Mentrau Iaith Cymru yn edrych ymlaen at y chwarter canrif nesaf

18/11/2016

Categori: Iaith, Newyddion

Fe fu Mentrau Iaith Cymru yn dathlu yn Aberystwyth ddoe i nodi chwarter canrif ers sefydlu’r fenter iaith gyntaf, a’r neges ymhlith y mentrau oedd yr angen i edrych ymlaen yn hyderus at yr 25 mlynedd nesaf.

Fe ddaeth Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies i’r digwyddiad, ac yn ei araith, fe ddywedodd, “Rydym yn falch bod y Mentrau’n ymateb i'r strategaeth iaith mewn ffordd uchelgeisiol - rydym yn sôn am greu un miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dydyn ni ddim yn sôn am 1 miliwn yn cymryd arholiadau a ddim yn cael y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg ar ôl hynny - rydym yn sôn am filiwn sy'n defnyddio’r iaith ac yn hyderus i wneud a hefyd yn cael cyfle i'w ddefnyddio. Mae yna gyfrifoldeb arnom ni gyd fel Cymry ac fel cymunedau i sicrhau dyfodol yr iaith, ac rydym yn cydnabod y cyfraniad mae'r Mentrau Iaith wedi’i wneud a chydnabod y cyfraniad bydd y Mentrau’n gwneud yn y dyfodol.”

 

Yn ystod y digwyddiad cyflwynwyd dogfen newydd, sef proffil y Mentrau, sy’n amlinellu’r gwaith mae'r 23 o Fentrau ar draws Cymru wedi’i gyflawni yn ein cymunedau, ond yn fwy pwysig yn gosod y sylfaen am y cyfnod nesaf.

 

Cyfleoedd

 

Gyda’r cyfleoedd i weithredu a chryfhau’r iaith Gymraeg ym mhob cwr o Gymru, bydd gweithredu’r blaenoriaethau penodol yn cynnwys bod yn bwynt cyswllt cyntaf i gymunedau Cymru ar gyfer y Gymraeg. Byddant yn anelu i weithredu fel partner allweddol wrth gefnogi’r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd y Mentrau yn ymchwilio I ffyrdd newydd o gydweithio a’n gilydd a phartneriaid, gan sefydlu rhwydwaith torfol o gefnogwyr a gwirfoddolwyr.  Byddant yn sicrhau gwasanaethau o safon uchel a chyson a chyllid ychwanegol i alluogi'r Mentrau i gynnig lefel gyson o wasanaethau ar draws Cymru.

 

Dywedodd Owain Gruffydd, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru:“Mae’r Mentrau’n gyrff sy’n tyfu a datblygu’n gyson, a hynny mewn ymateb i anghenion a dyheadau cymunedau Cymru. Mae'r Mentrau Iaith ar draws Cymru yn wahanol ac yn unigryw, i adlewyrchu eu hardaloedd, ond y weledigaeth sy’n clymu’r cyfan yw gweld y Gymraeg yn datblygu’n iaith gymunedol fyw ym mhob rhan o Gymru.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru