Holi Ifan Morgan Jones am ei gynlluniau i sefydlu gwefan newyddion

11/01/2017

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Iechyd, Papurau Bro

Mae darlithydd yn y cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor wedi lansio cronfa newydd trwy nawdd torfol i sefydlu gwefan newyddion genedlaethol trwy gyfrwng y Saesneg, ac mae Lleol.cymru wedi holi Ifan Morgan Jones ymhellach am ei gynlluniau.

Bwriad sefydlu gwefan Nation.cymru, yn ôl cyn-olygydd Golwg360, Ifan Morgan Jones yw mynd gam o’r ffordd at lenwi’r ‘gagendor democrataidd’ yng Nghymru, ac mae o’r farn fod angen gwefan newyddion o’r fath er mwyn cyflawni’r nod o greu cenedl wladwriaeth yng Nghymru. Mae hefyd yn dadlau fod rhaid cael gwefan newyddion Saesneg am fod cyn lleied o faterion Cymreig yn cael eu trafod, trwy gyfrwng y Saesneg. 

 

[Holwr] Beth ydi dy gynlluniau tymor byr a thymor hir gyda Nation.cymru?

 

[IMJ] Y nod tymor byr yn amlwg yw dechrau gwefan newyddion cynaliadwy. Y fantais gyda digidol ydi bod y gost o gyhoeddi yn weddol rad. Gyda phrosiect fel y Byd roedd rhaid buddsoddi llawer iawn o arian ar argraffu a dosbarthu cyn i’r rhifyn cynta’ ddod o’r wasg. Roedd rhaid adeiladu llong a gobeithio y byddai pawb yn neidio i mewn iddi ar ôl lansio. Gyda digidol, mae modd gwthio canŵ i’r dŵr a pharhau i ychwanegu darnau ati dros amser nes ei bod yn rhywbeth llawer mwy o lawer.

 

Wrth gwrs, er nad yw cyhoeddi yn costio llawer ar-lein mae newyddiaduraeth yn costio’r un faint o amser ag egni beth bynnag y cyfrwng. Ac os mai nod y wefan yw cau'r ‘diffyg democrataidd’ sydd gennym ni yng Nghymru, ni wneith listicles y tro. Y cur pen yw sicrhau bod yr adnoddau ar gael i hynny allu digwydd.

 

Rwy’n credu mai rhan o’r ateb i’r broblem adnoddau yw peidio â thrafferthu cystadlu gyda gwefannau newyddion eraill am yr hyn ydw i’n ei alw yn y ‘straeon peiriant sosej’ - y straeon rheini sy’n cael eu troi allan gan newyddiadurwyr ar draws Cymru yn seiliedig ar drydariadau, datganiadau i’r wasg neu gopi PA. Mae llawer o’r diffyg plwraliaeth sy’n bodoli o fewn newyddiaduraeth Cymru ar hyn o bryd, yn fy marn i, yn deillio o’r ffaith bod bron i bawb yn buddsoddi'r ychydig adnoddau sydd ganddyn nhw yn y straeon peiriant sosej hyn yn hytrach nag mewn newyddiaduraeth ymchwiliadol.

 

Yn oes rhwydweithio gymdeithasol dyw pobl ddim yn driw i un gwefan newyddion fel oedden nhw. Maen nhw’n cael rywfaint o’u harlwy fan hyn, rywfaint fan draw. Felly does dim llawer o bwynt i bawb fod yn dyblygu gwaith ac yn gwneud yr un straeon a’i gilydd. Yn hytrach nag cyhoeddi bron i hanner cant o straeon y dydd, gallai Nation.Cymru gael llond llaw ohonynt, ond bod y newyddiadurwr wedi cael rhwydd hynt i fynd o dan wyneb y stori.

 

Ar hyn o bryd rydw i’n archwilio ffyrdd gwahanol o sicrhau bod gennym ni’r amser a’r adnoddau i gynhyrchu’r newyddiaduraeth ymchwiliadol hwnnw. Dydw i ddim am ddweud gormod eto achos dydw i ddim wedi siarad â phawb ydw i eisiau siarad â nhw!

 

[Holwr] Sut ymateb wyt ti’n gael hyd yma? 

 

[IMJ] Mae’r ymateb wedi bod y tu hwnt i’r disgwyl a dweud y gwir. Mae’n amlwg bod yna awch go iawn am wefan o’r fath yn bodoli ymysg y cyhoedd. Fe greais gronfa y byddai modd i bobl roi arian i mewn iddo yn y gobaith efallai o gael ychydig gannoedd - £250 oedd y nod gwreiddiol, a finnau’n meddwl efallai bod hwnnw’n rhy uchel ac y byddwn i’n gwneud ffŵl o’n hun yn gofyn! O fewn 24 awr roedd y swm yn agosáu at y £2,000.

 

Rhaid cyfaddef bod yr ymateb a gafodd y cynllun, a’r sylw yn y wasg, wedi fy annog i ail-ystyried graddfa'r hyn a oeddwn i am geisio ei gyflawni. Roeddwn i ychydig yn fwy ffwrdd a hi, ‘fe wnawn ni wthio’r cwch yma i’r dŵr, dechrau padlo a gweld pa mor bell awn ni.’ Ond nawr fy mod i’n gyfrifol am arian y mae pobl eraill wedi ei fuddsoddi yn hytrach nag fy amser a fy ymdrechion fy hun yn unig rydw i’n gweld yr angen i gynllunio’n fwy gofalus.

 

[Holwr] Pa fath o arddull fydd y wefan? Mwy poblogaidd neu fwy swmpus yn newyddiadurol?

 

[IMJ] Dydw i ddim yn credu bod y ddau beth yn cam-ddweud ei gilydd. Mae angen i’r newyddiaduraeth fod yn swmpus ond mae angen i’r modd y mae’n cael ei gyfathrebu â’r darllenydd fod mor syml â phosib.

 

Rhan o’r nod gyda’r wefan yw troi’r drafodaeth am yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni wrth greu cenedl-wladwriaeth o’r enw Cymru, o drafodaeth ymysg y dosbarth canol (Cymraeg eu hiaith yn bennaf) i mewn i un y mae pawb yng Nghymru yn teimlo fod ganddyn nhw ran i’w chwarae ynddi.

 

Academydd

 

Mae yna academydd o’r enw Miroslav Hroch sy’n trafod y broses o greu cenedl-wladwriaeth fel camau o A i B i C. B ydi pan mae’r deallusion yn cydio yn y syniad - C ydi pan mae’n troi yn syniad sy’n ddymunol i fwyafrif y boblogaeth. Mae yna broblemau efo damcaniaeth Hroch, ond mae’n fodd effeithiol a syml o gyfleu camau’r broses. Yng Nghymru mae’r nodwydd fel petai wedi bod yn pendilio rhwng camau B a C. Yn ystod refferenda 1997 a 2011 roedd dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn bwnc o ddiddordeb cyhoeddus, ac fe bleidleisiodd y bobl o blaid yn y ddwy achos. Ond rhwng y refferenda hyn mae’r broses fel petai yn mynd yn ôl i gam B, yn rhywbeth i’r deallusion ei drafod yn unig. Yr hyn sydd ei angen yw cyrraedd cam C a sticio yno!

 

[Holwr] Pam bod yna ddiffyg democrataidd yng Nghymru? Ymhelaetha.

 

[IMJ] Yn syml iawn, dyw pobl Cymru ddim yn clywed digon am yr hyn sy’n mynd ymlaen yn y Cynulliad. Cafodd arolwg ei gynnal y llynedd gan Cushion & Scully a ddangosodd mai dim ond 4% oedd yn darllen y Western Mail, a 16% yn darllen y Daily Mail. Ac mae yna astudiaethau hefyd yn dangos mai ychydig o sylw y mae gwleidyddiaeth yn ei gael hyd yn oed pan mae pobl yn dewis darllen, gwylio neu wrando ar gyfryngau Cymreig.

 

Effaith hynny yw anwybodaeth ynglŷn â’r hyn y mae’r Cynulliad yn ei wneud. Yn 2014 roedd arolwg gan y BBC ac ICM wedi dangos mai dim ond 48% a ddyfalodd yn gywir mai Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am iechyd, ac roedd 42% yn credu fod ganddyn nhw rym dros un pwn pwysig arall, heddlua, nad oes ganddyn nhw.

 

Yn anffodus, gwaethygu nid gwella y mae sefyllfa’r wasg Saesneg yng Nghymru. Mae cylchrediad y Western Mal wedi syrthio o 55,000 ar ddechrau datganoli i lai na’ 20,000 heddiw. Ac mae’r Daily Post wedi penderfynu cael gwared ar swydd y gohebydd llawn amser a oedd i lawr yn y Senedd.

Mae’r Cynulliad eu hunain wedi dweud bod hyn yn fater o bryder. Dywedodd y Llywydd ym mis Mai 2013 bod yna “ddiffyg democrataidd” yng Nghymru, o ganlyniad i wendid y cyfryngau Cymreig a dibyniaeth y boblogaeth ar gyfryngau “Anglo-centric” dros y ffin. Dywedodd mai’r pwysau ariannol oedd ar gyfryngau Cymru oedd yn bennaf gyfrifol am y broblem.

 

[Holwr] Beth yw dy farn am gyflwr y cyfryngau yng Nghymru ar hyn o bryd? 

 

[IMJ] Rwy’n credu bod yna lot o newyddiadurwyr sy’n gwneud gwaith gwych yng Nghymru. Nid eu bai nhw ydi’r hinsawdd economaidd sy’n golygu bod eu nifer yn lleihau bob blwyddyn. Os nad oes gen ti’r newyddiadurwyr a’r amser mae’n anodd ofnadwy cynhyrchu newyddiaduraeth o safon. Os yw golygydd yn disgwyl pedair neu pum stori gen ti'r diwrnod, wel, dwyt ti ddim yn mynd i ddod o hyd i sgandal Watergate, wyt ti? Rwyt ti’n mynd i drosi copi datganiadau i’r wasg neu sgwennu listicles.

 

Mae yna rai pethau wrth gwrs, fel agwedd iach at sefydliadau gwleidyddol Cymru, y Gymraeg, ein diwylliant, ayyb, sydd ddim yn costio ceiniog i’w meithrin. Mae yna elfen o fewn ein cyfryngau Saesneg yn enwedig sydd, o’r 19eg ganrif hyd heddiw, wedi bod yn wrthwynebus i bethau Cymreig ac yn ganmoliaethus i unrhyw beth Prydeinig, h.y. Seisnig. Dydw i ddim yn credu bod hwnnw’n agwedd sy’n ennill darllenwyr iddyn nhw heddiw, yn enwedig ymysg y to iau sy’n fwy cyfforddus eu Cymreictod, nac yn meithrin yr ymdeimlad o Gymreictod sy’n angenrheidiol os yw pobl am gymryd balchder yn ein sefydliadau cenedlaethol a thalu sylw i’r hyn y maent yn ei gyflawni.

 

[Holwr] Oes yna ddigon o alw am wefan newyddion drwy'r Saesneg yng Nghymru a gwneud gwahaniaeth?

 

[IMJ] Nid yn unig y mae yna alw ond rwy’n credu ei fod yn rhywbeth cwbl angenrheidiol. Ni all democratiaeth weithredu’n effeithiol heb sffêr gyhoeddus, ac er mwyn cael sffêr gyhoeddus mae angen cyfryngau a fydd yn cyfryngu rhwng y bobl a’r llywodraeth. Rydyn ni’n wynebu argyfwng ar hyn o bryd - o fewn degawd flynyddoedd, fe allai gogledd neu de Cymru fod heb bapur dyddiol.

 

Mae ambell un wedi gofyn – pam yn Saesneg? Onid y dewis cenedlaetholgar yw sefydlu rywbeth yn Gymraeg?

 

Ychydig flynyddoedd yn ôl y frwydr oedd am bapur dyddiol yn y Gymraeg, sef y Byd. Ni lwyddwyd i gyrraedd y nod hwnnw ond rwy’n credu ein bod ni bellach wedi cwrdd â’r galw - Mae BBC Cymru Fyw, Golwg 360, a Newyddion 9 rhyngddynt yn darparu popeth y byddai papur dyddiol wedi ei ddarparu, a mwy. Ac ar ben hynny mae gennym ni Golwg, Barn, O’r Pedwar Gwynt, y Cymro, ac yn y blaen.

 

Hynny yw, mae yna fwy o gyfryngau ar gyfer trafodaeth genedlaethol yn y Gymraeg bellach nag sydd yn Saesneg. Yn y Saesneg mae gen ti newyddion y BBC. Yn wahanol i’r gwasanaeth Cymraeg, isadran i’r gwasanaeth Prydeinig yw hwnnw, neu fwletinau ychwanegol ar ôl y newyddion teledu Prydeinig. Dim ond ar y radio y mae o’n wasanaeth sy’n sefyll ar ei ben ei hun.

