Rhagflas i'r gêm fawr heno

06/07/2016

Categori: Chwaraeon, Hamdden, Newyddion

Rhag ofn nad ydych yn gwybod, mi fydd Cymru yn wynebu Portiwgal yn rownd gyn-derfynol Euro 2016 heno, gyda’r gic gyntaf am 8 o gloch.

Mae miloedd o Gymry wedi tyrru i Lyon i wylio’r gêm, ond bydd cannoedd ar filoedd yn llenwi ffanbarthau ar hyd a lled y wlad, gyda Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd wedi llenwi yn barod, tra fod Wrecsam ac Abertawe yn creu eu ffanbarthau eu hunain. 

 

Hon yw’r gêm fwyaf yn hanes tîm cenedlaethol Cymru erioed ac mae’r genedl yn dal eu gwynt, gyda sawl un ar bigau'r drain ac heb gysgu neithiwr. 

 

Ronaldo v Bale

 

Fe fydd llawer yn edrych ymlaen at y frwydr rhwng seren Portiwgal, Cristiano Ronaldo a'n arwr ni, Gareth Bale, y ddau yn chwarae i Real Madrid. Fe wfftiodd ymosodwr Cymru y frwydr hon yng nghynhadledd y wasg carfan Cymru, gan honni mae’r ‘’y tîm sy’n bwysig. Does dim sêr yn ein tîm ni, rydym i gyd yn gweithio fel un’’.

 

Newyddion timau 

 

Yn anffodus i Gymru mae dau o sêr Cymru, Aaron Ramsey a Ben Davies wedi eu gwahardd am gasglu dau gerdyn melyn ond mae gan Bortiwgal broblem hefyd gyda amheuaeth dros ffitrwydd amddiffynnwr Portiwgal, Pepe oherwydd anaf i’w glun.  

Mae Portiwgal wedi colli 3 o'i 4 rownd gyn-derfynol ym Mhencampwriaeth Ewrop, gyda'r tair o'r gemau hynny wedi mynd i amser ychwanegol. O'r timau y maent wedi colli yn eu herbyn, fe aeth y gwrthwynebwyr ymlaen i ennill y twrnameint. 

 

Mae staff Lleol.cymru yn dymuno pob lwc i dim Cymru.  Gorau chwarae Cyd-chwarae! Gyda’n gilydd yn gryfach.  C’mon!!