Pennaeth BBC Cymru dan y lach am ‘wawdio’ datganoli pwerau darlledu

Mae pennaeth y BBC yng Nghymru wedi cael ei feirniadu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am awgrymu nad yw system darlledu Gwlad y Basg - lle mae’r llywodraeth ddatganoledig gyda pwerau dros y maes - gystal ag un Cymru, gerbron pwyllgor y Senedd heddiw.

Yn siarad gerbron y pwyllgor diwylliant yn y Senedd, sy’n cynnal ymgynghoriad ar drosglwyddo pwerau darlledu i Gymru, dywedodd Cyfarwyddwr y BBC yng Nghymru Rhodri Talfan-Davies: “Mae’r pwynt am ariannu yn berthnasol. Rwyf wedi gweld digonedd o ddogfennaeth gan Gymdeithas yr Iaith, maen nhw’n cyfeirio’n rhamantaidd at Wlad y Basg fel enghraifft o aml-sianel, yn y Fasgeg, ar y teledu ac ar radio… ond mae’r ariannu yma yn sylweddol uwch. Dyma’r eliffant yn yr ystafell yn yr holl sgwrs hon...”. Ni soniodd Mr Davies fod poblogaeth Gwlad y Basg draean yn llai na Chymru - gyda dim ond 2 filiwn o bobl yn byw yng nghymuned ymreolaethol Gwlad y Basg o gymharu â thair miliwn yng Nghymru.

 

Ar y llaw arall, dywedodd Prif Weithredwr S4C, Owen Evans, ei fod yn gweld “manteision clir” trosglwyddo pwerau darlledu o San Steffan i Gymru.  Yn ôl arolwg barn gan YouGov, mae 65% o bobl Cymru yn ffafrio datganoli darlledu i'r Senedd yng Nghymru.

 

Mewn ymateb, dywedodd Bethan Ruth Roberts, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Rydyn ni’n falch o glywed sylwadau positif S4C am hyn, rydyn ni’n cytuno bod manteision clir o gael pwerau darlledu yng Nghymru. Mae ei farn yn amlwg yn un synhwyrol. Ar y llaw arall, mae’r pennaeth y BBC yng Nghymru, sydd, wedi’r cwbl, yn ffigwr ymylol o fewn y gorfforaeth Brydeinig, a chyda llai o bwerau na’i ragflaenydd, wedi dangos ei anwybodaeth. Efallai bod Rhodri Talfan Davies yn ceisio plesio ei feistri yn Llundain sy’n poeni y byddai pwerau yng Nghymru yn eu hatal rhag ehangu eu hymerodraeth dros y cyfryngau yn bellach byth. Yn sicr, dyw e ddim yn poeni llawer am farn y mwyafrif clir o bobl Cymru sydd eisiau datganoli darlledu i’n Senedd ni.”
“Sut allai fe wawdio Gwlad y Basg? Ydyn nhw eisiau rhoi pwerau darlledu yn ôl i Fadrid? Wrth gwrs dydyn nhw ddim, mae gyda nhw system lawer iawn gwell na ni - gyda 6 sianel deledu a 5 gorsaf radio o Wlad y Basg am Wlad y Basg, ac mae’r iaith Fasgeg yn ffynnu ar eu cyfryngau.

 

Diffyg democrataidd

 

“Yng Nghymru, o gymharu, mae llai na hanner y boblogaeth yn gwybod bod iechyd wedi ei ddatganoli i‘r Senedd yma. Mae pawb, heblaw am bennaeth y BBC yng Nghymru mae’n debyg, yn derbyn bod diffyg democrataidd difrifol ac amlwg. Dim ond un sianel deledu Cymraeg sydd gydag un darparwr newyddion yn unig. Mae’n amlwg nad yw’r sefyllfa bresennol yn iach i’n democratiaeth na’r Gymraeg - pwerau darlledu i Gymru yw’r unig ateb.”