Neges i'r Prif Weinidog fod cynllunio ieithyddol yn hanfodol i'r Gymraeg

15/02/2019

Categori: Amgylchedd, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Mae mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu llythyr i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn mynegi eu pryderon ynglŷn â dyfodol polisi cyhoeddus y Gymraeg.

Bu diddymu Bil y Gymraeg yn gam wrthdroadol, ac yn hytrach nag anelu at ymateb arloesol i anghenion yr iaith, y perygl bellach yw cadw’r pwyslais ar reoleiddio a hawliau’n unig. Mae Dyfodol yn grediniol bod angen ymateb ehangach a fframwaith strategol cadarn os am greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Trefn fyddo’n rhoi lle dyledus i’r Gymraeg ar draws yr holl feysydd polisi, gan fynd i’r afael ag oblygiadau cymdeithasol a chymunedol ei dysgu a’i defnyddio.

 

Mae’r mudiad yn galw am i’r Llywodraeth fabwysiadu egwyddorion Cynllunio Ieithyddol fyddai’n diwallu anghenion y Gymraeg ar draws ystod o feysydd allweddol, megis: creu aelwydydd Cymraeg, Cymreigio’r gweithle, gwarchod a chryfhau ei chadarnleoedd, yn ogystal â’i datblygu fel cyfrwng cymdeithasol naturiol.

 

Yn absenoldeb y math o gorff eangfrydig a addawyd ym Mil y Gymraeg, mae Dyfodol felly’n galw am sefydlu Asiantaeth i’r Gymraeg o fewn y Llywodraeth i roi arweiniad strategol a sicrhau cysondeb polisi. Byddai’r mudiad yn dymuno i Gomisiynydd y Gymraeg barhau i fod yn gyfrifol am ddatblygu a rheoleiddio’r safonau iaith, yn ogystal â gweithredu fel Ymgynghorai Statudol i’r Gymraeg ym maes cynllunio gwlad a thref.

 

Ehangu’r drafodaeth

 

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:“Rydym yn awyddus iawn i agor ac ehangu’r drafodaeth allweddol hon, a gwneud hynny’n rhagweithiol a chadarnhaol. Mae’n gyfnod tyngedfennol i’r Gymraeg, ac ni allwn fforddio golli’r cyfle i fabwysiadu’r egwyddorion a strwythurau sy’n hanfodol os ydym am weld yr iaith yn ffynnu.”