Lansiad rhifyn #38 o gylchgrawn Tu Chwith ‘digidol’
Categori: Adolygiadau Cerddoriaeth, Adolygiadau Llyfrau, Ar-lein, Barn, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Lansiad #38 31.03.13
Tafarn Penlan Fawr, Pwllheli
i ddechrau oddeutu 4:00yh yn ystod gig Bob Delyn a’r Ebillion
Yn dilyn llwyddiant lansiad ‘Gwreiddiau’ #36 yn Nhafarn Penlan y llynedd, rydym yn falch iawn o gael dychwelyd eto eleni ar gyfer lansiad #38, ‘digidol’.
Mae croeso cynnes iawn i bawb ymuno â chriw tu chwith ar gyfer lansiad #38 yn awyrgylch ffantastig Penlan Fawr! Bydd cerddoriaeth fyw gan Bob Delyn a’r Ebillion a chyfle i brynu copi o’r cylchgrawn, cyn iddo gyrraedd y siopa’!
Edrychwn ymlaen am eich cwmni?