Holi 'Dolig gyda Anni Llŷn
Categori: Celfyddydau, Hamdden, Newyddion

Fe wnaeth Lleol.cymru holi Anni Llŷn am ei harferion Nadoligaidd sy’n amrywio o’i hoff gêm dros y Nadolig i’w hanrheg gwaethaf.
Cafodd Anni Llŷn ei gwneud yn fardd plant Cymru yn 2015 ac mae’r gyflwynwraig adnabyddus yn edrych ymlaen at dreulio’r ‘Dolig gyda’i theulu ar y fferm ym Mhenrhyn Llŷn.
Lle fyddi di dros Dolig?
Mi fydda i adra ym Mhen Llŷn.
Pwy fydd o amgylch y bwrdd?
Fi, fy nyweddi (!!!), fy chwaer fach, mam, tada, taid, Anti Antie (chwaer fy nain), Hefina (cyfnither fy mam), Iona (chwaer mam), Andy (gŵr Iona) a Catrin Molly fy nghyfnither fach.
Hoff gêm?
Dani'n mwynhau cwis a Articulate.
Hoff ffilm Nadoligaidd?
Joio Elf...yn amlwg!! Ond dwi wedi gwylio llwyth o ffilmiau sal nadoligaidd americanaidd ar Channel 5 a Christmas24 a dwi wrth fy modd!!
Tradoddiad teuluol unigryw?
Mae Sion Corn dal yn galw acw!!
Peth gorau am y Nadolig?
Dwi wrth fy modd efo pob dim!! Caru carolau, gwirioni ar ginio, ffan o agor presanta!!
Hoff ran o'r cinio?
Dwi'n mwynhau cîg selsig dani'n gael efo'r twrci a llysia 'di rhostio. Ma mam yn chwip o un dda am neud cinio Dolig!! Mae bob dim yn fendigedig.
Hoff gan Nadoligaidd?
Dwi wirioneddol yn caru carolau a chaneuon 'dolig. Ma fersiwn Alys Williams o Un Seren yn wych. Ond swi'n hoff iawn o'r clasuron fel Ganol Gaeaf Noethlwm.
Anrheg gorau i ti ei dderbyn?
Injan Bwytho!!
A'r gwaethaf...?
Rhyw fath o sebon drewllyd.
Uchafbwynt 2015?
Dyweddïo!!!