserlen o ddigwyddiadau bwyd a diod i godi hyd at £20,000 er mwyn sicrhau y bydd yr ŵyl sy’n cael ei chynnal ym mis Mai yn parhau am ddim.
Digwyddiad cyntaf yr ymdrechion godi arian yw’r Gystadleuaeth Pryd Powlen am 7.30pm, nos Wener, Hydref 19 yn Feed My Lambs, Caernarfon.
I amrywio ar y cystadlaethau coginio hynod lwyddiannus, mae’r pwyllgor yn cyflwyno elfen newydd! Y gamp eleni yw coginio pryd i’w weini mewn powlen - dim cyfwydydd, dim ond pryd un powlen. Gall fod yn stiw, yn gawl swmpus, yn Goulash, yn gaserol - neu hyd yn oed yn gyri! Y bwyatwyr ydi’r beirniaid a bydd yr enillydd yn ennill £50. Er mwyn cystadlu, cysylltwch drwy ebostio gwylfwydcaernarfon@gmail.com cyn Medi 30.
Bydd mwy o wybodaeth am y digwyddiadau eraill yn ymddangos ar ein gwefan www.gwylfwydcaernarfon.cymru ac ar gyfrifon cymdeithasol yr ŵyl.
19/10/18 – Cystadleuaeth Pryd Powlen
05/11/18 – Fan fwyd Noson Tan Gŵyllt Caernarfon
08/12/18 – Marchnad ‘Dolig Gŵyl Fwyd Caernarfon
25/01/19 – Noson Gin
22/02/19 – Noson Gystadleuaeth Cyri
Mawrth (dyddiad i'w gadarnhau) – Cinio Gala
11/05/2019 – Gŵyl Fwyd Caernarfon!
Os nad oes modd i chi gyfrannu at yr ŵyl wrth fynychu, mae’r ŵyl yn croesawu unrhyw gyfraniad yma
Mae tocynnau ar gael i'r digwyddiadau o siop lyfrau Palas Print am £10.