Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn prynu papurau pwysig bardd amlwg

24/09/2018

Categori: Llenyddiaeth, Newyddion

Yn ddiweddar, prynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru nifer o bapurau pwysig yn ymwenud â'r bardd, yr awdur a'r milwr Edward Thomas a gafodd ei ladd yn ymladd yn y rhyfel byd cyntaf.

Bu’r  eitemau i gyd ar un adeg yn eiddo’i gyfaill, y cyfreithiwr o Gaerloyw, Jack Haines (1875-1960).

 

Heb os, yr eitem pwysicaf yw’r  llyfr nodiadau sy'n cynnwys drafftiau llawysgrifol lluosog o  ddau o'i gerddi cynharaf, 'The Mountain Chapel' a 'Birds' Nests ', dyddiedig 17 a 18 Rhagfyr 1914, dim ond bythefnos ar ôl i Thomas ddechrau ysgrifennu barddoniaeth. Mae'r rhain yn hynod arwyddocaol a hynny oherwydd mai dim ond  ychydig iawn o’i   gerddi yn ei law ei hun sydd wedi goroesi: maen nhw hefyd yn  rhoi cyfle i ymchwilwyr am y tro cyntaf gael golwg manylach ar ddatblygiad Thomas fel bardd.

 

Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys drafft o gerdd ychydig yn ddiweddarach, 'House and Man', sydd ymhlith ei gerddi cyntaf i'w cyhoeddi, yn y cylchgrawn Root and Branch (1915).

 

Ymhlith y papurau eraill y mae adolygiad llawysgrifol  wedi’i ddyddio1903, na chafodd ei gyhoeddi; dau lythyr oddi wrth Thomas at  Jack Haines; a llythyr arwyddocaol at Haines gan  weddw Edward Thomas, Helen, sy’n cynnwys disgrifiad onest  o'r berthynas rhyngddi hi ag Edward,  a'i gyfaill agos, y bardd  Robert Frost.

 

Pryniant arwyddocaol

 

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr a Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Mae hwn yn bryniant arwyddocaol  ac yn ychwanegiad pwysig i’n archif Edward Thomas. Unwaith eto, rydym yn hynod ddiolchgar i ‘Gyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol am eu haelioni a'u cefnogaeth a’n galluogodd i brynu’r papurau "

 

Ganwyd a magwyd Edward Thomas yn Llundain, ar aelwyd Gymreig yn bennaf.  Yr oedd eisoes wedi ennill enw iddo’i hun fel   awdur a beirniad ers yn gynnar  mis Rhagfyr 1914, a gydag anogaeth Robert Frost,  iddo gyhoeddi   ei farddoniaeth am y tro cyntaf. Mae’r   cant a deugain o gerddi a gyhoeddwyd ganddo bron i gyd wedi’u creu  yn ystod y ddwy flynedd ddilynol, sef y cyfnod y cafodd ei alw i ymladd yn y Rhyfel Mawr.

 

Cafodd Thomas ei ladd gan daflegryn ar 9 Ebrill 1917, yn ystod Brwydr Arras.

 

Mae'r llawysgrifau yn ychwanegiad gwerthfawr at gasgliad arwyddocaol y Llyfrgell Genedlaethol o lawysgrifau a phapurau Edward Thomas, sy'n cynnwys drafftiau llawysgrif llawer o'i gerddi, gohebiaeth â'i wraig ac eraill, a'i ddyddiaduron, yn eu plith ei ddyddiadur Rhyfel 1917.