Siop Siarad
 
Yma cewch ddetholiad o newyddion o bob rhan o Gymru - yn erthyglau, storiâu, adolygiadau, polau piniwn ac adroddiadau gan unigolion, sefydliadau a busnesau. Y diben yw rhannu straeon lleol a chenedlaethol gyda phobl Cymru - rhannu storïau'r bobl gyda’r bobl. Felly os oes gyda chi stori i'w rhannu e-bostiwch hi at datganiad@lleol.cymru

Taith Eisteddfodwyr i Ganolfan Mileni...

03/08/2012
Categori: Celfyddydau

Yn dilyn llwyddiant taith ddrama i Gastell y Waun yn Eisteddfod Wrecsam 2011, rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod ni’n gallu cynnig taith arbennig arall.  Dyma gyfle i chi Eisteddfodwyr fwynhau taith yn rhad ac am ddim i ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru.  Mae’r Ganolfan yn awyddus i’ch croesawu ac felly wedi trefnu gweithgareddau ar eich cyfer.  Mae’r amserlen isod, ond bydd y daith yn cynnwys trafnidiaeth i’r Ganolfan, taith dywys tu cefn llwyfan a chyfle unigryw i gael ymweld ag arddangosfa newydd y Ganolfan. Dros gyfnod yr haf bydd y Ganolfan yn gartref i arddangosfa ar y cyd rhwng Iwan Bala a Menna Elyn. 
 
Bydd y dda ...

darllenwch mwy

Cynhyrchiad Awyr Agored gan Ganolfan ...

13/07/2012
Categori: Celfyddydau

Haf yma bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn mynd a’i chynhyrchiad newydd safle-benodol Ma’ Bili’n Bwrw’r Bronco allan ledled Cymru. Yn seiliedig ar ddrama wreiddiol gan gwmni drama Grid Iron o’r Alban, mae’r addasiad Cymraeg gan Jeremi Cockram yn dilyn pum crwt ifanc a hanes un haf tyngedfennol yng Nghwm Tawe.
 
Bydd y daith yn dechrau yng Nghaerdydd ar Y Marl yn Grangetown. Mae’r set wedi’i lunio o swings mewn parc, sy’n gofyn llawer yn gorfforol gan y cast ifanc - ac am gast! Wythnos yma mae’r Ganolfan wedi cyhoeddi y bydd y perfformwyr talentog Iestyn Arwel, Gareth John Bale, Rhys Downing, Dafydd Rhys Evans, Sion Ifan, Carwyn ...

darllenwch mwy

Y Pafiliwn Pinc yn ei le!

10/07/2012
Categori: Bwyd, Celfyddydau, Chwaraeon, Newyddion

Mae’r Eisteddfod ar y gorwel ac ar ei ffordd i Fro Morgannwg, wrth i’r Pafiliwn Pinc gael ei godi ar y Maes ar hen dir maes awyr Llandw ger Y Bontfaen a Llanilltud Fawr. Mae gan yr awyr uwchben y Fro chwech o dyrrau newydd erbyn hyn ac fe fydd y rhain yn aros yno tan ar ôl y Brifwyl a gynhelir o 4-11 Awst.

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, “Ychydig dros dair wythnos sydd i fynd cyn y bydd yr Eisteddfod yn cychwyn eleni. Fe’i cynhaliwyd yn y Fro y tro diwethaf yn 1968, ac mae cefnogaeth a chymorth y bobl leol a’r gwirfoddolwyr wedi bod yn ardderchog dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae codi’r P ...

darllenwch mwy

Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti...

10/07/2012
Categori: Celfyddydau

I nodi pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn hanner cant, ac i ddathlu pum degawd o ymgyrchu brwd a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, bydd 50 o artistiaid Cymraeg blaenllaw yn perfformio mewn gig enfawr ym mhafiliwn enwog Pontrhydfendigaid.Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr13–14 Gorffennaf 2012, Pafiliwn PontrhydfendigaidHanner Cant fydd y gig Cymraeg mwyaf ers degawdau, gyda bandiau’n chwarae ar dri llwyfan o 6yh nos Wener ac o ganol dydd Sadwrn hyd at yr oriau mân. Byddwn yn cyhoeddi enwau’r artistiaid un bob wythnos rhwng nawr a’r penwythnos mawr:






 
Nos Wener

9Bach
Y Bandana
Bob Delyn a’r Ebillion
Y Bwgan
Catrin Herbert
C ...

darllenwch mwy