Lansio ffilm fer i hybu addysg Gymraeg

21/12/2017

Categori: Addysg, Iaith

Mae’r iaith Gymraeg yn perthyn i ni gyd! Dyna yw neges ffilm fer newydd sbon a ryddhawyd yr wythnos hon ac sydd eisoes wedi creu cryn gynnwrf ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r ffilm, sy’n brosiect ar y cyd rhwng RhAG, Ymgyrch TAG a chwmni Orchard ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn anelu i gyflwyno profiadau rhieni a disgyblion am addysg Gymraeg. Mae cyfranogwyr y ffilm yn cynnwys rhieni Cylch Meithrin Grangetown a’r Bae, disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr a phennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad.

Y prif ysgogiad ar gyfer cynhyrchu’r ffilm oedd agor Ysgol Hamadryad yn 2016, yr ysgol Gymraeg gyntaf i wasanaethu ardaloedd Grangetown a Thre-biwt – dwy o ardaloedd mwyaf aml-ethnig ac amlddiwylliannol Cymru. Roedd sefydlu’r ysgol yn garreg filltir hanesyddol yn natblygiad addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ac yn gam pwysig o ran sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael yn hwylus i bob cymuned yn y ddinas.

 

Bydd lansiad swyddogol ar 6 Chwefror 2018 yn Nhŷ Hywel, Bae Caerdydd wedi ei noddi gan ACau o bob plaid.

 

Meddai Huw Williams ar ran Ymgyrch TAG, “Fel ymgyrchwyr iaith, rydym mor falch inni sicrhau ysgol i’r gymuned amlddiwylliannol hon i adeiladu ar bresenoldeb y Cylch Meithrin. Yn ganolog i’r ymgyrch oedd ein dyhead i weld plant o bob cefndir yn derbyn addysg Gymraeg, ac er bod gwaith eto i’w wneud er mwyn lledaenu’r neges, mae’r ffilm yn dangos unwaith i’r gwaith hwnnw gael ei gyflawni, bod y Gymraeg yn agor cyfleoedd, cysylltu diwylliannau ac yn hyrwyddo goddefgarwch.”

 

Ychwanegodd Ceri McEvoy, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG, “Mae’r iaith Gymraeg yn dreftadaeth ddiwylliannol gyffredin i bawb sy’n dewis byw yng Nghymru. Hyderwn y bydd y ffilm hon yn fodd o ddathlu hynny ac yn ein galluogi i rannu neges gadarnhaol am yr iaith fel erfyn all greu undod a theimlad o berthyn. Mae siwrnai gyffrous o’n blaenau wrth i

unigolion a chymunedau newydd gofleidio’r Gymraeg am y tro cyntaf. Mae gwneud addysg Gymraeg yn hygyrch i bob cymuned yn rhan annatod o’r daith honno.”

 

Meddai Gosia Khan, rhiant o Grangetown ac un a gymerodd ran yn y ffilm, "Rwy'n byw yn Grangetown ac rwy'n anfon fy mab i feithrinfa Gymraeg yma. Rwy'n gobeithio y bydd yn rhugl yn y Gymraeg, fel y mae eisoes yn rhugl mewn Pwyleg, Saesneg ac Urdu. Mae gennym ysgol newydd yn Grangetown, felly pam lai? Mae’n Gymraeg, wrth ymyl y tŷ, ac yn cynnig cyfleoedd gwych iddo. Os nad ydych chi’n anfon eich plentyn yno, dwi ddim yn deall pam!”

 

Dywedodd Shereen Williams, rhiant i ddau o blant sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd, "Mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi bod yn brofiad gwych i'n teulu ni. Mae ein plant yn hyderus yn defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg ac fel rhieni mae'r gymuned sy'n bodoli o gwmpas yr ysgol yn gefnogol ac yn gynhwysol.

 

"Roedd ein penderfyniad yn seiliedig ar ddau ffactor - mae fy ngŵr yn falch o'i hunaniaeth a'i ddiwylliant Cymreig, felly roedd hwn yn ddewis naturiol iddo. O ran fy hun, fe'm magwyd yn ddwyieithog yn Saesneg ac yn Malay, gyda system addysg lle roedd pwyslais cryf ar ein Mamiaith, felly i mi roedd hwn yn ffordd o ymgorffori treftadaeth a hunaniaeth gymysg fy mhlant. "

 

"Mae'n bwysig ymgysylltu'n ehangach i annog teuluoedd i ystyried Addysg Gymraeg ar gyfer eu plant er mwyn i ni allu datblygu cymuned o siaradwyr Cymraeg sy'n adlewyrchu’n well y Gymru amlddiwylliannol.”

 

Ymfudwr a mam i ddau o blant

 

Medd Radha Nair-Roberts, mam i ddau o blant sy’n mynychu ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd, "Fel ymfudwr cymharol ddiweddar i Gymru (dinesydd Singaporean, deuthum i fyw yng Nghaerdydd yn 2006), rwyf wedi profi croeso cynnes gan y gymuned sy'n siarad Cymraeg, sy’n adleisio'r profiadau a ddangosir yn y fideo hwn.

 

"O enedigaeth fy mhlentyn cyntaf yn 2007, bu'n hawdd cysylltu â siaradwyr Cymraeg, gyda llawer o gefnogaeth gan sefydliadau fel Mudiad Meithrin. Er ei bod yn ymddangos yn frawychus ar y dechrau, cefais lawer o anogaeth o ffynonellau swyddogol ac answyddogol ar y llwybr i ddysgu Cymraeg i mi fy hun fel rhiant, ac ar gyfer fy mhlant.

 

"Mae fy mhlant bellach yn ddwyieithog ac wedi ymgartrefu yn eu hysgol cyfrwng Cymraeg, lle maent yn ffynnu'n academaidd. Byddwn yn argymell yn fawr bod teuluoedd sy'n symud i Gymru yn manteisio ar y cyfle i fagu eu teuluoedd yn ddwyieithog – gwnewch beth sydd orau iddynt!"

 

Welsh Education : Embrace It from Orchard on Vimeo.