Mae'r Anifeiliaid Blewog yn eu hôl!
Categori: Cerddoriaeth, Newyddion

Daeth y newyddion cyffrous fod un o fandiau mwyaf Cymru yn ôl. Mae’r Super Furry Animals yn barod i danio eto, gyda chyfres o gyngherddau wedi’u trefnu ledled Prydain. Bu yna gryn ddirgelwch dros yr wythnos diwethaf, pan ryddhawyd dwy fideo cryptig yn awgrymu fod yr anifeiliaid blewog ar ei ffordd yn ôl.
Bu’r band yn dawel ers 2009, ble y gwelwyd yr aelodau i gyd yn dechrau prosiectau unigol eu hunain. Aeth y prif ganwr Gruff Rhys i ryddhau albymau cysyniadol, Separado ac American Interior, tra yr aeth y gweddill i dorri cwys eu hunain, gyda bandiau eraill fel The Earth.
Fel rhan o’r ailddyfodiad, bydd yr SFA yn ailryddhau ei hunig albwm gyfan gwbl Gymraeg, Mwng i ddathlu pymtheg mlynedd ers rhyddhau’r wreiddiol a aeth i safle unarddeg yn y siartiau Prydeinig. Dyma’r unig dro mewn hanes i ganeuon Cymraeg gyrraedd y prif ffrwd Prydeinig, a champ sydd heb ei hailadrodd ers hynny. Mae Mwng yn parhau hyd heddiw fel yr albwm sydd wedi gwerthu fwyaf erioed yn y Gymraeg, trwy guro y tragwyddol Trebor Edwards!
Dyma restr o’r gigs:
Neuadd Fawr Prifysgol Caerdydd Mai 1af a Mai 2il
O2 Academy, Glasgow - Mai 5ed
Albert Hall, Manceinion - Mai 6ed
O2 Academy Brixton, Llundain - Mai 8ed
Mae Lleol.Cymru yn dathlu’r atgyfodiad, gan chwarae trac o’r albwm Mwng, Y Teimlad, sef fersiwn y band o glasur Datblygu, David R. Edwards.