Pryd delfrydol i’w rannu gyda rhywun arbennig ar ddydd Santes Dwynwen
24/01/2012
Categori: Bwyd

Cig Oen Bys a Bawd gyda Saws Bara Lawr a Pherlysiau
- Dwy rag cig oen Cymru (wedi’u torri yn eu hanner)
- 1 llond llaw fawr mintys ffres
- 1 llond llaw fawr persli ffres
- 1 ewin garlleg, wedi’i wasgu
- 1 llond llwy bwdin caprys bach
- 6 cornichon
- 3 llond llwy fwrdd olew olewydd
- Croen 2 lemon a sudd 1 lemon
- 1 llond llwy bwdin bara lawr ffres neu o dun
- 4 llond llwy fwrdd briwsion bara
- 1 llond llwy fwrdd olew
- 15g menyn
Dull:
- Cynheswch y ffwrn i 200°C/400°F/Nwy 6.
- Torrwch linell trwy fraster y cig a’i sesno’n dda.
- Seriwch y cig mewn ffreipan wrthlynu boeth nes ei fod yn euraid a’i roi yn y ffwrn am 15 munud. Tynnwch o’r ffwrn a’i adael i orffwys am 5 munud.
- Torrwch y mintys, y persli, y garlleg a’r cornichons yn fân. Ychwanegwch yr olew olewydd, croen 1 lemon, y sudd lemon a’r bara lawr a’i droi. Sesnwch at eich dant.
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrïo ac ychwanegu’r menyn. Ar ôl iddo doddi ychwanegwch y briwsion a’u gorchuddio â’r olew a’r menyn. Coginiwch dros wres canolig nes y byddant yn grispyn ac yn euraid. Tynnwch oddi ar y gwres ac ychwanegu croen 1 lemon.
Rhannwch y cytledi a’i gweini gyda’r saws dipio a’r briwsion lemon.
Ryseitiau gan - Nerys Howell - Awdur Cymru ar Blat