Mudiad iaith yn lansio gweledigaeth dros ddarlledu

23/01/2017

Categori: Celfyddydau, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae mudiad iaith wedi cyhuddo Gweinidogion yn Llundain ‘o ddinistrio darlledu Cymraeg a Chymreig’ a bod datganoli darlledu i Gymru yn ‘flaenoriaeth frys’ wrth iddynt lansio papur polisi manwl am adolygiad o S4C.

Lansiodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddogfen dros y penwythnos sy’n amlinellu gweledigaeth o sut y gallai Cymru stwythuro ei chyfryngau petai’r Cynulliad yn cael y grymoedd dros ddarlledu.  Mae’r grŵp pwyso yn dadlau bod modd creu strwythur llawer mwy cymunedol, wedi datganoli’r maes, a fyddai’n esgor ar dwf mewn cyfryngau megis radio a llwyfannau digidol cymunedol.

 

Yn y ddogfen bolisi, mae’r mudiad hefyd yn awgrymu troi Awdurdod S4C yn ‘Awdurdod Darlledu’ cyffredinol i Gymru a fyddai’n gyfrifol am oruwchwylio ‘Sianel Cymru’, neu S4C newydd, a fyddai’n darparu tair sianel deledu Gymraeg; tair gorsaf radio Gymraeg, Dau wasanaeth newyddion aml-lwyfan Cymraeg a gynhyrchir yn fewnol a chefnogaeth i fentrau cyfryngau lleol a chymunedol sy’n cynhyrchu cynnwys Cymraeg. 

 

Dywedodd Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, “Mae’n hen bryd cael naid fawr ymlaen i’r cyfryngau yng Nghymru - ar hyn o bryd rydyn ni’n bell y tu ôl i wledydd fel Gwlad y Basg a Chatalwnia. Mae’r bygythiad diweddaraf i gwtogi cyllideb S4C yn profi unwaith eto nad oes modd ymddiried mewn Gweinidogion yn Llundain - does dim ots ‘da nhw am Gymru, heb sôn am Gymraeg. Maen nhw’n mynd i ddinistrio’r cyfryngau Cymraeg a Chymreig os nad yw pethau’n newid - mae datganoli darlledu i Gymru yn flaenoriaeth frys bellach.

“Ar ben hynny, mae Ofcom wedi methu â gwasanaethu Cymru a’r Gymraeg, ac mae’n parhau i fethu. Felly, rydyn ni’n dadlau y dylid gweddnewid ac ehangu Awdurdod S4C i fod yn ‘Awdurdod Darlledu Cymru’, a fydd yn gyfrifol am reoleiddio darlledu yng Nghymru, yn lle Ofcom. Byddai cylch gwaith, dyletswyddau a grymoedd y corff newydd yn cynnwys hyrwyddo a normaleiddio’r Gymraeg ar bob llwyfan cyfryngol (gan gynnwys Netflix ac Amazon Prime, er enghraifft), gyda grymoedd i osod cwotâu ar radio masnachol a theledu lleol o ran y ganran o’u darlledu sydd yn Gymraeg.

“Byddai gan yr Awdurdod newydd yma ddyletswydd dros hyrwyddo cyfryngau cymunedol, ac yn benodol rhai Cymraeg. Yn ychwanegol at hyn, dylid newid model S4C er mwyn iddi allu cynhyrchu gwasanaeth newyddion eu hunain neu gomisiynu cwmnïau Cymraeg i wneud hynny.”

Mae Llywodraeth Prydain wedi datgan bod trafodaeth am ddatganoli darlledu yn ‘anochel’ yn mynd i fod yn rhan o’r adolygiad o S4C a gynhelir eleni.

 

Cyfle prin

 

Ychwanegodd Heledd Gwyndaf, “Mae adolygiad o S4C yn cael ei gynnal eleni ac mae’n deg dweud bod hyn yn cynrychioli cyfle prin iawn i edrych yn fanwl ar fanylion y diwydiant darlledu yng Nghymru. Mae’r ddadl dros ddatganoli darlledu yn un gref iawn - mae arbenigwyr yn y maes yn cyfaddef hynny. Mae’r maes wedi ei ddatganoli mewn gwledydd bychain eraill, ac maent wedi defnyddio eu pwerau er lles ieithoedd lleiafrifoledig. Mae gyda ni gyfle drwy’r adolygiad yma felly i ddechrau cyfnod newydd ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru, drwy ddatganoli’r maes i Gymru. Dyna pam rydyn ni’n lansio’r papur heddi ym Mangor - er mwyn sbarduno’r drafodaeth bellgyrhaeddol sydd ei hangen er mwyn normaleiddio’r Gymraeg ar bob llwyfan. ”

 

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus am adolygiad S4C gan ofyn am farn y cyhoedd ac arbenigwyr ar y cynigion.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru