Lansio rhifyn newydd O'r Pedwar Gwynt

Mae’r rhifyn newydd o’r Pedwar Gwynt yn olrhain hanes saith chwyldro ynni ar ein Daear, herio’r farn mai pleidlais hiliol oedd y bleidlais Brexit yng Nghymru, a phaentio tywysogaeth Dafydd Elis-­‐Thomas.

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gylchgrawn eangfrydig sydd â gogwydd byd-­‐eang, ac mae’r hinsawdd a’r amgylchedd yn thema bwysig yn rhifyn Gwanwyn 2018 – pwnc sydd wedi ei esgeuluso yn y Gymru Gymraeg. 

 

Cynog Dafis sy’n cyfweld R Gareth Wyn Jones am saith chwyldro ynni ein byd a pham ei fod o’r farn bod y ddynoliaeth ar lwybr peryglus. O ddiddordeb i unrhywun sy’n ymddiddori yn esblygiad dyn, mae’r sgwrs bwysig hon yn archwilio cwestiynau sydd ymhlith rhai pwysicaf ein hoes.

 

I sinema Tywyn yr aeth Golygydd Cysylltiol newydd O’r Pedwar Gwynt, Angharad Penrhyn Jones, i adolygu ffilm ddiweddaraf yr anturiaethwr a’r amgylcheddwr, Bruce Parry. Mae ei hysgrif, ‘Dod at ein coed’, yn myfyrio ar natur enwogrwydd, ar berthynas y ddynoliaeth gyda’r amgylchedd, ac ar gyflwr ymwybyddiaeth heddiw.

 

Arwyddocâd ‘Y Ganrif Tsieineaidd’ ar gyfer gweddill y byd sydd dan sylw gan Aled Gruffydd Jones. Adolygir cyfrolau diweddar dylanwadol yn y maes ganddo. Ond hanes dylanwad Cymro – hogyn fferm o Sir Gâr – ar ddatblygiad Tsieina a gawn gan Rowan Zhao, myfyrwraig ymchwil yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

 

Cyhoeddir hefyd yn y rhifyn newydd hwn ystod eang o ysgrifau yn ymdrin â’r amrywiaeth arferol o bynciau: 

 

Mae Catrin Ashton yn herio’r farn mai pobl hiliol yn unig bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd ac yn tynnu ar y cysyniad o ‘obaith radical’ wrth fyfyrio ar ei chymuned yng nghymoedd de Cymru.

 

Mewn erthygl amserol tu hwnt, mae Carl Morris yn trafod effeithiau arferion corfforaethol Facebook ar y diwylliant Cymraeg, gan ddadlau bod ‘cyfaredd y gair “algorithm” yn cuddio cymhlethdodau’.

 

Gwyneth Lewis, yn ei thro, sy’n ein hannog i ystyried celwydd gramadeg; T Robin Chapman sy’n talu ‘teyrnged anfwriadol’ i’r beirniad a’r bardd, y diweddar Athro Bobi Jones; Nerys Williams sy’n trafod adfywiad y farwnad yng ngwaith dau o’n prif feirdd benywaidd; a Tomos Owen sy’n rhoi sylw i ysgrifau M Wynn Thomas a’r ‘doethineb a ddaw ar ben gyrfa gyhoeddi doreithiog’. Yn ogystal â’r delweddau trawiadol arferol, mae rhifyn Gwanwyn 2018 yn cynnwys cartŵn newydd sbon gan Boz Groden sy’n dychanu ‘tywysogaeth’ Dafydd Elis-­‐Thomas. Ceir hefyd ddetholiad o nofel graffig ar y gweill gan Siôn Tomos Owen.

 

Holi a herio

 

Dywedodd Sioned Puw Rowlands: ‘Mae O’r Pedwar Gwynt yn credu’n angerddol ym mhwysigrwydd darllen, holi a herio. Pan mae’r tir yn symud dan ein traed, hyder – a ffydd – yn ein gallu i ddadansoddi’n onest a rhoi llais i’n profiadau ein hunain, mewn cyd-­‐destun byd-­‐eang, sydd yn mynd i’n galluogi i symud ymlaen yn gadarn ar y llwybr cul.’

 

Mae rhifyn Gwanwyn 2018 hefyd yn cynnwys adolygiadau o The Jews of Wales gan Cai Parry-­‐Jones a chyfrol Douglas Jones ar gomiwnyddiaeth a chenedlaetholdeb yng Nghymru.

 

Ceir gwaith creadigol newydd gan Huw Lawrence ac Emyr Lewis, ‘Dyddiadur myfyrdodau’ Yng ngholofn ‘Socrates ar y stryd’ mae Huw L Williams yn trafod gormes ac yn ‘Gwynt y Dwyrain’, cawn ein pryfocio gan Mihangel Morgan, sy’n gofyn cwestiynau miniog am gefnogwyr Corbyn a’r sawl sy’n mynnu bod yn wleidyddol gywir ar draul gonestrwydd. Cyhoeddir hefyd golofn newydd gan Emyr Ll Gruffudd, ‘Cyffesion Llyfrbryf’.

 

Yn ôl y Golygydd Cysylltiol, Angharad Penrhyn Jones, ‘Mae’n fraint cael ymuno â chriw O’r Pedwar Gwynt a bod yn rhan o fenter mor gyffrous. Dwi’n credu bod y cylchgrawn hwn yn rhan bwysig o’r tirwedd diwylliannol a gwleidyddol yng Nghymru. Mae yma ddyfnder a nuance sydd wedi mynd yn brin yn y gymdeithas sydd ohoni, ac sydd yn rhaid ei ddathlu a’i feithrin.’

 

Mae O’r Pedwar Gwynt ar gael drwy’r post, ar-­‐lein ar pedwargwynt.cymru, ac mewn siopau llyfrau ledled Cymru; pris £4.95, 48tt.