Pontio yn croesawu gwestai arbennig

10/03/2016

Categori: Celfyddydau, Hamdden, Newyddion

Bydd Canolfan Pontio ym Mangor heno yn croesawu gwestai arbennig iawn o’r enw Jan Harlan gyfer y dangosiad o IDA, ffilm Pavel Pawlikowski a enillodd Oscar.

Yn ogystal â chyflwyno’r ffilm, bydd Jan Harlan yn cynnal sesiwn cwestiwn ac ateb gyda’r gynulleidfa yn dilyn y ffilm.  

 

Dywedodd Nathan Abrams, Athro mewn Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Bangor, “Mae hi’n bleser gwhodd Jan Harlan yma i Fangor.  Chwaraeodd ran allweddol fel Cynhyrchydd Gweithredol Stanley Kubrick o Barry Lyndon i Eyes Wide Shut.  Mae rhain yn rhai o’r ffilmiau gorau sydd wedi cael ei gwneud.  Helpodd Jan ddod a AI i’r sgrîn, ac mae wedi bod yn rhan o sawl rheithgor gwyl ffilm.”

 

Bydd Pontio hefyd yn rhedeg dangosiad dwbl o ffilm Affricanaidd yr wythnos hon, gyda chyfle i siarad gyda sefydlwr yr ŵyl ffilm Watch Affrica Fadhili Maghiya am gyrhaeddiad a sgôp sinema fodern Affricanaidd ar ddydd Mercher, 9 Mawrth gydag Under The Starry Sky (15) am 5.30pm a Finding Fela (15) am 8.15pm.

 

Ychwanegodd Emyr Williams, Cydlynydd Sinema yn Pontio, “Mae’n grêt medru cynnig i gynulleidfaoedd y cyfleoedd yma i glywed gan rai sydd wedi bod yn ymwneud â’r diwydiant am amser hir, megis Jan Harlan, fel rhan o brofiad sinematig lawn.  Mae ein rhaglen ar gyfer mis Mawrth, yn ogystal â’r ffilmiau diweddaraf, hefyd yn gyfle i fynd ychydig yn ddyfnach i mewn i ddiwylliant ffilm ac edrychaf ymlaen at weld pa fath o alw sydd yna ar gyfer y math yma o ddigwyddiadau.”

 

Bydd y digwyddiad yn cychwyn am 8.15pm.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru