Pencampwriaeth feicio yn dychwelyd i Aberystwyth

11/03/2015

Categori: Hamdden, Newyddion

Pencampwriaeth feicio yn dychwelyd i Aber

Cyhoeddwyd fod pencampwriaeth feicio y Pearl Izumi Tour Series yn dychwelyd i Aberystwyth ar ddydd Gwener, 22 Mai, gyda beicwyr o bob rhan o Brydain yn cymryd rhan yn y ras nodedig.  

 

Dyma fydd unig leoliad Cymreig y daith, a bydd yn rhan o benwythnos Gŵyl Feicio Aberystwyth. 

 

"Rydym yn falch iawn i gynnal y Pearl Izumi Tour Series eleni ac i groesawu gwylwyr a beicwyr i Geredigion. Caiff y digwyddiad ei ddarlledu a bydd yn gyfle gwych i ddangos Aberystwyth ar ei orau" meddai’r Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Gwasanaethau Ffordd o Fyw.


Mae’r daith yn dod i Aberystwyth yn y trydydd rownd gyda ras feicio i fyny rhiw Craig Glais prynhawn dydd Gwener - yr unig seiclo o’i fath ar y daith - a noson o rasio cylched heriol o amgylch y dref yn nodi dechrau’r ŵyl.

 

Hwn fydd chweched Gŵyl Seiclo Aberystwyth sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd bob blwyddyn gyda rhai o brif feicwyr Prydain yn gwneud ymddangosiad prin yng nghanolbarth Cymru.

 

Mae'r Ŵyl yn dechrau ar 18 Mai eleni gydag wythnos o weithgareddau yn arwain at y penwythnos mawr, gan gynnwys reidiau canol wythnos a reidiau nos MTB.

 

"Rydym wedi ceisio herio ein timau gyda rhywbeth newydd eleni eto, felly mae gennym bedwar cylched newydd yn ogystal â dringo rhiw anodd iawn Craig Glais fel rhan o'r digwyddiad yn Aberystwyth" dywedodd Mick Bennett, Cyfarwyddwr y Ras o trefnwyr y gyfres, SweetSpot.

 

Mae Tîm newydd sbon WIGGINS a ffurfiwyd yn 2012 gan enillydd Tour de France Syr Bradley Wiggins a tîm ONE Pro Cycling cricedwr Lloegr Matt Prior yn ymuno â'r rhestr o dimau a fydd yn herio’r buddugwyr blaenorol JLT Condor a gyflwynir gan Mavic, sy'n gobeithio amddiffyn eu teitl.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net