Manics yn recordio cân swyddogol i dîm pêl-droed Cymru

22/03/2016

Categori: Cerddoriaeth, Chwaraeon, Hamdden, Newyddion

Mae'r Manic Street Preachers wedi recordio cân swyddogol i dîm pêl-droed Cymru a fydd yn cael ei rhyddhau cyn pencampwriaethau’r Euro yn Ffrainc ym mis Mehefin.

Mae’r gan ‘Together Stronger (C’mon Wales)’ gan y band adnabyddus o'r Coed Duon yn dathlu ymddangosiad cyntaf Cymru mewn prif dwrnameint ers dros hanner can mlynedd. Bydd yr elw yn mynd at Ymddiriedolaeth y Princes Gate ac elusen gancr Tenovus. 

 

Wrth siarad am y gân, dywedodd rheolwr Cymru, Chris Coleman  “Roedd yn ffantastig gallu gweithio gyda band eiconig."

“Mae’r Manic Street Preachers wedi bod yn gefnogwyr angerddol o bêl-droed Cymru ac fe wnaeth yr hogiau fwynhau bod yn rhan o’r profiad."

 

Ychwanegodd, "Mae’n wych hefyd cefnogi achos da fel Ymddiriedolaeth Princes Gate ac elusen Tenovus."

 

Dathlu 20 mlynedd

 

Fe fydd y gân yn cael ei rhyddhau ar yr 20fed o Fai - i gydfynd gyda ailryddhau eu halbwm Everything Must Go i ddathlu 20 mlynedd ers ei rhyddhau yn wreiddiol. 

 

Tybed a fydd hon yn rhagori ar ganeuon swyddogol gwledydd eraill fel Lloegr? Mae sawl un o ganeuon swyddogol Lloegr mewn twrnameint blaenorol wedi cael ymateb gwael ac amser a ddengys a fydd hon yn tanio'r crysau cochion yn Ffrainc. Ond serch hynny, mae'r Manics wedi llwyddo i gyfansoddi anthemau gwych dros y blynyddoedd ac mae'n argoeli'n dda y bydd hon hefyd yn dilyn yr un trywydd.  

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru