Siop Siarad
 
Yma cewch ddetholiad o newyddion o bob rhan o Gymru - yn erthyglau, storiâu, adolygiadau, polau piniwn ac adroddiadau gan unigolion, sefydliadau a busnesau. Y diben yw rhannu straeon lleol a chenedlaethol gyda phobl Cymru - rhannu storïau'r bobl gyda’r bobl. Felly os oes gyda chi stori i'w rhannu e-bostiwch hi at datganiad@lleol.cymru

Mae Ap newydd yr Urdd nawr ar gael!

15/04/2014
Categori: Iaith, Newyddion

Mae Ap newydd yr Urdd nawr ar gael!


Mae Ap newydd yr Urdd nawr ar gael!

Mae Ap newydd yr Urdd nawr ar gael! Mae’r Ap yn rhad ac am ddim ar yr App Store i'w lawr lwytho ar gyfer yr ipod, iphone neu ipad ac Google Play ar gyfer ffonau android.
 
Mae Ap newydd yr Urdd nawr ar gael! Mae’r Ap yn rhad ac am ddim ar yr App Store i'w lawr lwytho ar gyfer yr ipod, iphone neu ipad ac Google Play ar gyfer ffonau android.
 
Dyma Ap unigryw ble bydd modd i chi ymchwilio’n hawdd am weithgareddau a digwyddiadau cyfrwng Cymraeg yn eich ardaloedd! Gyda thros 3,000 o weithgareddau gan yr Urdd – dyma’r ffordd i chi ymchwilio’n hawdd i weld beth sy’n digwydd yn eich ardal chi!Ar yr Ap bydd gwybodaeth am ddigwyddiadau gan sefyd ...

darllenwch mwy

S4C yn lansio gwefan Clic newydd - gw...

11/04/2014
Categori: Newyddion


Mae S4C wedi lansio gwasanaeth ar-lein Clic ar ei newydd wedd gyda system newydd sy'n golygu bod gwylio cynnwys y Sianel, yn fyw ac ar-alw, yn fwy cyfleus nag erioed.
 
Mae'r wefan Clic newydd yn system hyblyg fydd yn gweithio ar amryw o blatfformau – gan gynnwys y platfformau mwyaf poblogaidd, Apple ac Android - ac yn addasu ei hun ar gyfer maint y ddyfais sy'n cael ei defnyddio.
 
Mi fydd hefyd am y tro cyntaf yn caniatáu i wylwyr rannu gwybodaeth am y cynnwys ar rwydweithiau cymdeithasol.
 
Ynghlwm â hyn, mae gan Clic wedd newydd ffres a chyfoes – newidiadau fydd yn atseinio ar hyd holl wasanaethau S4C, ar-lein ac ar deledu.
 
Dywedod ...

darllenwch mwy

Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Penodi ...

10/04/2014
Categori: Ar-lein, Iaith, Newyddion

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Wikimedia UK wedi cyhoeddi penodi’r Wicipediwr Preswyl cyntaf erioed mewn sefydliad Cymraeg.
 
Penodwyd Marc Haynes i’r breswyliaeth yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd yn adrodd nôl ar sut y gellir rhannu adnoddau addysgiadol ar blatfformau Wikimedia, gan gynnwys Wikipedia, o dan drwyddedau agored priodol. Bydd hyn yn caniatáu i bobl rannu, defnyddio ac ailddefnyddio cynnwys addysgol y Coleg yn y pen draw.
 
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gorff cenedlaethol sy’n chwarae rhan allweddol mewn cynllunio, cefnogi a datblygu addysg ac ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru. &nbs ...

darllenwch mwy

Dwy ddinas, dwy brifysgol, un enillydd…

08/04/2014
Categori: Chwaraeon

Dwy ddinas, dwy brifysgol, un enillydd…


Dwy ddinas, dwy brifysgol, un enillydd…

Ar 9 Ebrill, daw myfyrwyr o Brifysgolion Abertawe a Chaerdydd wyneb yn wyneb i frwydro mewn dros ugain o gampau chwaraeon gwahanol i ganfod enillwyr tarian Farsity Cymru. Her Farsity Cymru yw'r digwyddiad mwyaf o’i fath i fyfyrwyr yng Nghymru, a’r ail fwyaf o blith Gemau Farsity Prifysgolion Prydain, yn dilyn y gystadleuaeth rhwng Rhydychen a Chaergrawnt.
 
Yn ystod Her Farsity Cymru, bydd Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn cystadlu mewn dros 20 o gampau gwahanol: o bêl-fasged, rhwyfo, golff, hoci a nofio i gleddyfaeth, sboncen a Ffrisbi Eithafol. Mae'r gystadleuaeth yn codi i uchafbwynt â'r gêm rygbi fawr, sy'n cael ei chynnal o flaen torf o fil ...

darllenwch mwy