Ramsey ac Allen yn ôl i Gymru yn erbyn Gwlad Belg

06/11/2014

Categori: Chwaraeon, Newyddion

Mae Aaron Ramsey a Joe Allen yn ôl yng Ngharfan Cymru i wynebu Gwlad Belg yn rownd ragbrofol Euro 2016.

 

Fe wnaeth y ddau fethu'r ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn Bosnia-Hercegovina a Chyprus fis diwethaf gydag anafiadau.

 

Mae lle i Gareth Bale yn y garfan hefyd ar ôl iddo chwarae i Real Madrid ddydd Mawrth yn dilyn anaf.

 

Does dim lle yn y garfan i Andy King sydd wedi ei wahardd yn dilyn cerdyn coch yn erbyn Cyprus, na chwaith Simon Church - sydd wedi anafu pont yr ysgwydd - na Dave Edwards - sydd wedi anafu ei ben-glin.

 

Mae'r amddiffynwyr James Collins, Adam Matthews a Paul Dummett hefyd yn dychwelyd.

 

Mae tîm Chris Coleman ar frig Grŵp B cyn y gêm, wedi buddugoliaethau yn erbyn Cyprus ac Andorra, ond mae Gwlad Belg ac Andorra wedi chwarae un gêm yn llai.

 

Bydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg ym Mrwsel ar Tachwedd 16.

 

Carfan Cymru v Gwlad Belg

 

Wayne Hennessey - Crystal Palace, Owain Fôn Williams - Tranmere Rovers, Danny Ward - Lerpwl

 

Ashley Williams - Abertawe, James Chester - Hull City, James Collins - West Ham United, Ben Davies - Tottenham Hotspur, Paul Dummett - Newcastle United, Neil Taylor - Abertawe, Sam Ricketts - Wolverhampton Wanderers, Chris Gunter - Reading, Adam Matthews - Celtic, Danny Gabbidon - Caerdydd

 

Emyr Huws - Wigan Athletic, Joe Ledley - Crystal Palace, Joe Allen - Lerpwl, Aaron Ramsey - Arsenal, Jonathan Williams - Crystal Palace (Ipswich Town), Lee Evans - Wolverhampton Wanderers, Hal Robson-Kanu - Reading, David Cotterill - Birmingham City, George Williams - Fulham,

 

Tom Lawrence - Caerlyr, Jake Taylor - Reading, Gareth Bale - Real Madrid

 

Ffynnonell: Gwefan BBC Cymru Fyw    Dyddiad Cyhoeddi: 06/11/2014

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net