Rheoliadau yn peryglu bywoliaeth ffermwr bîff o Forgannwg

Mae ffermwr bîff o Forgannwg yn galw ar Lywodraeth Cymru i addasu'r rheoliadau adnoddau dwr ar fyrder gan y byddant 'yn cael effaith anferth ar eu bywoliaeth'.

Mae ffermwyr bîff a defaid o Forgannwg Richard Walker a’i bartner Rachel Edwards yn rhedeg Fferm Flaxland - fferm bîff a defaid 120 acer ar gyrion Y Barri ym Morgannwg.  Mae’r cwpwl yn dweud y bydd rhaid iddynt gael gwared ar eu gwartheg os na fydd y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) cyfredol yn cael eu haddasu i ymgorffori argymhellion a wneir gan grwpiau rhanddeiliaid y diwydiant.
 
Mae Richard a Rachel yn cadw 35 o wartheg magu a 130 o ddefaid magu ac maent ar fin cyrraedd pen eu tennyn.
 
“Rydyn ni wedi cael sesiwn gyda Cyswllt Ffermio i weld be’ mae’n rhaid i ni ei wneud, a wnaethon nhw ddim dweud dim byd nad oeddem ni’n ei wybod yn barod, heblaw bod gennym ni ddigon o dir i ymdopi â’r slyri rydyn ni’n ei gynhyrchu.  Felly ni fyddai’n rhaid i ni allforio. Ond byddai’n rhaid i ni orchuddio un o’n hiardiau ni, sy’n siâp lletchwith, a gorchuddio’r iard rydyn ni’n hel slyri iddo, a gosod storfa slyri. Nid oes gennym ni un ar y funud,” meddai Rachel Edwards.
 
“Yn mynd yn ôl faint y gwnaeth y sied y gwnaethom ni ei chodi yn ddiweddar gostio, dw i ddim yn meddwl y bydd newid allan o £50,000 os ydyn ni’n trio bodloni gofynion y rheoliadau newydd.  Dydi 35 buwch ddim yn dod â’r math yna o bres i chi. O le ydych chi’n cael yr arian? Ac mae’n rhaid ei dalu’n ôl ar y diwedd os ydych chi’n ei fenthyg.  Rydyn ni’n edrych ar y plant yn gorfod talu’r hyn rydyn ni’n ei wario yn ei ôl, mae’n debyg.  Byddai’n llawer mwy o straen gorfod talu’r arian hwnnw i gyd yn ôl na chael gwared ar y gwartheg.”
 
“Bydd y rheoliadau hyn yn cael effaith anferth ar fusnes ein fferm.  Os nad oes dim yn cael ei wneud i ddiwygio neu ganslo’r hyn rydyn ni’n ei wynebu, ni fydd dewis ond cael gwared a’r gwartheg.  Byddai trio cydymffurfio gyda’r rheoliadau’n costio gormod i ni,” meddai Richard Walker.
 
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Lesley Griffiths y cynlluniau mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Tachwedd y llynedd, ac ar ôl hynny daeth yn amlwg bod mwyafrif y cynlluniau wedi eu 'torri a'u gludo' o'r rheolau Parth Perygl Nitradau (NVZ) sydd, ar hyn o bryd, ond yn effeithio ar 2.4% o Gymru.
 
Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ym mis Ionawr y byddai cyllid o £11.5 ar gael i helpu ffermwyr i gydymffurfio â'r rheolau newydd - dyraniad yr oedd eisoes wedi'i gyhoeddi o'r blaen ym mis Medi 2020 - mae hyn ond yn cynrychioli 3% o'r £360 miliwn y mae asesiad effaith Llywodraeth Cymru ei hun yn amcangyfrif y gallai'r costau fod i ffermwyr Cymru.
 
“Nid oes digon o arian i fynd i bawb, ac mae amcangyfrif cyfanswm y bil yn uwch na chyllid blynyddol ffermio yng Nghymru.
 
