Nid oes rhwystr cyfreithiol i enw uniaith Gymraeg i'r Senedd, yn ôl arbenigwr cyfreithiol

06/11/2019

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae cyn-Brif Cynghorydd Cyfreithiol y Cynulliad wedi dweud nad oes unrhyw rwystr cyfreithiol i roi enw uniaith Gymraeg ar y sefydliad.

Mae'r farn yn dod wedi i Lywodraeth Cymru godi amheuon am gyfreithlondeb gosod yr enw 'Senedd' neu 'Senedd Cymru' yn Gymraeg yn unig. Cynhelir pleidlais derfynol ar ail-enwi'r Cynulliad ddydd Mercher nesaf, 13eg Tachwedd.

 

Mewn barn gyfreithiol mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhannu gydag Aelodau Cynulliad, meddai Keith Bush CF, sy'n Uwch Gymrawd Cyfraith Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: ".. nid wyf yn credu bod yna unrhyw rwystr cyfreithiol a fyddai'n sefyll yn ffordd newid enw'r Cynulliad i "Senedd" nac i "Senedd Cymru", heb enw Saesneg cyfatebol swyddogol. Wrth gwrs, ceir gwahanol farnau ar briodoldeb rhoi naill ai enw uniaith neu un dwyieithog ar y Cynulliad. Ond mater o farn yw hynny ac nid oes unrhyw rwystr cyfreithiol i ddewis enw Cymraeg yn unig."

 

"Dadl y Llywodraeth yn erbyn defnyddio naill ai "Senedd" neu "Senedd Cymru" (heb fersiwn Saesneg) yw y byddai hynny'n groes i ysbryd adran 5 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Mae'r adran honno'n ymwneud a statws cyfartal testunau Cymraeg a Saesneg deddfwriaeth, ac nid yw'n ymddangos bod iddi berthnasedd i gwestiwn enw'r ddeddfwrfa. Ond beth bynnag am hynny, nid yw'r Llywodraeth yn awgrymu bod rhoi enw uniaith Gymraeg ar y sefydliad yn groes i lythyren y Ddeddf honno nac unrhyw ddeddf arall.

 

Tiriogaeth

 

Ychwanegodd Keith Bush, "Cwestiwn arall yw a ddylai'r enw "Senedd" (os dewisir enw uniaith Gymraeg) gael ei chyplysu a chyfeiriad at diriogaeth y Senedd honno. Hynny yw, a ddylid ail-enwi'r Cynulliad yn "Senedd" neu'n "Senedd Cymru"? Eto, nid yw'r Llywodraeth yn awgrymu bodolaeth unrhyw rwystr cyfreithiol rhag dewis "Senedd". Yn hytrach, dadl y Prif Weinidog yw y byddai "Senedd Cymru" yn fwy dealladwy i'r sawl sy'n darllen y term, er enghraifft pan fyddai'n ymddangos mewn deddfwriaeth. Gwrthwynebiad ymarferol, yn hytrach nag un cyfreithiol sydd gan y Llywodraeth ac rwyf yn cytuno mai dyna yw'r sefyllfa."

Cynhelir rali ddydd Sadwrn yma am 12pm tu allan i'r Senedd yn cefnogi enw uniaith Gymraeg, bydd Jolyon Maugham QC ymysg y siaradwyr.