Lansio prosiect ymchwil ar dirweddau arfordir Cymru

22/03/2017

Categori: Amgylchedd, Newyddion

Bydd prosiect ymchwil Ewropeaidd sy’n edrych ar beryglon newid yn yr hinsawdd o safbwynt tirweddau arfordirol Cymru ac Iwerddon, yn cael ei lansio’n swyddogol yfory.

Gyda chymorth ariannol o €4.1m gan raglen Cymru-Iwerddon yr Undeb Ewropeaidd, mae  prosiect CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd) yn cael ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. 

 

Bydd yn prosiect yn canolbwyntio ar y pentiroedd a’r ynysoedd o amgylch Sir Benfro, Bae Ceredigion a Phen Llŷn, ynghyd â safleoedd ar arfordir de a dwyrain Iwerddon.

 

Defnyddir y technolegau diweddaraf i ddadansoddi archaeoleg yr arfordir a’r ynysoedd a’r safleoedd treftadaeth forol sydd wedi gweld yr effaith fwyaf yn sgil newid yn yr hinsawdd, erydu arfordirol, stormydd a lefel y môr sy’n codi o hyd.

 

Bydd y prosiect yn ariannu gwaith cloddio newydd, cofnodi newidiadau amgylcheddol, mapio morol a modelu’r tirwedd.

 

Un o nodau’r prosiect yw datgelu rhai o’r cyfrinachau sydd o’r golwg o dan y dŵr o amgylch Cymru ac Iwerddon, gan gynnwys hen longddrylliadau.

 

Mae Dr Toby Driver yn Uwch Ymchwilydd i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru: “Bydd ein cyd-ymchwilwyr yn Iwerddon yn defnyddio cwch ag offer arbennig i gynnal arolygon aml-baladr o dan y môr, a thrwy ddefnyddio’r dulliau mapio morol diweddaraf, byddwn yn gallu casglu delweddau eglur iawn o longddrylliadau a aeth i drafferthion o dan y dŵr mewn mannau fel Sarn Badrig ger Harlech. Bydd rhai wedi bod yno am hyd at bedair canrif, a dyma fydd y tro cyntaf i rai ohonynt gael eu gweld o dan y dŵr. 

 

 “Byddwn hefyd yn edrych ar dwyni tywod Niwbwrch yn Ynys Môn, lle dywedir i bentref cyfan gael ei gladdu o dan y tywod gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Ymhlith y lleoliadau eraill bydd Ynysoedd y Moelrhoniaid, Stagbwll ac ynysoedd Sir Benfro yn ogystal â safleoedd ar arfordir Iwerddon.”

 

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at y bartneriaeth drwy ddatblygu cofnodion eglurder iawn o newidiadau amgylcheddol gan ddefnyddio cofnodion gwaddodol a hanesyddol, dan arweiniad Dr Sarah Davies, Darllenydd yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (ADGD).

 

 “Mae gwaddodion mewn dyddodion mawn arfordirol, fel y rhai yng Nghors Fochno yn y Borth, yn ogystal ag mewn rhwydweithiau twyni a morlynnoedd, yn darparu cofnod manwl o newidiadau yn yr hinsawdd yn y gorffennol. Mae gennym ddiddordeb arbennig yn y ffordd y mae gweithgarwch stormydd wedi amrywio dros y mil o flynyddoedd diwethaf, a’r gwersi y gall hanes eu dysgu i ni heddiw.

 

 “Dros raddfeydd amser hanesyddol, gall cofnodion dogfennol hefyd ddarparu gwybodaeth werthfawr am natur gweithgarwch stormydd wrth iddo newid – a sut y mae cymunedau wedi ymdopi â byw mewn amgylcheddau arfordirol deinamig,” meddai Dr Davies.

 

Bydd y prosiect o gymorth i strategaethau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol oherwydd bydd yn cynnig dealltwriaeth fwy trylwyr o newidiadau mwy hirdymor i dreftadaeth ac amgylcheddau arfordirol Cymru ac Iwerddon, sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

 

Cynhelir digwyddiadau cyhoeddus i rannu gwybodaeth am y canfyddiadau a threfnir sesiynau hyfforddi i helpu i ddatblygu cyfleoedd twristiaeth.

 

Cydweithio Celtaidd

 

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru Mark Drakeford: “Mae'r prosiect hwn yn gyfle i Gymru ac Iwerddon ddod at ei gilydd i fynd i'r afael â rhai o'r heriau ry’n ni’n eu hwynebu o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd yn ein hardaloedd arfordirol. Mae'n hynod o bwysig bod safleoedd treftadaeth ac adnoddau sydd mewn perygl o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd yn cael eu diogelu, ac mae'n bleser gweld y bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn cefnogi cyfleoedd newydd i sector twristiaeth y ddwy wlad.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru