Pryder dros hawliau iaith newydd Cyngor Caerfyrddin

23/10/2015

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi pryder y gallai manylion yr hawliau iaith newydd a gafodd eu cyhoeddi'n gynharach yn y mis danseilio penderfyniad cynghorwyr Sir Gaerfyrddin i weithio'n fewnol drwy'r Gymraeg.  

 

Mewn llythyr at Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, mae'r mudiad ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn rhybuddio bod ei phenderfyniad i beidio â gofyn i gyngor Sir Gaerfyrddin weithredu ar rai o'r dyletswyddau iaith newydd yn golygu nad oes amserlen statudol ar gyfer gweithredu ar gytundeb trawsbleidiol y cyngor i weithio'n fewnol yn Gymraeg.   

 

Yn gynharach yn y mis, cyhoeddodd y Comisiynydd hysbysiadau cydymffurfio sy'n manylu ar bryd fydd hawliau iaith newydd yn dod i rym. Tra bod Cyngor Gwynedd yn gorfod cael digon o staff sy'n siarad Cymraeg i gynnal cyfarfodydd personol gydag aelodau'r cyhoedd yn yr iaith heb gyfieithu ar y pryd, nid oes amserlen i gynghorau Sir Gaerfyrddin na Cheredigion i gyflawni'r un lefel o wasanaeth.   

 

Mae'r manylion yn yr hysbysiadau cydymffurfio hefyd yn golygu y gallai darpariaeth cyrsiau addysg, fel gwersi nofio Cymraeg, yn Gymraeg fod yn ddibynnol o asesiad o'r galw yn hytrach na chael eu darparu'n Gymraeg yn ddiofyn.   

 

Meddai Manon Elin James, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn y llythyr at y Comisiynydd, "Drwy beidio â gofyn i Sir Gaerfyrddin, dros amser, i gyrraedd yr un lefel â Chyngor Gwynedd rydych yn tanseilio'r cytundeb trawsbleidiol yn y sir. Mae cynghorwyr o bob plaid yn y sir wedi gweithio yn galed i fabwysiadu polisïau blaengar, ond rydych chi wedi gadael nhw i lawr drwy weithredu'n erbyn eu hewyllys."  

“Nid yn unig bod hyn yn golled i drigolion yn y sir o ran yr hyn gallan nhw ddisgwyl gan y cyngor yn Gymraeg, ond mae'n mynd yn groes i nod statudol y Comisiynydd, sef i gynyddu defnydd o'r Gymraeg.”  

 

Ychwanegodd Manon Elin, “Mae angen rheoliadau fel y safonau i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu i'r cyhoedd a bod hawliau gan weithwyr. Yma yn Sir Gâr rydyn ni wedi bod yn pwyso ar y Cyngor ac yn pwysleisio mai gweithio drwy'r Gymraeg sydd ei angen – nid cyfieithu er mwyn bod pethau ar gael yn Gymraeg – fel bod popeth yn digwydd yn Gymraeg beth bynnag. Mae'n syndod nad yw'r Comisiynydd wedi cefnogi dyhead cynghorwyr ar draws y pleidiau i gyrraedd y safonau uchaf."  

 

“Un o'r pethau fyddai wedi gallu gwneud gwahaniaeth yw safonau yn ymwneud â chyrsiau addysg. Yn ôl rheoliadau newydd Comisiynydd y Gymraeg bydd disgwyl i'r cyngor sir asesu'r angen am wersi fel gwersi nofio yn Gymraeg, yn hytrach na'u bod yn Gymraeg beth bynnag. Mae holl blant y sir yn cael addysg Gymraeg felly pam nad yw pob cwrs yn cael ei gynnig yn Gymraeg?” 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru