'Pleidleisiau i Loegr yn unig am greu cymhlethdod', yn ôl Aelod Seneddol

04/02/2015

Categori: Gwleidyddiaeth, Newyddion

Elfyn Llwyd o blaid system gyfreithiol i Gymru

Mae’r Aelod Seneddol Elfyn Llwyd yn credu fod y cynlluniau i sicrhau pleidleisiau i Loegr-yn-unig yn atgyfnerthu'r achos dros drefn gyfreithiol i Gymru ac yn nodi cyfle i gael gwared ar yr hen endid 'Lloegr a Chymru'. 

 

Ail-gododd David Cameron y mater y llynedd yn dilyn canlyniad refferendwm annibyniaeth yr Alban, pan yr awgrymodd ar fore’r canlyniad y dylid newid y sefyllfa yn Lloegr, gan fynnu y dylai Aelod Seneddol o Loegr yn unig fod a’r hawl i bleidleisio ar faterion sy’n benodol i Loegr. 

 

Mae gan lawer amheuon dros ba mor ymarferol yw ei gynlluniau gan y bydd yn esgor ar nifer o broblemau, gyda’r ffin yn denau rhwng yr hyn sy’n berthnasol i Loegr a phynciau sydd ddim, er enghraifft egni ac adnoddau dŵr sydd heb ei ddatganoli i Gymru. Y cwestiwn ydyw, lle fydd hyn yn gadael Cymru heb system gyfreithiol ar wahan? 

 

Mae Mr Llwyd o blaid sicrhau trefn gyfiawnder ar wahan i Gymru ond mae’n gweld y dylai'r ffin gyfansoddiadol rhwng Cymru a Lloegr fod yn llawer cliriach os yw Aelodau Seneddol o Gymru am gael feto dros rai pleidleisiau.

 

Wrth siarad yn San Steffan, dywedodd Mr Llwyd:"Mewn egwyddor, mae Plaid Cymru yn gefnogol i bleidleisiau Lloegr-yn-unig ar gyfreithiau Lloegr-yn-unig, ond mae sawl amod yn perthyn i'r gefnogaeth hyn."

 

"Os yw hyn yn mynd yn ei flaen yna rhaid i hyn fod law yn llaw gydag ymreolaeth a rhaid cael gwared ar y fformiwla Barnett er mwyn rhoi terfyn ar dan-gyllido Cymru.

"Rhaid i'r ffiniau cyfansoddiadol aneglur rhwng Lloegr a Chymru fod yn llawer cliriach hefyd.

"Mae synnwyr cyffredin yn dweud mai'r datrysiad amlwg i hyn yw sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahan i Gymru - rhywbeth mae Plaid Cymru wedi ei gefnogi ers blynyddoedd."

 

Mae’n gweld y bydd pleidleisiau i Loegr yn unig yn creu rhagor o ddryswch cyfansoddiadol,"Ar hyn o bryd, bydd pleidleisiau Lloegr-yn-unig yn creu mwy gymhlethdod yn San Steffan mewn system sydd eisoes yn ddigon dryslyd.

 

Ychwanegodd, "Mae democratiaeth Cymru yn aeddfedu gyda phwerau cynyddol yn cael eu trosglwyddo o San Steffan. Mae hi'n hen bryd cael gwared ar yr hen uned "Lloegr a Chymru" ddyddiedig ac i'n cenedl gael yr offer priodol i basio deddfau cyflawn a chynhwysfawr a sicrhau cyfiawnder mewn modd sydd fwyaf buddiol i bobl Cymru."

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net