Pleidlais Gwobrau Selar ar agor

16/12/2015

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Mae Cylchgrawn Selar wedi cyhoeddi fod modd bellach rhoi pleidlais ar gyfer eich hoff artist neu fand yng Ngwobrau’r Selar.  

 

Mae'r modd i chi fwrw pleidlais dros eich hoff fandiau, artistiaid, cynnyrch y Sin Gerddoriaeth Gymraeg trwy ddilyn y linc yma. Mae angen i chi ddefnyddio eich cyfrif Facebook i bleidleisio, a dim ond unwaith y bydd modd i chi fwrw pleidlais felly dewiswch yn ofalus.

 

Gallwch weld y rhestrau hir yn llawn cyn pleidleisio yma. Os ydach chi'n o'r bobl brin yma sydd ddim ar Facebook, mae modd i chi bleidleisio trwy yrru eich dewis o bob categori i ni ar ebost - gwobrau-selar@outlook.com gyda’r bleidlais yn cau ar 15 Ionawr ac felly brysiwch i bleidleisio. 

 

Tocynnau ar werth

 

Mae'r trefnwyr hefyd wedi cyhoeddi bod tocynnau cynnar Gwobrau'r Selar ar werth bellach hefyd!

 

Mae modd archebu tocyn arlein trwy ddilyn y ddolen yma am y pris cynnar o ddim ond £12 (bydd y pris llawn yn £15 nes mlaen). 

 

Am newyddion diweddaraf Gwobrau'r Selar, cadwch olwg ar y digwyddiad Facebook a nodwch bod chi'n dod.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru