Lansio llyfr cwis tîm pêl-droed Cymru

25/05/2016

Categori: Chwaraeon, Iaith, Newyddion

O’r diwedd mae tîm pêl-droed Cymru wedi cyraedd pencampwriaeth ryngwladol fawr ac i ddathlu hyn mae’r Lolfa wedi cyhoeddi y Welsh Football Quiz Book.

Caiff ‘The Welsh Football Quiz Book’ gan David Collins ei gyhoeddi ar y 27 o Fai cyn i Gymru gymryd rhan ym mhencampwriaeth Ewro 2016 yn Ffrainc.

 

Mae’r llyfryn cwis 20 pennod yn cynnwys cwestiynau am bob peth yn ymwneud â phêl-droed rhyngwladol Cymreig gan gynnwys Gareth Bale, ‘Haf 1958’, ‘1976 ac ati’, ac wrth gwrs, Gary Speed.

 

‘Dyma’r llyfryn perffaith i hyd yn oed y dilynwyr mwyaf brwdfrydig a theyrngar i weld faint yn union mae nhw’n ei wybod am stori y dreigiau coch," meddai’r awdur, David Collins, "Yn lyfryn ysgafn, mae’n dathlu rhai o lwyddiannau diweddaraf tîm Cymru."

 

"Mae’r llyfryn bach hwn wedi bod yn lafur cariad i David’ ychwanegodd Mal Pope, sy’n gweithio ar Radio Wales. ‘Hyd yn oed os nad ydych yn gwybod yr atebion i gyd, gobeithio bydd y cwestiynnau hyn yn eich arwain ar daith i ddarganfod mwy am hanes arbennig pêl-droed Cymru."

 

"Mae David wedi tynnu o’i brofiadau o boen a dioddefaint wrth ddilyn Cymru dros y blynyddoedd a’r canlyniad yw llyfryn bach gwych fydd yn setlo sawl dadl mewn tafarndai ymhlith cyd-gefnogwyr!" meddai’r darlledwr, awdur, a chyd gefnogwr Tim Hartley.

 

Cefnogwr pêl-droed Cymru

 

Cafodd David Collins ei eni yng Nghaerdydd a bu’n gefnogwr i bêl-droed Cymru ar hyd ei fywyd. Mae wedi ysgrifennu’n eang ar bêl-droed Cymru dros y blynyddoedd gan gynnwys dau lyfryn cwis ar Cardiff City. Mae’n cyfrannu’n gyson i gylchgrawn The Dragon Has Landed yn ogystal a nifer o raglenni Radio Wales. Mae hefyd yn gefnogwr o Gôl, yr elusen gaiff ei redeg gan ddilynwyr Cymru i gynnig cefnogaeth i achosion cyfiawn ble bynnag mae Cymru yn chwarae. 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru