Saith Seren yn Wrecsam i gau
14/04/2015
Categori: Hamdden, Iaith, Newyddion
Cyhoeddodd cyfarwyddwyr Clwb Saith Seren yn Wrecsam fod y ganolfan yn mynd i gau am y tro olaf fis nesaf am ei bod ‘yn methu talu ffordd’, gyda chwech o swyddi yn cael eu colli.
Mae’r ganolfan boblogaidd ynghanol y dref wedi datblygu’n ganolbwynt i weithgareddau Cymraeg y Dref ers tair mlynedd a hanner.
Mewn datganiad ar dudalen Facebook Saith Seren, dywedodd y cyfarwyddwyr, "Er i'r ganolfan lwyddo o ran hybu a chefnogi'r Gymraeg yn y dre, ni lwyddodd i dalu'i ffordd, er haelioni'r aelodau a gwirfoddolwyr. Rydan ni wedi methu â dod i gytundeb efo'n landlordiaid, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, ac felly does dim dewis ond cau'r drysau. Ein bwr ...
Sesiynau ymarfer corff i bobl sy'n di...
10/04/2015
Categori: Addysg, Hamdden, Iechyd
Mae diwrnod o weithgareddau arbennig wedi ei gynnal yng Nghoed y Brenin yn ddiweddar i’r rhai sy’n mynychu dosbarthiadau DementiaGo yn Ngwynedd.
Fel rhan o’r digwyddiad, cynhaliwyd dosbarth ymarfer a thaith gerdded i ddathlu ymdrechion pawb sy’n cymryd rhan yn y sesiynau yng nghanolfannau hamdden y Cyngor ar draws y sir.
Lansiwyd dosbarthiadau DementiaGo yng Ngwynedd ym mis Tachwedd 2014 gyda’r nod o helpu pobl sydd yn byw gyda Dementia a’r rhai sydd yn gofalu amdanynt drwy eu cyflwyno i sesiynau ymarfer grŵp i wella eu gweithgareddau corfforol. Ariannwyd y cynllun drwy grant Gofal Canolradd Llywodraeth Cymru i helpu i gefnogi pobl hyn i ...
Llywodraeth yn ystyried gosod microsg...
10/04/2015
Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Iechyd, Newyddion
Mae’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans wedi gofyn i RSPCA Cymru gynnal adolygiad annibynnol i edrych ar berchnogaeth gyfrifol ar gŵn yng Nghymru.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn datganiad gan y Dirprwy Weinidog y mis diwethaf yn lansio ymgynghoriad ar gynigion i’w gwneud yn orfodol gosod microsglodion ar gŵn o’r gwanwyn nesaf ymlaen.
Disgwylir i’r adolygiad gyflwyno adroddiad ddechrau’r hydref. Bydd Dogs Trust Cymru a phartïon eraill â buddiant fel Awdurdodau Lleol, ysgolion a milfeddygon hefyd yn cymryd rhan.
Disgwylir iddo argymell ffyrdd o godi ymwybyddiaeth ynghylch y cyfrifoldebau a ddaw wrth fod yn ...
Yr actor Ioan Hefin ymhlith sêr y sgr...
10/04/2015
Categori: Celfyddydau, Hamdden, Newyddion
Bydd yr actor Ioan Hefin yn ymddangos mewn ffilm ymhlith sêr y sgrin fawr megis Samuel L Jackson, Eva Green, y Fonesig Judi Dench a Rupert Everett yn 2016.
Enw’r ffilm yw Peregrine’s Home for Peculiars sy’n addasiad o nofel Ransom Riggs Miss Peregrine’s Home for Peculiar Children. Dechreuodd y ffilmio’r wythnos hon a bydd yn treulio pythefnos ar leoliad dros y mis nesaf.
Mae Ioan hefyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac y mae ei brofiad fel yn galluogi iddo roi cyngor a gwybodaeth o fywyd go iawn i’w fyfyrwyr ynglŷn â’r diwydiant.
Meddai Ioan, “Un o’r m ...