Rhyddhau ffilm am siwrne'r tîm cenedlaethol yn Ewro 2016

27/02/2017

Categori: Celfyddydau, Chwaraeon, Hamdden, Newyddion

Fe fydd ffilm yn cael ei rhyddhau yr wythnos hon sy’n olrhain stori anhygoel am siwrne ragorol Cymru i rownd gynderfynol Ewro 2016.

Mae National Amusements, mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac Only The Best Productions ac mewn cydweithrediad â New Era Global Productions, yn falch o gyhoeddi fod Don't Take Me Home, rhaglen ddogfen ysbrydoledig sy’n dilyn taith ryfeddol Cymru yn cael ei ryddhau mewn sinemâu ledled Cymru ar ddydd Gwener. 

 

Dros y 60 mlynedd diwethaf mae Cymru wedi ceisio a methu sawl tro i gymhwyso ar gyfer prif dwrnamaint pêl-droed. Wedi’r galar yn dilyn marwolaeth drasig Gary Speed a cholli’n drwm sawl gwaith yn eu gosod fel tîm gwlad fach heb unrhyw bedigri, roedd hi’n anodd iawn darogan sut y byddai Cymru’n perfformio. 

 

Taith anhygoel

 

Dan arweiniad Gareth Bale a’r rheolwr ysbrydoledig Chris Coleman a’r is-reolwr Osian Roberts, datblygodd y tîm yn gyflym i fod yn ffefrynnau annisgwyl gan synnu miliynau o wylwyr. Mae'r ymadrodd ‘Yma o Hyd’ yn addas iawn i ddisgrifio camp gwlad leiaf yn hanes y gêm wrth gyrraedd rownd gynderfynol prif dwrnamaint. Mae DON’T TAKE ME HOME yn adrodd hanes y daith honno ac yn disgrifio sut llwyddodd Cymru i ysgwyd y byd pêl-droed drwy guro Gwlad Belg, ffefrynnau’r gystadleuaeth, i gyrraedd y rownd gynderfynol - gan ganolbwyntio ar y chwaraewyr, y rheolwyr a’r cefnogwyr.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru