Llawer o Gymru yn deffro i drwch o eira

06/02/2018

Categori: Amgylchedd, Hamdden, Newyddion

Deffrodd llawer o Gymru i drwch o eira ben bore heddiw, ac wrth i’r tywydd oer barhau, mae'r swyddfa dywydd yn rhybuddio am nosweithiau rhewllyd.

Roedd mannau o Sir Fôn wedi cael sawl modfedd o Eira, gyda haen o eira hyd yn oed ar draeth Pwllheli, Criccieth ac Aberystwyth - mannau sydd byth yn cael ei eira fel arfer!  Fe gaewyd sawl ysgol hefyd ar hyd a lled Cymru, a oedd yn destun dathliad i'r disgyblion! 

 

Mae’r swyddfa dywydd yn darogan mwy o’r tywydd oer dros y dyddiau nesaf. Felly cymerwch ofal ar y ffyrdd wrth iddi rewi’n galed. 

 

Mae Lleol.cymru wedi dethol rhai ddelweddau o’r tywydd a bostiwyd ar Trydar: