Mudiad iaith yn beirniadu un o weinidogion Cymru am geisio dileu amod Gymraeg i ddisgrifiad swydd

20/03/2019

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Mae un o Weinidogion Llywodraeth Cymru wedi bod dan y lach gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am yn honedig geisio cael gwared ar amod y dylai’r Llyfrgellydd Cenedlaethol newydd fedru’r Gymraeg cyn i’r swydd gael ei hysbysebu ddiwedd y llynedd.

Mae 90% o staff y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn siarad Cymraeg ac mae’r corff yn gweithio’n fewnol drwy’r iaith.

 

Yn ôl ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, nododd swyddog mewn e-bost mewnol ym mis Hydref y llynedd bod y Gweinidog Dafydd Elis-Thomas yn ‘benderfynol’ na ddylai swydd y Llyfrgellydd Cenedlaethol gael ei hysbysebu gyda’r Gymraeg yn sgil hanfodol. Ychwanegodd y gwas sifil ei fod yn ‘pryderu y gallai arwain at ffrae gyhoeddus niweidiol’, gan fod y Llyfrgell yn benderfynol y dylai’r Gymraeg fod yn hanfodol i’r swydd. Wedi holi’r Gweinidog ymhellach, dywedodd swyddog arall bod y Gweinidog Diwylliant Dafydd Elis-Thomas wedi dweud ‘na ddylai [’r swydd] gael ei hysbysebu gyda’r Gymraeg yn hanfodol. Mae e eisiau denu ymgeiswyr o faes mor eang â phosibl’.

 

Yn y diwedd, penderfynodd Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Rhodri Glyn Thomas, anwybyddu pwysau gan y Gweinidog i ollwng y gofyniad y dylai ymgeiswyr allu gweithio yn Gymraeg. Ond ymatebodd gwas sifil drwy rybuddio’r Llyfrgell na ddylen nhw wneud hynny gan y byddai’r Gweinidog yn ‘anhapus iawn’ ac y ‘gallai hynny wneud pethau’n llawer iawn anoddach gyda materion eraill y mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gobeithio sicrhau ein cefnogaeth ar eu cyfer (e.e. yr Archif Darlledu)’

 

Dywedodd gwas sifil arall ‘Gobeithio na fydd hyn yn troi’n sefyllfa Chwaraeon Cymru arall ond…”

 

Ymddygiad gwarthus

 

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith: “Mae ymddygiad y Gweinidog yn warthus, ac mae’n codi nifer o cwestiynau o bwys mawr sydd angen eu hateb. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn un o’r sefydliadau prin sy’n gweithio’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf. Os yw’r Gymraeg i ffynnu, mae angen mwy o sefydliadau o’r fath, nid llai. Byddai penodi rhywun di-Gymraeg i’r swydd wedi tanseilio statws y Gymraeg fel iaith gwaith y sefydliad a hynny’n sylweddol iawn. Dyna pam ei bod hi’n gymaint o destun pryder i ni bod Gweinidog yn y Llywodraeth wedi mynd ati’n fwriadol i fygwth y Gymraeg yn y fath fodd. Mae’n ymddangos hefyd i’r Gweinidog ymddwyn yn amhriodol wrth ymwneud â sefydliad annibynnol.

 

“Mae awgrymu y byddai cynnwys amod iaith mewn disgrifad swydd yn cyfyngu ar safon ymgeiswyr yn sarhaus ac yn hollol gyfeiliornus. Mewn corff sy’n defnyddio’r Gymraeg fel prif iaith fewnol, mae’n amlwg na fyddai rhywun di-Gymraeg yn gymwys ar lefel sylfaenol i reoli ac arwain y sefydliad.”

 

“Yn fwy cyffredinol, mae gan Lywodraeth Cymru record wael iawn pan ddaw hi at gynyddu defnydd mewnol o’r Gymraeg o fewn y gwasanaeth sifil a chyrff cyhoeddus eraill. Mae creu a chynnal swyddi Cymraeg a sicrhau bod rhagor o gyrff yn gweithio drwy’r iaith yn hanfodol er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Rydyn ni’n llongyfarch y Llyfrgell Genedlaethol, a’r Llywydd yn benodol, am wrthsefyll y pwysau amhriodol gan y Gweinidog i danseilio defnydd y Llyfrgell o’r Gymraeg. Mae’n debyg nad oes llawer o sefydliadau fyddai â digon o arweiniad i wrthod safbwynt y Llywodraeth.”