Lansio ymgyrch 'Eryri, ond yn well fyth’ er mwyn atal sbwriel

31/07/2020

Categori: Addysg, Amgylchedd, Arian a Busnes, Iechyd, Newyddion

Wrth i bobl yn eu lluoedd ddychwelyd i Eryri mae Cymdeithas Eryri a’i phartneriaid yn lansio ymgyrch ymwybyddiaeth i fynd ag Eryri gam yn nes at fod yn Barc Cenedlaethol heb sbwriel.

Wrth gydweithio gyda Phartneriaeth y Wyddfa ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol, nod ymgyrch newydd yr elusen gadwraeth yw gadael i bobl wybod am y materion, annog newid ac ysbrydoli pobl fel eu bod yn dod yma efo’r bwriad o adael dim byd ar eu holau.
 
Mae’r cylch cyntaf yma o negeseua yn cynnwys cyfres o 15 o negeseuon ar-lein ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r enghreifftiau atodol yn trafod croen ffrwythau, poteli plastig, a phacedi creision. Mae eraill yn cynnwys negeseuon i helpu pobl i osgoi gorfod ‘mynd’ yn y mynyddoedd.
 
Meddai John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri: "Dydy sbwriel ddim yn anochel. Mae Eryri heb sbwriel yn bosib. Mae’n amlwg y byddai Eryri heb sbwriel yn well profiad i bawb – preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Ond mi fyddai Eryri heb sbwriel hefyd yn arbed arian, canlyniad lle byddai pawb ar eu hennill. Mae’r arbedion o ran costau arian ac amser staff pe bai pawb yn mynd â’u sbwriel gartref yn sylweddol, o ystyried y pwysau difrifol ar hyn o bryd ar yr awdurdodau, elusennau, tirfeddianwyr a gwirfoddolwyr sydd, gyda’i gilydd, yn gwneud eu gorau glas i warchod Eryri.
 
"Mae yna lu o broblemau anodd, megis trafnidiaeth a pharcio, lle bydd angen gwario arian mawr ar adeiladwaith mewnol a chostau gweithredu er mwyn sicrhau atebion tymor hir. Mae sbwriel yn wahanol. Mae’r atebion i sbwriel yn ein dwylo ni – mae gan bob un ohonom ran hanfodol i’w chwarae.
 
Mae sbwriel, yn llythrennol, yn ein dwylo ni."

 

Trosglwyddo ymwybyddiaeth


 
Dywedodd John Harold, "Pwy fyddai’n meddwl ei bod yn iawn agor eu drws a dod o hyd i sbwriel wedi ei adael ar riniog eu drws? Wel, neb, wrth gwrs. Dyna pam yr ydym yn credu bod pawb yn alluog i ddeall pam fod hyn yn bwysig ac yn gallu bod yn ofalus. Ein her yw trosglwyddo’r ymwybyddiaeth yma i bobl mewn ffyrdd sy’n gweithio. Felly does dim angen i sbwriel fod yn un o’r ‘problemau anodd’ yma. Os bydd pobl yn gollwng sbwriel, fyddan nhw ddim wedi meddwl am y peth, neu ddim yn rhagweld y canlyniadau na pham ei fod yn bwysig. Felly mae trosglwyddo’r negeseuon iawn mewn ffyrdd sy’n ddealladwy i bobl yn gallu gwneud gwir wahaniaeth. Dyna fyrdwn ein hymgyrch."
 
Mae Awdurdod y Parc yn gofyn i bawb helpu drwy ledaenu’r negeseuon yma ar-lein. Dyma gam cyntaf project i rannu problem sbwriel yn rhannau priodol – gan graffu a chanolbwyntio ar gwahanol fathau o sbwriel a throsglwyddo negeseuon wedi eu targedu. 
 
Ychwanegodd John Harold, "Gyda’n gilydd gallwn gymryd camau tuag at sicrhau Eryri heb sbwriel – yr Eryri sy’n hoff gennym ni, ond yn well fyth.”
 
Mae Cymdeithas Eryri yn cefnogi ac yn dathlu gwaith pawb sy’n helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon, yn cynnwys:
 
- Unigolion, yr arwyr sy’n treulio amser yn casglu sbwriel yn y mannau sy’n hoff ganddyn nhw
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd, CBS Conwy a Chyfoeth Naturiol Cymru 
- Tirfeddianwyr – ffermwyr ac elusennau sy’n berchen ar dir megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, Coed Cadw 
- Grwpiau codi sbwriel lleol – fel Casglwyr Bethesda, Llanberis Taclus a llawer mwy
- Cadw Cymru’n Daclus, sy’n cefnogi llawer o grwpiau lleol ledled Cymru.