 

Ac wedyn mae gen ti’r papurau rhanbarthol - y Western Mail, sydd er ei fod yn honni bod yn bapur cenedlaethol yng ngwasanaethau’r de-ddwyrain yn bennaf; y Daily Post, sydd wedi rhoi’r gorau i werthu copïau yn y de o gwbl; ac wedyn nifer di-rif o bapurau lleol a Cambrian Newses wedi eu gwasgaru drwy weddill canolbarth a gorllewin Cymru.

 

Colli golwg......

 

Y broblem gyda phapurau rhanbarthol yw eu bod yn colli golwg ar y darlun cenedlaethol - h.y. beth sy’n digwydd o fewn ein sefydliadau cenedlaethol a sut y bydd y rheini yn effeithio ar fywydau pobl o ddydd i ddydd. Dyw person sy’n byw yn y Fflint, sydd yn darllen y Sun ac efallai'n cael pip ar gopi ei fam o’r Daily Post bob nawr ac yn y man ddim yn mynd i gael unrhyw syniad sut mae’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn y Senedd yn effeithio ar ei fywyd bob dydd.

 

[Holwr] Oes yna ddigon o gymdeithas sifig yn bodoli drwy'r Saesneg yng Nghymru? 

 

[IMJ] Mae angen dau beth ar genedl - sefydliadau cenedlaethol a chyfryngau torfol cenedlaethol. Yn yr 19eg ganrif roedd gennym ni'r cyfryngau torfol cenedlaethol (yn Gymraeg o leia’) ond ddim y sefydliadau cenedlaethol. Bellach mae gennym ni llawer iawn o sefydliadau cenedlaethol ond ddim y cyfryngau torfol. Mae hyn yn beth peryg oherwydd heb arolygiaeth gall y sefydliadau hyn weithredu fel y mynnent. Mae hefyd yn dda i ddim i’r sefydliadau sydd eisiau dylanwadu ar y cyhoedd ac ennyn eu diddordeb yn y gwaith y maent yn ei wneud.

 

Y peth pwysig i’w gofio hefyd yw bod y cyfryngau yn meithrin cymdeithas sifig gryfach. Os oes gan y cyhoedd fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n mynd rhagddo o fewn sefydliadau gwleidyddol maent yn fwy tebygol o weithredu er mwyn sefydlu cymdeithasau, elusennau ayyb sy’n ceisio dylanwadu ar y sefydliadau rheini.

 

Mae cyfryngau cryf fel llif dŵr mewn cors - mae’n sicrhau nad yw pethau’n mynd yn rhy ddisymud, yn rhy farwaidd ac yn dechrau drewi. Mae syniadau newydd yn cael eu cyflwyno ynghynt a rhai gwael yn cael eu carthu. Dydw i ddim eisiau swnio fel Donald Trump ond y ffordd orau o wagio’r gors yw cyfryngau cryfion!

 

[Holwr] Mae canlyniad refferendwm Brexit wedi dangos fod papurau newydd fel papurau tabloid ym Mhrydain yn parhau yn ddylanwadol.  Ydi cyhoeddi ar y We yn cyfyngu dy gynulleidfa? a dim ond yr ‘usual suspects’ fydd yn ei ddarllen? Sef lleiafrif sy’n cyfrannu ar Twitter? 

 

[IMJ] Er bod nifer darllenwyr papurau newydd Prydain yn gostwng rwy’n cytuno eu bod yn parhau i fod yn ddylanwadol. Meant yn ddylanwadol yn bennaf oherwydd bod newyddiadurwyr mewn teledu a radio, ac ar y we, sydd efallai heb yr un adnoddau o ran cynnal newyddiaduraeth ymchwiliadol yn ddibynnol arnynt am straeon. Yn ail, maent yn parhau i gyrraedd demograffig hŷn sydd yn debygol o bleidleisio ac sydd hefyd ar begwn eu gyrfa ac felly yn meddu ar lawer o ddylanwad o fewn cwmnïoedd a sefydliadau.

 

Fe fyddai yn braf wrth gwrs sefydlu papur newydd dyddiol cenedlaethol. Does dim un wedi bod erioed, yn Gymraeg na’n Saesneg. Ond mae costau gwneud hynny yn anferthol. Yr hyn ydym ni wedi ei weld dros y ganrif ddiwethaf a mwy yw bod y gallu i gynhyrchu papurau newydd yn mynd i lai o lai o ddwylo, oherwydd bod y costau i wneud hynny mor uchel. Gydag ymgyrch dros flynyddoedd maith a chefnogaeth y llywodraeth efallai y byddai'r fath beth yn bosib yma yng Nghymru. Ond mae’n bosib y bydd print wedi chwythu ei blwc yn llwyr erbyn hynny beth bynnag.

 

Y cyfryngau cymdeithasol........

 

Un peth da am y rwydweithio cymdeithasol yw ei fod yn ffordd dda o ledu newyddion. Mae yna beryg mawr ar Twitter bod siambrau atsain yn ffurfio oherwydd bod pobl yn tueddu i ddilyn pobl y maent yn cytuno â’u barn wleidyddol yn barod. Mae Facebook yn llawer mwy defnyddiol rwy’n credu oherwydd bod modd cymryd mantais o’r cysylltiadau rhwng ffrindiau a theulu. Y tric ydw i wedi ffeindio yng Nghymru yw gwneud straeon am bobol. Mae Cymru yn fach. Os wyt ti’n gwneud stori yn dweud ‘Mae gwleidydd A wedi datgan bod y mesur rhoi organau ayyb ayyb’ neu ‘mae pwyllgor B yn credu ayyb’ ychydig iawn o nerds gwleidyddol (fel fi) fydd yn rhannu. Ond os allet ti ddweud ‘Dyma stori Joni Jos sydd yn fyw heddiw oherwydd deddf newydd rhoi organau'r Cynulliad’. Naill ai rydw i’n nabod Joni Jos fy hun, neu mae gen i ffrind ar Facebook sy’n nabod Joni Jos. Maen nhw’n rhannu’r stori, nid oherwydd bod ganddyn nhw ddiddordeb ysol mewn rhoi organnau, ond am eu bod nhw’n nabod ac yn hoffi Joni Jos. Ac fel sgil-effaith i ddarllen am hanes Joni Jos, yn dysgu bod iechyd wedi ei ddatganoli, a bod gan y Cynulliad bellach y grym i wneud penderfyniadau sy’n achub bywydau pobl fel Joni Jos.

 

Mae nifer yn trafod ‘bybl’ Bae Caerdydd a’r ffaith bod yr hyn sy’n digwydd o fewn y bybl yn berthnasol i neb sydd y tu allan ohono. Yr hyn ydw i’n gobeithio ei wneud yw gwneud twll yn y bybl hwnnw. Creu cynnwys sy’n berthnasol i bobl y gogledd-ddwyrain. Creu cynnwys sy’n berthnasol i bobl de Sir Benfro. Creu cynnwys sy’n berthnasol i bobl Powys. Gwneud Cymru yn berthnasol i bobl sydd ddim naill ai yn genedlaetholwyr diwylliannol o’r Fro Gymraeg neu yn genedlaetholwyr sifig o’r de ddwyrain.

 

[Holwr] Fe bleidleisiodd Cymru o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon. I ba raddau y mae hynny'n adlewyrchu cyflwr ein gwasg a dewisiadau darllen yr etholwyr yng Nghymru?

 

[IMJ] Fe bleidleisiais i Aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond rwy’n credu y bydd rhai gadael nawr, rywsut neu ei gilydd, oherwydd fe fyddai peidio â gwneud hynny yn gosod cynsail peryglus ar gyfer refferenda'r dyfodol. Ond dyw hynny ddim yn golygu na fydd modd newid barn y Cymry ar y mater yn y dyfodol a chynnal pleidlais mewn tua 20 mlynedd er mwyn mynd yn ôl i mewn, os yw’r UE dal yn fyw ac yn iach.

 

Ond rydw i hefyd yn grediniol bod anwybodaeth y Cymry o’r buddsoddiad yr oedd yr UE yn ei wneud yng Nghymru wedi chwarae rhan yn y penderfyniad i adael. Hyd y gwela’ i, ni fuddsoddodd yr ymgyrch i Aros fawr ddim amser ac ymdrech yng Nghymru, gan gredu eu bod nhw'n mynd i ennill y dydd ar gefn yr Alban a dinasoedd mawr de-ddwyrain Lloegr. Roedd gwleidyddion Cymru i weld yn disgwyl ar yr ymgyrch ‘Aros’ am arweiniad na ddaeth, ac roedd pawb braidd yn araf i ymateb i’r perygl. Pleidleisiodd pobl Cymru ar sail beth oedd orau i Brydain yn ei gyfanrwydd, nid beth oedd orau i Gymru. I’r gwrthwyneb a welwyd yn yr Alban, ac un ffactor yn hynny o beth oedd eu bod yn meddu ar gyfryngau a oedd yn llwyfan er mwyn trafod beth fyddai effaith gadael ar yr Alban yn benodol.