Plant Ynys Môn yn barod i glapio am wyau cyn y Pasg

Bydd Môn yn dathlu un o’i thraddodiadau hyfrytaf cyn y Pasg wrth i blant yr ynys ymweld â chartrefi yng Ngharreglefn, Brynsiencyn, Llynfaes, Talwrn a Llannerchymedd i glapio am wyau gan bentrefwyr caredig.
Yn draddodiadol casglai blant wyau gan ffermwyr hael a’u trosglwyddo i’w teuluoedd er mwyn coginio i ddathlu’r Pasg. Yr un yw’r rhigwm Cymraeg a’r clapiwr pren a ddefnyddir gan y plant heddiw, ond mae’r amheuthun wedi newid wrth i’r plant ymweld â phentrefwyr i gasglu wyau siocled.
Dywedodd Nia Thomas, ar ran Menter Iaith Môn, “I blant, does dim dwywaith fod y siocled yn blasu’n well pan fo pentrefwyr clên hwyliog yn agor eu drysau i ddosbarthu’r wyau. Ac i’r oedolion, nifer yn dal i gofio clapio wyau yn eu plentyndod, does dim gwell na chyfrannu at barhad un o draddodiadau llawen Môn a chefnogi bwrlwm Cymraeg y cymunedau.”
Mae croeso i deuluoedd o bob cefndir ieithyddol ymuno yn yr hwyl Cymraeg yn y lleoliadau a ganlyn.
Gweithgareddau
Dydd Mawrth 16/4/19: Neuadd Llynfaes 10am-12, Neuadd Talwrn 2pm-4pm
Dydd Mercher 17/4/19: Llannerchymedd 10am-12 gyda’r Cylch Meithrin ger y Bull.
Mae’r digwyddiad yn cynnwys addurno clapiwr, casglu wyau, ukuleles a chyfle i wneud crefftau.