Mentrwch allan dros y Nadolig i roi hwb i’ch iechyd

24/12/2014

Categori: Hamdden, Iechyd

Gall cerdded ar Lwybr Arfordir Cymru wneud mwy na’ch adfywio neu gynnig rhywle gwych ichi fynd am dro – oherwydd mae adroddiad newydd yn dangos y gall helpu pobl i fyw’n hŷn.

 

Gyda mwy na 23,000 o gerddwyr ar gyfartaledd yn defnyddio’r llwybr bob wythnos, mae’r adroddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi darganfod y gall yr hyn sy’n gyfwerth â saith o fywydau gael eu hachub bob blwyddyn.

 

Mae’r buddion iechyd yn sgil gweithgarwch corfforol yn werth £18.3m y flwyddyn; felly nid yn unig mae cerdded Llwybr yr Arfordir yn dda i chi, ond mae hefyd yn dda i Gymru i gyd.

 

Meddai Sue Rice, Rheolwr Prosiect Llwybr Arfordir Cymru yn CNC:

 

“Mae gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored, fel cerdded, yn dda i’n hiechyd mewn sawl ffordd, ond yn hanesyddol mae hi wedi bod yn anodd profi beth yw’r buddion yma.

 

“Yn yr achos yma, rydym wedi cyfrifo’r bywydau sydd wedi’u hachub a’u hymestyn yn sgil gweithgarwch corfforol er mwyn mesur y gwerth i iechyd pobl.”

 

Defnyddiodd yr adroddiad Offeryn Asesu Economeg Iechyd (HEAT) ar gyfer cerdded i gyfrifo’r gwerth economaidd sy’n gysylltiedig â buddion iechyd prosiect arbennig.

 

Yn draddodiadol, caiff HEAT ei ddefnyddio gan gynllunwyr cludiant i fesur gwerth economaidd y buddion iechyd a ddaw yn sgil cerdded a beicio i gymudwyr, ond mae wedi cael ei addasu i fesur am y tro cyntaf beth yw effeithiau iechyd cerdded wrth hamddena.

 

Meddai Sue Rice:

 

“Yn awr, gall sefydliadau ar hyd a lled y byd wneud defnydd o’r dull arloesol yma o ddefnyddio’r fethodoleg i gyfrifo’r buddion a ddaw yn sgil cerdded wrth hamddena.”

 

Meddai Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol:

 

“Mae’r adroddiad yma’n dangos y gall Llwybr Arfordir Cymru wneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan fod o fudd i bawb a fydd yn cerdded ar ei hyd.

 

“Yn awr, mae ’na reswm gwell fyth dros fwynhau cerdded ar hyd rhan o’r llwybr 870 milltir dros gyfnod y Nadolig.”

 

Cafodd Llwybr Arfordir Cymru ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, un ar bymtheg o awdurdodau lleol a dau o awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol.