Materion y Mis - Carafán mewn cwr o fynydd – yn barhaol?

02/07/2013

Categori: Newyddion

Materion y Mis - Carafán mewn cwr o fynydd – yn barhaol?

Mae’n ffaith gydnabyddedig ar lawr gwlad fod yna bobl yn byw mewn meysydd carafanau yn groes i’r rheolau. Nodir yn aml bod y bobl yma’n mynd ar eu gwyliau i Sbaen neu Malta neu fynd i weld perthnasau yn ystod y cyfnod hwnnw yn y gaeaf pan fydd y meysydd wedi cau.

 

Yn lled ddiweddar, mae perchnogion meysydd carafanau, gyda chymorth asiant yn aml, wedi bod yn gwneud ceisiadau cynllunio i gael cadw’r safloedd ar agor drwy gydol y flwyddyn yn hytrach na’r 46 wythnos y flwyddyn a ganiateir gan eu trwydded. Mewn sawl achos yn Sir Fflint a Sir Ddinbych (a mannau eraill) bu gwrthwynebiad i’r ceisiadau yma a’r pwyllgorau cynllunio yn eu gwrthod. Ond pan âi’r ceisiadau i apêl byddai arolygydd wedyn yn gwyrdroi’r penderfyniad.

 

Yn amlach na pheidio mae amod ynghlwm â’r caniatâd mai ar gyfer gwyliau yn unig y gellir defnyddio’r garafán sefydlog ac na ellir byw ynddi yn barhaol. Ond beth petai rhywun yn penderfynu bod ar ei wyliau yn barhaol? Mae awdurdodau lleol yn honni bod pwerau ar gael i reoli’r sefyllfa ond ar yr un gwynt yn cydnabod nad oes digon o adnoddau i fonitro hynny.

 

O gofio bod yng Ngwynedd 255 o feysydd carafanau lle ceir carafanau a chabanau gwyliau sefydlog a bron i 10,000 o unedau yn y meysydd hynny, mae’n deg tybio y gallai’r datblygiad uchod arwain at broblemau cymdeithasol ac at beryglu sefyllfa’r iaith Gymraeg drwy fewnlifiad cudd i bob pwrpas. Ymddengys bod 7,000 yn rhagor o bobl wedi’u cofrestru ar restrau meddygon nag oedd o bobl yn byw yn siroedd Conwy a Dinbych yn 2010.

 

Y llynedd daeth cais i ymestyn trwydded maes carafanau yn Chwilog gerbron pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd, cais yr oedd gwrthwynebiad wedi bod iddo yn lleol. Am resymau technegol ym maes cynllunio, roedd rhai ceisiadau o’r fath yn y sir wedi eu caniatáu drwy hawl ddiprwyedig gan swyddogion. Gwrthwynebwyd y cais yn Chwilog o fwyafrif sylweddol ond, unwaith eto am resymau technegol, fe’i rhoddwyd mewn cyfnod o ‘gnoi cil’.

 

Daeth y cais gerbron eto ym mis Chwefror eleni ac ar ôl trafodaeth fywiog penderfynodd y pwyllgor ofyn i’r Cyngor wneud asesiad o effaith y ‘datblygiad’ ar yr iaith yn yr ardal, hyn yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad. Y casgliad y daethpwyd iddo yn yr asesiad hwnnw oedd na fyddai newid yr amodau i ganiatáu i’r maes carafanau fod yn agored trwy gydol y flwyddyn yn cael effaith ar yr iaith yn lleol. Ym marn sawl un, roedd yr adroddiad yn llawn rhagdybiaethau, yn annigonol a heb gymryd i ystyriaeth beth fyddai effaith caniatáu’r cais ar geisiadau eraill yn y dyfodol. Efallai na fyddai caniatáu hyn ar un maes carafanau yn Chwilog yn gwneud fawr o wahaniaeth, ond beth petai rhai o’r 254 maes carafanau arall yng Ngwynedd yn cael caniatâd i agor trwy gydol y flwyddyn? Beth fyddai effaith hyn oll ymhen deng mlynedd dyweder, yn gymdeithasol yn ogystal ag yn ieithyddol?

 

Gwrthodwyd y cais gan y pwyllgor cynllunio fis Ebrill er gwaethaf pwysau gan y swyddogion i’r gwrthwyneb.

 

Ymddengys bod y gyfundrefn gynllunio yn gweithredu mewn ryw fath o seilo lle mae caniatâd yn cael ei roi (neu ei wrthod) heb ystyried y pictiwr yn llawn bob tro. Nid yw’r cynllun datblygu lleol sydd yn y broses o’i ddiweddaru yng Ngwynedd yn gallu/cael cymryd i ystyriaeth fod yna bosibilrwydd fod pobl heb fawr o gyfri amdanynt yn gallu byw yn ein broydd yn barhaol, ac nid ar wyliau. Pa mor ddilys ydi’r cynlluniau datblygu lleol os gellir anwybyddu pethau amlwg fel hyn?

 

Wrth ofyn am asesiad o effaith datblygiad ar yr iaith ymddengys bod rhaid bod yn hynod ofalus gan y gallai’r brîff fod yn rhy gyfyng o lawer ac o’r herwydd yn ddiwerth. Mae’r Comisiynydd Iaith yn pwyso am gyfundrefn i safoni hyn yn ôl a deellir.

 

Mae Aled Evans yn gynrychiolydd ward Llanystumdwy ar Gyngor Gwynedd.

 

Ffynhonnell: Cylchgrawn Barn