Miloedd yn gorymdeithio dros annibyniaeth
Categori: Addysg, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Gwleidyddiaeth, Hamdden, Iaith, Iechyd, Llenyddiaeth, Newyddion

Daeth dros 5000 o gefnogwyr i Ferthyr dros y penwythnos i gymryd rhan mewn gorymdaith trwy’r dref yn cefnogi annibyniaeth i Gymru.
Dyma’r orymdaith ddiweddaraf i AUOBCymru neu Pawb Dan Un Faner ei threfnu yn dilyn gorymdeithiau yng Nghaerdydd a Chaernarfon.
Cynhaliwyd y rali ar Sgwâr Penderyn, ble cafwyd cyfranwyr yn cynnwys enwogion y byd chwaraeon, fel Eddie Butler a chyn golgeidwad Cymru, Neville Southall, y bardd a’r dramodydd Patrick Jones, a’r cantorion Kizzy ac Eädyth Crawford.
Mae Lleol.cymru wedi dethol llu o negeseuon trydar wrth i filoedd o bobl ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru. Mwynhewch y negeseuon.