“Mae'r ymylon yn dynn ar wartheg sugno llawr gwlad fel y mae.  Rydyn ni’n edrych ar wario degau o filoedd er mwyn dilyn y rheolau. Ydi e werth e?” ychwanega Richard
 
Ar fferm Flaxland mae'r tail yn cael ei wasgaru ar oddeutu 30 erw o gaeau ym mis Medi pan fydd y caeau'n glir ac mae'n cael ei adael am gwpl o fisoedd i bydru i lawr a mynd i'r ddaear cyn cael ei ddefnyddio i bori ŵyn y tymor newydd.
 
“Mae'n arbed ni i ddefnyddio gwrtaith artiffisial. Gwrtaith organig yn erbyn y pethau artiffisial sy'n £300 y dunnell. Rydyn ni'n gwasgaru'r slyri dros y gaeaf, mae'n helpu'r borfa i dyfu a gallwn droi'r ŵyn a'r defaid allan yn gynnar. Mae gan ŵyn y gwanwyn borfa dda ffres ac nid yw wedi costio ffortiwn i ni mewn gwrtaith.
 
“Rwy’n edrych ar yr hyn y mae’n ei wneud i fy nhir - mae gan ŵyn y tymor newydd borfa wyrddlas, cwpl o fodfeddi o daldra ac maent yn ffynnu. Gallwn gynhyrchu ŵyn 12 wythnos oed yn barod i'w lladd ar borfa a llaeth heb ddwysfwyd. Hebddo, ni fyddai’r borfa'r un mor fuddiol i ŵyn y tymor newydd ag y mae nawr. Byddai prinder porfa tua mis Chwefror a mis Mawrth. Mae'r ffordd rydyn ni'n gwneud pethau yma yn gweithio mewn rhythm gyda'r holl dda byw a'r amgylchedd. Rydym hefyd yn delio ag ôl troed carbon ein cynnyrch trwy werthu ein hŵyn yn lleol i Gigyddion I.G. Nicholas yn y Bont-faen, sy’n golygu mai ychydig iawn o filltiroedd sydd ganddyn nhw i deithio o’r fferm i’r plât,” meddai Richard.
 
Gan mai ef yw'r drydedd genhedlaeth i ffermio'r tir, dywed Richard nad yw'r system ffermio wedi newid llawer dros y blynyddoedd ac ni fu llygredd erioed yn broblem yma.

 

Cadw gwartheg ar hyd fy oes


 
“Dw i wedi cadw gwartheg ar hyd fy oes, roedd fy nhaid yn arfer godro, ac fe roddodd e orau i odro yn y 60au, ac ers hynny rydyn ni wedi bod yn cadw gwartheg sugno.  Dyw’r ffordd rydyn ni’n cadw nhw heb newid, bryd hynny roedd yr iardiau yn agored ac roeddent yn cael eu bwydo ar bad concrit a chafodd beth bynnag oedd ar ôl ei grafu i fyny ac aeth allan. Ni fu’n broblem erioed, ac nid ydym ni erioed wedi cael digwyddiad llygredd yma. Mae’r afon gerllaw wedi cael ei phrofi lawer tro, ac nid oes byth broblem.
 
“Dw i, fel nifer o ffermwyr eraill, yn cymryd ein cyfrifoldeb i edrych ar ôl yr amgylchedd, gan gynnwys ein dyfroedd, o ddifri.  Rydyn ni wastad wedi bod yn glir wrth ddweud fod un digwyddiad yn ymwneud â llygredd yn un yn ormod, a dylai’r rhai sy’n euog o lygru ein hafonydd fod yn atebol.  Ni fydd llawer yn dadlau â hynny.  Ond byddai cyflwyno’r rheoliadau hyn ar draws Cymru, gan fynd yn erbyn yr argymhellion mae Llywodraeth Cymru wedi’u derbyn gan eu grŵp gorchwyl a gorffen eu hunain, yn syndod, a bydd nifer o ffermydd teuluol bach a chanolig eu maint yn gadael y busnes o gadw gwartheg.” dywedodd.