Mudiadau Cymraeg yn codi pryderon am newid cyfraith iaith

31/10/2017

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Dim angen diddymu swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

Mae grŵp ymbarél o fudiadau iaith wedi rhybuddio y gallai cynlluniau Llywodraeth Cymru am Ddeddf Iaith newydd 'ddargyfeirio' ymdrechion o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif mewn llythyr agored heddiw.

Mewn ymateb i bapur gwyn y Llywodraeth sy'n cynnig newid y ddeddfwriaeth iaith a basiwyd yn 2011, mae'r glymblaid o fudiadau sy'n cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn argymell "pwyllo ac oedi cyn cyflwyno newidiadau mor bellgyrhaeddol â'r rhai sydd yn y papur gwyn" ac yn hytrach "canolbwyntio ar weithredu'r fframwaith ddeddfwriaethol bresennol yn llawn". Mae'r llythyr cyhoeddus yn datgan nad oes 'tystiolaeth gadarn' i gyfiawnhau diddymu Comisiynydd y Gymraeg.

 

Ymysg y mwy nag ugain o aelodau'r grŵp ymbarel, mudiadau Dathlu'r Gymraeg, mae'r undeb athrawon UCAC, Mentrau Iaith Cymru, Cymdeithas yr Iaith, Rhieni dros Addysg Gymraeg a'r Mudiad Meithrin.  

 

Dywed y llythyr gan Gadeirydd Dathlu'r Gymraeg, Rebecca Williams:"Credwn fod angen dechrau unrhyw drafodaeth ynghylch deddfwriaeth iaith gan ystyried anghenion pobl a'u defnydd o'r Gymraeg ynghyd â dylanwadu ar ddefnydd iaith ymhlith cenedlaethau'r dyfodol.

 

"Dylai unrhyw gynigion gryfhau, yn hytrach na gwanhau, hawliau pobl i'r Gymraeg. Ers i'r Safonau ddechrau dod i rym ychydig dros flwyddyn yn ôl, rydyn ni wedi gweld rhai datblygiadau cadarnhaol sydd wedi deillio o'u bodolaeth, ynghyd â rhai o weithredoedd Comisiynydd y Gymraeg, megis: cynnydd yn narpariaeth gwersi nofio Cymraeg; rhagor o swyddi sy'n gofyn am sgiliau Cymraeg; a gwella darpariaeth y Gymraeg ar dechnoleg newydd.

 

"Cytunwn fod angen cadw'r system Safonau, gan eu hymestyn i gwmpasu profiad unigolion - o'r crud i'r bedd - yn enwedig yn y sector breifat a gwirfoddol.

 

"Yn ogystal, credwn fod angen ystyried rhoi hawliau cyffredinol ar wyneb unrhyw Fesur, gan gynnwys hawl i addysg a gofal plant Cymraeg – yr union sectorau a fydd yn galluogi'r Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr."

 

Gwella hawliau i’r Gymraeg

 

Ychwanega'r llythyr: "Gwelwn yr angen am reoleiddiwr annibynnol a grymus, gyda phrif nod o amddiffyn a gwella hawliau i'r Gymraeg ym mhob maes bywyd.

 

"Cytunwn â Llywodraeth Cymru fod angen datblygu polisi ar sail tystiolaeth gadarn: ni welwn fod tystiolaeth ddigonol ar hyn o bryd, ar lefel ryngwladol nac ar lefel ddomestig, a fyddai'n cyfiawnhau diddymu Comisiynydd y Gymraeg.

 

"Pryderwn y gall y papur gwyn ddargyfeirio ymdrechion y Llywodraeth o'r gwaith pwysig o weithredu Strategaeth y Gymraeg, sydd wedi ennyn cefnogaeth o bob cwr o Gymru. Credwn felly y byddai mantais pwyllo ac oedi cyn cyflwyno newidiadau mor bellgyrhaeddol â'r rhai sydd yn y papur gwyn. Byddai hynny'n sicrhau bod modd canolbwyntio ar weithredu'r fframwaith ddeddfwriaethol bresennol yn llawn, a gwneud yn fawr o'i lawn botensial."

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru