Gŵyl Rhif 6 yn cychwyn

03/09/2015

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion

Mae un o wyliau mwyaf Cymru yn dechrau heno, gyda gwledd o gerddoriaeth ar y gweill i filoedd fydd yn tyrru i bentref byd enwog Portmeirion dros y penwythnos. 

 

Mae Gŵyl Rhif 6 sydd bellach ar ei phedwaredd blwyddyn wedi hen sefydlu ei hun yn y calendr digwyddiadau dros yr haf, gyda’r ŵyl wedi ennill sawl gwobr fel un o wyliau mwyaf atyniadol ac unigryw gwledydd Prydain. Mae’r ŵyl yn ddathliad o ddiwylliant a’r celfyddydau, gyda chyfle i fwynhau diddanwyr, cerddorion o fri ac awduron. 

 

Eleni fe fydd Belle a Sebastian, Grace Jones a Metronomy yn coroni’r penwythnos yn y pentref eidalaidd, gyda ymddangosiad prin gan James a fydd yn deffro ysbryd y 1990au. Mae’r penwythnos bellach wedi gwerthu allan ac fe fydd sawl artist a band Cymraeg yn cynrychioli’r Sin Roc Gymraeg megis y grwp gwerin 9bach sydd wedi ennill gwobrau yn ddiweddar, Yws Gwyned, Y Pencadlys, Huw M, Y Gentle Good ac HMS Morris. Mae DJ Mici Plwm hefyd yn ailgydio yn y troelli i roi chwistelliad o nostalgia’r 70au. Mae yna hefyd wersi dysgu Cymraeg i'r mynychwyr.  

 

Fe fydd prif leisydd y Super Furry Animals, Gruff Rhys hefyd yn chwarae set ffrwydrad yn y ffurfafen. Bydd Cor y Brythoniaid hefyd fel y maent wedi gwneud sawl gwaith yn yr Wyl yn cynnig fersiwn canu corawl o glasuron roc. Ymhlith enwau amlwg eraill sy’n cymryd rhan yw Steve Coogan aka Alan Partridge, y nofelydd Irvine Welsh.