Hanes ffoaduriaid o Wlad Belg yn y Rhyfel Byd Cyntaf

01/02/2016

Categori: Hamdden, Newyddion

Cadair Ddu Hedd Wyn a luniwyd gan Eugeen Vanfleteren, ffoadur o Mechelen, Gwlad Belg

Bydd mudiad Cymru dros Heddwch, ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, yn cynnal Darlith Gyhoeddus ar ymateb Cymru i Argyfwng y Ffoaduriaid o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar 17 Chwefror, am 6pm, yn y Brif Neuadd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, mae gwahoddiad i’r cyhoedd ac academyddion i archwilio agwedd o’r Rhyfel Byd Cyntaf sydd heb gael ei hastudio gymaint, sef y cyflawniad hynod o ofalu am oddeutu 250,000 o ffoaduriaid o Wlad Belg yn y DG.

 

Mae’r siaradwr gwadd, sef Christophe Declercq sy’n ddarlithydd yn Phrifysgol Llundain, wedi bod yn ymchwilio i hanes y ffoaduriaid Belgaidd ers dros ddegawd, ac mae'n swyddog cyswllt y DU ar gyfer prosiect a drefnir ar hyn o bryd gan Sefydliad Hanes Cymdeithasol Amsab, sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Ghent, Gwlad Belg.  Meddai: “Myfyrio ar y gorffennol i oleuo’r presennol yw pwrpas hanes.  Bydd y broses hon o rannu gwybodaeth rhwng Gwlad Belg a Chymru yn gwella ein dealltwriaeth o hanes y Ffoaduriaid o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yng nghyd-destun argyfwng ffoaduriaid newydd sy'n dod i'r amlwg yn Ewrop, 100 mlynedd yn ddiweddarach. Roeddwn yn falch iawn i ymateb i'r cyfle hwn i rannu fy ngwaith ymchwil drwy'r prosiect Cymru dros Heddwch, yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.”

 

Daeth dros 4,500 o ffoaduriaid o Wlad Belg i Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan adael eto erbyn 1919 gydag ychydig iawn o olion ar wahân i waith celf, crefft a gwaith adeiladu sydd yn dal i gael eu gwerthfawrogi yng Nghymru heddiw. Mae'r rhain yn cynnwys y croglun wedi’i gerfio yn eglwys Llanwenog, y Pier Belgaidd ym Mhorthaethwy ac o’r arwyddocâd cenedlaethol mwyaf, cerfwaith cywrain ‘Cadair Ddu’ Eisteddfod Genedlaethol 1917, a ddyfarnwyd i’r bardd Hedd Wyn a fu farw ynghynt yn Passchendaele.

 

Eglurodd Declercq y cefndir: “Mae sylw ar breswyliad oddeutu chwarter miliwn o Felgiaid ym Mhrydain wedi ei esgeuluso yn rhy hir. Mae llu o resymau am hyn. Yn bwysicaf oll, daeth y Belgiaid i mewn mor ddiffwdan ag yr ymadawsant. Erbyn canol 1919, roedd bron pob un wedi dychwelyd i Wlad Belg. Pan oresgynnwyd Gwlad Belg gan yr Almaen ar 4 Awst 1914, cyhoeddodd Prydain ryfel ar yr Almaen. Yn ystod yr wythnosau canlynol, bu ymladd ffyrnig ar draws tiriogaeth Gwlad Belg gan greu symudiad torfol o ddinasyddion a ddaeth i ben gyda chwymp Ostend (15 Hydref) a Brwydr Gyntaf Ypres (19 Hydref - 22 Tachwedd). Yn wir, yn nechrau hydref 1914, ceisiodd bron un o bob tri Belgiad loches rhag y rhyfel.”

 

Mapio treftadaeth heddwch Cymru

 

Ychwanegodd pennaeth y prosiect Cymru dros Heddwch, Craig Owen: “Un o elfennau cyffrous y prosiect Cymru dros Heddwch yw mapio effaith rhyfel a chasglu treftadaeth heddwch Cymru. Gyda chymorth gwirfoddolwyr ar draws Cymru, ac mewn partneriaeth gyda’r brifysgol a Chasgliad y Werin Cymru, mae diddordeb gennym mewn datguddio hanesion ac archifau lleol sy'n gysylltiedig â'r profiad Cymreig-Belgaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae cyfraniad Christophe Declercq gyda’r prosiect ymchwil Belgaidd hwn, yn darparu cyfle i estyn y bartneriaeth er mwyn rhannu darganfyddiadau yn ddigidol, i adlewyrchu ar faterion cyfredol sy'n gysylltiedig â derbyn ffoaduriaid, a chryfhau'r cysylltiadau Cymru-Gwlad Belg."

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru